Canolfan Natur Cymru'n agor ei drysau i bawb

Ffug-lun o adeilad wedi'i orchuddio â phren gyda mynediad heb risiau
Mae cynlluniau wedi'u creu ar gyfer mynedfa hygyrch newydd i'r ganolfan natur. Credyd: Penseiri Childs Sulzmann.

National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million

Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Cilgerran and Eglwyswrw
Awdurdod Lleol
Pembrokeshire
Ceisydd
The Wildlife Trust of South and West Wales Limited
Rhoddir y wobr
£2420890
Bydd Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn trawsnewid Canolfan Natur Cymru yn Sir Benfro yn ganolfan cadwraeth natur ac ymgysylltu cymunedol gynhwysol.

Mae'r ganolfan yn borth i Warchodfa Natur Corsydd Teifi sy'n ymestyn dros 265 erw ac yn cynnal dros 1,000 o rywogaethau bywyd gwyllt ar draws gwlypdiroedd, coetiroedd a dolydd.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd yr adeilad 30 oed yn cael ei adnewyddu, gan wella hygyrchedd, cynnig cyfleoedd gwell i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach a chynhyrchu incwm i wneud y sefydliad yn fwy cydnerth.

Bydd y gwaith adfer yn creu mynedfa hygyrch newydd, yn newid y lifft canolog ac yn gwella effeithlonrwydd ynni. Bydd y caffi'n cael ei adnewyddu a bydd adeilad segur yn cael ei droi'n llety gwyliau i helpu ariannu gweithrediadau yn y dyfodol. 

Grŵp o bobl yn sefyll o flaen gwyrddni a cherflun a grëwyd o ddeunyddiau naturiol
Mae ymweliadau ymgynghori â chynulleidfaoedd yn rhoi cyfleoedd i gymunedau ddweud eu dweud. Credyd: Sue Davies.

Yn bwysicaf oll, bydd y prosiect yn rhoi'r flaenoriaeth bennaf i gynhwysiad. Ochr yn ochr â chynyddu mynediad ffisegol, bydd yn gwella cyfleusterau a gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr niwroamrywiol, a'r rhai ag anableddau dysgu a dementia. Bydd hefyd yn datblygu rhaglenni wedi'u targedu i annog cyfranogiad gan gymunedau LHDT+ ac yn cyd-ddylunio gweithgareddau a digwyddiadau sy'n dathlu iaith a diwylliant Cymru, gan gysylltu'r rhain â threftadaeth naturiol.

Dywedodd Sarah Kessell, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Natur: "Bydd ein prosiect yn sicrhau bod gan bob un o’n hymwelwyr yr un cyfleoedd, bod safbwyntiau pawb yn cael ei werthfawrogi a bod pawb yn cael eu hannog i gymryd rhan yn adferiad byd natur mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw."

Mynnwch gip ar fwy o brosiectau sy'n helpu pobl i gysylltu â threftadaeth naturiol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...