Cwestiynau ymgeisio: Trefi a Dinasoedd Natur
Trosolwg
Defnyddiwch y dudalen hon:
- i weld pa gwestiynau sy'n ymddangos yn y cais
- am arweiniad ar y ffordd orau o ateb cwestiynau'r cais
Mae terfyn geiriau i bob cwestiwn, ond nid oes angen i chi gyrraedd hwn. Dim ond yr wybodaeth y gofynnwn amdani sy'n berthnasol i'ch prosiect y mae angen i chi ei chynnwys.
Rydym yn argymell cyfeirio at yr arweiniad hwn wrth ateb y cwestiynau cais ar y gwasanaeth ar-lein.
Bydd Trefi a Dinasoedd Natur yn darparu buddsoddiad strategol i wella, cefnogi a diogelu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol parciau cyhoeddus trefol a lleoedd ar gyfer byd natur. Bydd yn cefnogi ac yn cymell awdurdodau lleol a’u partneriaid i greu lleoedd gwyrddach, iachach a ffyniannus drwy drawsnewid sut mae mannau gwyrdd ar draws trefi a dinasoedd cyfan yn cael eu hariannu, eu rheoli a’u gwneud yn fwy hygyrch i bawb.
Rydym am ariannu prosiectau a fydd yn adeiladu gallu ac yn galluogi awdurdodau lleol a’u partneriaid i roi treftadaeth naturiol drefol a seilwaith gwyrdd wrth wraidd eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Gallai hyn gynnwys parciau, teithiau cerdded llinellol, safleoedd natur a gerddi cymunedol. Bydd prosiectau Trefi a Dinasoedd Natur yn gweithio i wireddu buddion treftadaeth naturiol ar gyfer treftadaeth, ffyniant, iechyd a balchder lleol.
Ni fydd y fenter hon yn ariannu gwaith cyfalaf. Os dymunwch wneud cais am arian i adfywio parc hanesyddol neu wella safle byd natur sydd eisoes yn bodoli, gwnewch gais drwy ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Ewch i wefan Trefi a Dinasoedd Natur i gael gwybod mwy am ein cynlluniau a’n huchelgeisiau ehangach.
Ynghylch y prosiect
Teitl y prosiect
Dywedwch wrthym beth yw teitl eich prosiect.
Pwysig: Bydd angen i chi ychwanegu'r hashnod #NTC ar ddechrau teitl eich prosiect.
Ai hwn yw'r cais cyntaf i ni gan eich sefydliad?
[Dewiswch ydy neu nac ydy]
Os nac ydy: Dywedwch wrthym beth yw rhif cyfeirnod eich cais diweddaraf.
[Maes testun - 255 o nodau]
Dywedwch wrthym beth yw teitl prosiect eich cais diweddaraf.
[Maes testun - 255 o nodau]
Disgrifiwch yr hyn yr hoffai eich sefydliad ei gyflawni drwy eich prosiect.
Byddwn yn defnyddio eich ateb i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect. Dywedwch wrthym beth yr ydych yn gobeithio ei gyflawni ar gyfer treftadaeth naturiol a diwylliannol, ar gyfer mannau gwyrdd a glas cyhoeddus, ar gyfer cymunedau ac ar gyfer natur ar draws eich lle.
Dywedwch wrthym beth rydych yn gobeithio fydd etifeddiaeth eich prosiect.
Rydym yn cyhoeddi manylion ceisiadau a dyfarniadau grant ar ein gwefan ac mewn cronfeydd data cyhoeddus. Mae hyn yn gweddu i'n hymrwymiad i dryloywder ac egwyddorion data agored. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i darparu wrth ateb y cwestiwn hwn i ddisgrifio'ch prosiect.
[Maes testun – 150 gair]
Dywedwch wrthym beth fyddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.
Rhowch drosolwg manwl o'r hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect. Bydd hyn yn helpu ni i ddeall beth yw amcan eich prosiect.
