Dyfarnu £20 miliwn i chwe phrosiect sy'n cysylltu pobl â threftadaeth naturiol

Dyfarnu £20 miliwn i chwe phrosiect sy'n cysylltu pobl â threftadaeth naturiol

School children visit the greenhouses at Birmingham Botanic Garden
School children visit the Birmingham Botanical Garden glasshouses. Credit: Irina Mackie.
O Sir Benfro yng Nghymru i Ogledd Swydd Lanark yn Yr Alban, mae ein rownd ddiweddaraf o grantiau'n hyrwyddo mynediad at fannau gwyrdd ar garreg drws cymunedau.

Nid yn unig y mae treftadaeth naturiol ffyniannus yn dda i'r amgylchedd, mae mynd allan ym myd natur hefyd yn gwella iechyd meddwl pobl. Y fantais ychwanegol yw, pan fyddwn yn fforio ein mannau gwyrdd lleol ac yn cymryd rhan mewn prosiectau byd natur, rydym yn meithrin cysylltiadau â'n cymuned hefyd.

Bydd y prosiectau ysbrydoledig a ariannwyd gennym yn ein cyfarfodydd pwyllgor ym mis Mehefin nid yn unig yn gwarchod yr amgylchedd ac yn achub treftadaeth, maent hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd, gofalu am natur lle maen nhw'n byw a dysgu sgiliau newydd.

“Mae pob un o’r prosiectau ysbrydoledig hyn... yn gweithio i hyrwyddo manteision lles lleoedd gwyrdd hanfodol i adfywio a meithrin dyfodol gwydn i bobl a’n hamgylchedd naturiol.”” 

Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Mynnwch gip ar y prosiectau diweddaraf rydym wedi'u hariannu

Nurturing Natural Connections, Gogledd Swydd Lanark

Rydym wedi dyfarnu £2.6m i Ymddiriedolaeth Natur Yr Alban i reoli mwy na 330 hectar o goetir brodorol, plannu dros 2,000 o goed a gwella dolydd blodau gwyllt a dyfrffyrdd yn Cumbernauld.  Yn y broses, bydd y prosiect partneriaeth pum mlynedd hwn yn rhannu manteision lles mannau gwyrdd trefol gyda dros 6,000 o aelodau'r gymuned.

Community members in hi vis working in nature.
Nurturing Natural Connections. Credyd: Natalie Dunn.

Meddai Tracy Lambert, Rheolwr Prosiect Cumbernauld Living Landscape: “Er bod Cumbernauld yn gartref i fywyd gwyllt anhygoel, mae llawer ohono mewn cyflwr gwael ac nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o’r harddwch sydd ar eu carreg drws. Ers dros 10 mlynedd, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol i adfer ein mannau gwyrdd, ac rydym yn gyffrous i ddechrau ein pennod nesaf gyda Nurturing Natural Connections.”

Birmingham Botanical Gardens

Yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, rydym wedi dyfarnu £9 miliwn i gael y gymuned i gymryd rhan yn y gwaith o adfer tŷ gwydr rhestredig Gradd II* yr Ardd Fotaneg ac ailarddangos ei chasgliad byw o dros 30,000 o blanhigion.

Bydd y prosiect yn gwella mynediad i'r gerddi a'r casgliadau, ac mae'n disgwyl cynnwys dros 22,000 o bobl drwy ddigwyddiadau, gweithdai a chyfleoedd gwirfoddoli, yn ogystal â thrwy ystod o adnoddau ar-lein.

A person is taking part in a community workshop in horticulture, with a plant in their hand.
Credyd: Birmingham Botanical Gardens.

Meddai Sue Beardsmore, Cadeirydd Birmingham Botanical Gardens: “Wrth i ni agosáu at ein daucanmlwyddiant, gallwn nawr sicrhau bod modd i bawb ymchwilio, rhannu a mwynhau Birmingham Botanical Gardens, y Casgliad Byw unigryw a threftadaeth diriaethol ac anniriaethol y 'gofod gwyrdd gwyrthiol' hwn am y 200 mlynedd nesaf.”

Cysylltiadau Tirwedd: Gogledd y Pennines, Swydd Durham

Rydym wedi dyfarnu £654,000 mewn arian datblygu cyn grant cyflwyno posibl o hyd at £9.35m i ganiatáu i Dirwedd Genedlaethol Gogledd y Pennines – Geoparc Byd-eang UNESCO – ddatblygu cynlluniau ar gyfer menter Cysylltiadau Tirwedd hir dymor.

Bydd y prosiect yn ailgysylltu cynefinoedd pwysig ac yn cefnogi 250 o ffermwyr i ehangu arferion sy'n llesol i fyd natur a hybu cynaladwyedd eu busnesau.

Bydd rhan o’n hariannu'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cynllun grantiau bach i annog cymunedau lleol i ymgysylltu â’r ffermydd – am y tro cyntaf mewn rhai achosion.
 

Sheep surround a farmer in a landscape.
Cysylltiadau Tirwedd: Gogledd y Pennines, Swydd Durham. Credyd: Joanne Coates.

Meddai Chris Woodley-Stewart, Cyfarwyddwr partneriaeth Tirwedd Genedlaethol Gogledd y Pennines: “Drwy weithio ar y cyd â grwpiau o ffermwyr, nid yn unig yr ydym yn cynyddu effaith ffermio gwerth natur uchel ar raddfa’r dirwedd, rydym hefyd yn rhannu sgiliau a phrofiad i ddatblygu sector ffermio cryfach a mwy cydnerth.”

Cysylltu cymunedau â mannau gwyrdd

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae pob un o'r prosiectau ysbrydoledig hyn yn dangos ymrwymiad i gefnogi mwy o gynhwysiad, amrywiaeth a mynediad at fyd natur, ac mae pob un yn gweithio i hyrwyddo manteision lles mannau gwyrdd hanfodol i adfywio a meithrin dyfodol gwydn dros bobl a'n hamgylchedd naturiol.”

Gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad i £20 miliwn, ymysg y prosiectau eraill yn y rownd ddiweddaraf hon o ddyfarniadau sy'n cysylltu pobl â natur ac yn diogelu treftadaeth adeiledig, mae:

  • Woodoaks Farm, Swydd Hertford: £1.8m i drwsio ac ymestyn yr Ysgubor Ddu rhestredig Gradd II o'r 16eg ganrif, gan ei thrawsnewid yn hyb newydd i'r gymuned.
  • The Food Museum, Suffolk: £3.9m i adfer tri adeilad hanesyddol, a fydd yn helpu'r amgueddfa i ddenu mwy o ymwelwyr. Bydd hefyd yn creu partneriaethau â chymunedau lleol i sicrhau bod ei rhaglen yn canolbwyntio ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw.

Cael arian ar gyfer eich prosiect

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu pobl i gysylltu â threftadaeth naturiol, mynnwch ysbrydoliaeth trwy bori drwy ein prosiectau tirwedd, parciau a natur.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...