Er enghraifft, disgrifiwch:
- Weithgareddau y byddwch yn eu gwneud i roi mynediad at fyd natur ac adferiad byd natur wrth wraidd creu lleoedd lleol. Dylai'r gweithgareddau hyn fod o fudd i dreftadaeth a natur, iechyd pobl a balchder yn eu lle. Dylent hefyd helpu'r lle i wella a ffynnu.
- Gwaith y byddwch yn ei wneud gyda chymunedau a phartneriaid i gyd-greu strategaethau a chynlluniau gwella mannau gwyrdd uchelgeisiol.
- Sut rydych chi'n bwriadu creu partneriaethau cryf, amrywiol a theg rhwng y cymunedau lleol, busnesau ac awdurdodau lleol. Gallai hyn gynnwys ffocws ar rôl mannau gwyrdd a glas trefol wrth gyflwyno gwell canlyniadau ar gyfer treftadaeth naturiol a diwylliannol yn ogystal â manteision ategol ar gyfer iechyd, llesiant, cerdded, beicio, cydnerthedd hinsawdd a chynllunio.
- Eich gwaith i ddatblygu cynlluniau gweithredu a strategaethau ariannu. Dylai’r rhain drawsnewid y ffordd y mae mannau gwyrdd a glas cyhoeddus yn cael eu defnyddio, eu rheoli a’u hariannu. Dylent fod o fudd i bobl a natur ill dau. Gallai hyn gynnwys datblygu cynlluniau prosiect sydd wedi’u costio, disgrifio’r achos dros fuddsoddi a gwneud cynlluniau ar gyfer datgloi cyllid a buddsoddiad newydd.
- Os mai dim ond yn Lloegr y cynhelir eich prosiect, unrhyw waith y byddwch yn ei wneud tuag at gyflawni Trefi a Dinasoedd Natur Lefel 1: Sylfaen neu Lefel 2: Achrediad Uwch. Er enghraifft, efallai y byddwch yn nodi adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer man gwyrdd trefol gyda chymunedau lleol, sefydlu partneriaethau lleol neu ddrafftio strategaeth seilwaith gwyrdd traws-sector. Mae gwybodaeth ychwanegol ac Offeryn Hunanwerthuso ar gael ar wefan Trefi a Dinasoedd Natur.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Ble fydd eich prosiect yn digwydd?
Rhowch gyfeiriad eich prosiect isod. Os yw eich prosiect yn cael ei gynnal ar draws ardal fawr, dywedwch wrthym beth yw cyfeiriad eich sefydliad neu brif swyddfa.
- Stryd y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]
- Dinas y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]
- Sir y Prosiect [Maes testun - 255 o nodau]
- Cod post y prosiect [Maes testun - 100 o nodau]
Rhaid i chi ddarparu cyfeirnod grid ar gyfer eich lle. Os yw eich prosiect yn cael ei gynnal ar draws ardal fawr, rhowch gyfeirnod grid ar gyfer canol yr ardal gyfan.
Defnyddir cyfeirnodau grid i ddod o hyd i union leoliad ar fap. Gallant edrych yn wahanol gan ddibynnu ar ba ran o'r Deyrnas Unedig y maent yn cyfeirio ati.
Er enghraifft:
- yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae cyfeirnodau grid fel arfer yn edrych fel hyn: SJ33889035
- yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfeirnodau grid fel arfer yn edrych fel hyn: C94704480
I gael canlyniad mwy cywir, dylech ddefnyddio cyfeirnodau grid gydag wyth neu 10 o rifau. Gallwch ddod o hyd i gyfeirnodau grid ar gyfer y safleoedd neu'r ardaloedd sy'n gysylltiedig â'ch prosiect trwy ddefnyddio offeryn fel OS Grid Reference Finder.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Esboniwch ba anghenion a chyfleoedd y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â nhw.
Yng nghyd-destun eich prosiect, dywedwch wrthym:
- pam fod angen newid yn y ffordd y mae treftadaeth naturiol, mannau gwyrdd a glas yn cael eu defnyddio, eu rheoli a'u hariannu
- sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich treftadaeth naturiol, mannau gwyrdd a glas a beth sydd angen ei wneud i’w helpu i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a’u lliniaru a chefnogi adferiad byd natur
- pam y gallai gweithio drwy ymagwedd lle cyfan fod yn ddefnyddiol wrth sicrhau adferiad byd natur a gwell mynediad at fyd natur
- pa gyfleoedd sydd ar gael i weithio gyda phartneriaid i wella mynediad at sgiliau ac arbenigedd trwy ddod ag adnoddau, syniadau ac arloesedd i mewn
- a oes cyfleoedd i ddatblygu modelau busnes newydd a strategaeth ariannu i alluogi buddsoddiad parhaus gan amrywiaeth o roddwyr, arianwyr a buddsoddwyr
- a yw adrannau awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn barod ac â'r gallu i gydweithio i gynyddu gwerth a rôl treftadaeth naturiol a mannau gwyrdd a glas yn eich lle (er enghraifft, gallai hyn fod trwy weithio gyda phartneriaid ym meysydd treftadaeth, cynllunio, teithio llesol, iechyd ac adferiad byd natur)
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Pam fod angen i'ch prosiect ddigwydd nawr?
Dywedwch wrthym pam fod angen i chi gyflwyno’r prosiect hwn nawr a pha fomentwm presennol yr ydych yn gobeithio adeiladu arno gydag uwch arweinwyr, cymunedau lleol, busnesau a’r sector gwirfoddol.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Pwy arall ydych chi wedi cysylltu â nhw ynghylch ariannu eich prosiect?
Ar y lefel grant hon mae'n rhaid i chi gyfrannu at gostau eich prosiect, gan ddibynnu ar faint o grant yr ydych yn gwneud cais amdano.
Dywedwch wrthym am unrhyw ariannu:
- rydych wedi'i sicrhau i helpu tuag at gost eich prosiect
- rydych yn bwriadu gwneud cais amdano i gefnogi'r prosiect hwn
- y byddwch yn ei godi drwy ddulliau codi arian
Os ydych yn darparu'r lleiafswm sydd ei angen, neu os na allwch ddarparu unrhyw arian partneriaeth, esboniwch pam.
Dywedwch wrthym a ydych wedi codi unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i'ch helpu i gyflwyno eich prosiect.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Dywedwch wrthym ba gyngor rydych wedi'i dderbyn wrth gynllunio eich prosiect a chan bwy.
Dywedwch wrthym am unrhyw adborth a gawsoch ar eich Mynegiad o Ddiddordeb, ac unrhyw gyngor arall y gallech fod wedi'i gael gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu eich prosiect.
Dywedwch wrthym a ydych wedi derbyn unrhyw gyngor arbenigol am eich prosiect gan unrhyw un arall, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac asiantaethau natur statudol y DU. Gallai hyn fod yn arbenigwyr ar y dreftadaeth y mae eich prosiect yn canolbwyntio arni neu sefydliadau eraill a fydd yn eich cefnogi i gyflwyno eich prosiect.
Gallai hyn hefyd gynnwys:
- unrhyw ymgynghoriad rydych wedi'i wneud gyda'ch cymuned leol a'r rhai a fydd yn ymwneud â'ch prosiect
- unrhyw gyngor gan arbenigwyr, er enghraifft:
- cyllid gwyrdd
- dylunio tirweddau
- adferiad byd natur
[Maes testun – 5,000 o nodau]
A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth?
[Dewiswch bydd neu na fydd]
Os bydd: Pwy yw eich partneriaid?
Dywedwch wrthym pwy yw eich partneriaid, natur eich partneriaethau a sut y byddwch yn gweithio ar y cyd. Rhowch enw cyswllt ar gyfer pob sefydliad partner hefyd.
Mae partner yn sefydliad arall neu gorff trydydd parti sy’n rhan annatod o gyflwyno’ch prosiect, er enghraifft perchennog eitem, adeilad, tir neu gasgliad sy’n rhan o’ch prosiect. Nid yw partneriaid yn isgontractwyr. Bydd ganddynt rôl weithredol yn y prosiect a byddant yn cymryd rhan yn y prosiect. Byddant yn helpu i adrodd ar gynnydd, yn mynychu cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd ac yn cefnogi gwerthusiad y prosiect.
Hoffem weld eich cytundeb partneriaeth os ydych yn gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni eich prosiect. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r holl bartneriaid a dylai pob parti ei llofnodi. Dylai'r cytundeb hwn adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi geisio cyngor annibynnol.
Does dim angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth oni bai bod unrhyw sefydliadau eraill yn cyflwyno rhan sylweddol o'ch prosiect.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
A fydd unrhyw ran o'ch prosiect yn digwydd yng Nghymru?
- Na fydd, nid yw unrhyw ran o'n prosiect yn digwydd yng Nghymru [Blwch ticio]
- Bydd, mae ein prosiect cyfan neu ran ohono'n digwydd yng Nghymru [Blwch ticio]
Os bydd: Dywedwch wrthym sut y caiff y Gymraeg ei defnyddio yn eich prosiect.
Os bydd eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith.
Dywedwch wrthym sut y byddwch yn defnyddio'r Gymraeg yn eich prosiect, a chofiwch sicrhau bod yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer costau cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn yr adran costau prosiect.
[Maes testun – 500 gair]
Ynghylch y dreftadaeth
Dywedwch wrthym am y dreftadaeth yn eich prosiect a pham mae'n bwysig i'ch sefydliad a'ch cymuned.
Rhowch ddisgrifiad o'r dreftadaeth fel y mae heddiw. Dylai prosiectau Trefi a Dinasoedd Natur ganolbwyntio ar fannau gwyrdd a glas trefol ar draws lle cyfan, felly wrth ddweud wrthym am y dreftadaeth dylech ddisgrifio’r ardal gyfan rydych wedi dewis gweithio ynddi.
Er enghraifft:
- parciau cyhoeddus
- gerddi cyhoeddus
- safleoedd byd natur
- camlesi
- afonydd
- mannau gwyrdd eraill
Dywedwch wrthym am:
- yr ystod o leoedd sydd i'w cynnwys yn eich prosiect
- mannau gwyrdd a glas cyhoeddus presennol ac arfaethedig
- tir fel tiroedd ysgol, priffyrdd, ystadau neu dir preifat
- unrhyw barciau neu erddi o werth hanesyddol penodol oherwydd eu dyluniad, eu hanes cymdeithasol neu eu treftadaeth naturiol
- unrhyw safleoedd treftadaeth naturiol sydd wedi'u dynodi oherwydd eu tirwedd, eu natur neu eu gwerth daearegol
- y mannau hynny sy’n cael eu gwerthfawrogi fwyaf gan gymunedau lleol
- lleoedd sydd â chyfleoedd i greu mannau gwyrdd neu las newydd ar gyfer byd natur a phobl o dir brown neu lwyd
- lleoedd sydd â chyfleoedd i gyflwyno atebion sy'n seiliedig ar fyd natur i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
- cyfanswm nifer y safleoedd sydd wedi'u cynnwys yn eich prosiect, eu cyflwr cyffredinol a chyfanswm yr arwynebedd mewn hectarau
- cyfanswm y boblogaeth yn yr ardal a gwmpesir gan eich prosiect
[Maes testun – 5,000 o nodau]
A ystyrir bod y dreftadaeth mewn perygl?
Rhaid i chi ateb ydy i'r cwestiwn hwn.
Dywedwch wrthym:
- sut yr ydych yn ariannu ac yn rheoli eich treftadaeth naturiol a mannau gwyrdd a glas ar hyn o bryd, a sut y gallai fod angen i hynny newid yn y dyfodol
- a yw eich treftadaeth naturiol a mannau gwyrdd a glas mewn perygl oherwydd diffyg adnoddau ac ariannu - os ydy, dywedwch wrthym sut mae ariannu ac adnoddau wedi newid dros y pum mlynedd diwethaf a sut y rhagwelir y bydd hynny’n newid dros yr ychydig flynyddoedd nesaf
- am unrhyw dreftadaeth warchodedig ddynodedig sydd mewn perygl neu mewn cyflwr anffafriol a pham fod y safleoedd hyn mewn perygl, er enghraifft safleoedd sydd wedi’u cynnwys ar Gofrestr Parciau a Gerddi Historic England neu safleoedd byd natur sydd wedi'u dynodi'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- am unrhyw gymunedau neu gymdogaethau sydd wedi'u tanwasanaethu'n benodol gan fyd natur
[Maes testun – 5,000 o nodau]
A fyddwch yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf fel rhan o'ch prosiect?
[Dewiswch byddwn neu na fyddwn]
Os byddwn: Rhowch fanylion
Ar gyfer prosiectau Trefi a Dinasoedd Natur, yr unig waith cyfalaf y bydd modd i chi wneud cais amdano yw costau digidol ar gyfer creu neu wella unrhyw asedau digidol.
Mae creu gwefan neu ap newydd yn enghraifft o ased cyfalaf digidol.
Dywedwch wrthym a fydd unrhyw waith digidol yn rhan o'ch prosiect, hyd yn oed os yw'n rhan fach o'ch prosiect cyffredinol. Rhowch ddadansoddiad cychwynnol i ni o'r gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud.
Nid yw mathau eraill o gostau cyfalaf yn gymwys. Er enghraifft:
- codi asedau ffisegol newydd
- adfer asedau presennol
- prynu eitemau treftadaeth neu gaffael tir
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Os ydych yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf (gan gynnwys atgyweirio neu adnewyddu) ar dir, adeiladau neu eitemau treftadaeth, dywedwch wrthym bwy sy'n berchen arno.
Dewiswch Dd/B gan nad yw'r math hwn o waith cyfalaf yn gymwys.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
A oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r ased treftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect?
[Blwch ticio]
Dewiswch nac oes gan nad yw'r cwestiwn hwn yn berthnasol.
A yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael adeilad, tir neu eitemau treftadaeth?
Dewiswch nac ydy gan nad yw caffael adeilad, tir neu eitemau treftadaeth yn gymwys.
Rheoli eich prosiect
A yw eich sefydliad wedi ymgymryd â phrosiect ar y raddfa hon yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf?
Rhowch fanylion.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Dywedwch wrthym pam mai hwn yw'r prosiect mwyaf priodol i'ch sefydliad ymgymryd ag ef ar hyn o bryd.
Pa strategaethau eraill sydd wedi cael eu hystyried? Beth fyddwch yn ei wneud os na fydd y prosiect yn mynd yn ei flaen?
Dywedwch wrthym pwy sy'n arwain neu'n eirioli dros eich prosiect. Pa lefel o gefnogaeth sydd gan y prosiect eisoes o fewn eich sefydliad, o fewn y gymuned ac ymhlith partneriaid?
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Mae ein hariannu'n ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Dywedwch wrthym a ydych o'r farn bod yr ariannu y gwnaed cais amdano'n Gymhorthdal o dan y Ddeddf ac am unrhyw gyngor yr ydych efallai wedi'i geisio.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus ac y gall fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022.
Mynnwch fwy o wybodaeth am reoli cymhorthdal yn adran Gofynion cyfreithiol a pholisi arweiniad y rhaglen.
[Maes testun – 500 gair]
A oes angen i'ch sefydliad ymgymryd ag unrhyw weithgarwch adeiladu capasiti er mwyn cyflwyno eich prosiect yn well?
Oes angen i chi ddod o hyd i unrhyw sgiliau neu arbenigedd ychwanegol? Os oes, dywedwch wrthym pa adnoddau fydd eu hangen arnoch.
Er enghraifft:
- ôl-lenwi rolau presennol i ddarparu staff ychwanegol
- arbenigedd mewn:
- cyllid
- rheoli eiddo
- ecoleg
- addasu i'r hinsawdd
- trefnu cymunedol
- hyfforddi
- cynllunio busnes
- cyllid gwyrdd
Dywedwch wrthym a fyddwch yn gwneud newidiadau i lywodraethiant eich sefydliad i'ch helpu i gyflwyno eich prosiect yn fwy effeithiol. Gallwch gynnwys costau cymorth proffesiynol ar gyfer adolygiad llywodraethu.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Dywedwch wrthym am unrhyw swyddi neu brentisiaethau y byddwch yn eu creu i gyflwyno eich prosiect.
Dywedwch wrthym am unrhyw swyddi a/neu brentisiaethau a fydd yn cael eu creu ac yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno eich prosiect. Dywedwch wrthym beth fydd eu prif rolau ac a ydynt yn swyddi amser llawn neu ran-amser.
Os ydych yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn, neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol, dywedwch wrthym beth yw ei gymwysterau ar gyfer y rôl a grëir gan y prosiect. Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli'r gwaith maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, neu a yw hyn yn dod i ben.
Bydd angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob rôl a grëir ar gyfer eich prosiect fel dogfen ategol i'ch cais.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Pwy yw'r prif bobl sy'n gyfrifol am y gwaith yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?
Rhowch wybodaeth fanwl am y tîm a fydd yn gweithio ar gyflwyno'ch prosiect, gan gynnwys pwy fydd â chyfrifoldeb cyffredinol.
Dywedwch wrthym a fydd angen cymorth ychwanegol arnoch gan ymgynghorwyr neu staff newydd.
Esboniwch pwy sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau a chymeradwyo newidiadau i'ch prosiect. Disgrifiwch y strwythur adrodd a pha mor aml y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal.
Disgrifiwch sut y byddwch yn dewis y gwasanaethau a'r nwyddau sydd eu hangen wrth i'ch prosiect gael ei gyflwyno.
Bydd angen hefyd i chi anfon y canlynol atom:
- strwythur rheoli'r prosiect
- briffiau ar gyfer unrhyw ymgynghorwyr
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Pa waith fyddwch chi'n ei wneud yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?
Nodwch yn gryno y tasgau sydd i'w cyflawni ym mhob blwyddyn o'ch prosiect.
Dylai eich cynllun prosiect ddarparu gwybodaeth fanylach am y tasgau arfaethedig.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Sut ydych chi'n bwriadu trefnu'r llif arian parod ar gyfer cam cyflwyno eich prosiect?
Gwneir taliadau grant mewn ôl-daliadau. Felly, mae angen i chi sicrhau y gallwch ddarparu llif arian parod yn llwyddiannus ar gyfer gwariant eich prosiect er mwyn osgoi trafferthion ariannol.
Bydd angen i chi ddarparu llif arian parod gyda'ch cais.
Dywedwch wrthym am unrhyw gronfeydd ariannol, incwm gan eich sefydliad neu ffynonellau ariannu eraill y byddwch yn eu cyrchu ar gyfer y llif arian parod wrth gyflwyno eich prosiect.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Dyddiad dechrau cyflwyno.
[Dewis dyddiad]
Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ym mis Gorffennaf 2025. Ni ddylech ddechrau ar eich prosiect hyd nes y byddwch wedi derbyn caniatâd ysgrifenedig gennym i wneud hynny yn sgil y penderfyniadau.
Dyddiad gorffen cyflwyno.
[Dewis dyddiad]
Ni ddylai eich prosiect gymryd mwy na thair blynedd.
A oes unrhyw derfynau amser penodol neu gerrig milltir allweddol a fydd yn cyfyngu ar amserlen eich prosiect?
Dywedwch wrthym am unrhyw ddyddiadau na ellir eu newid a fydd yn effeithio ar eich prosiect ac sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth.
Er enghraifft:
- dyddiadau pan ddaw cynigion cyllid partneriaeth i ben neu ddyddiadau olaf ar gyfer gwario cronfeydd wedi'u sicrhau neu gymeradwyo cyllidebau blynyddol
- dyddiadau cabinet neu Fwrdd allweddol
- digwyddiadau gwleidyddol, megis etholiadau lleol
- digwyddiadau allanol sy'n allweddol i lwyddiant eich prosiect
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Ein hegwyddorion buddsoddi
Mae ein pedair egwyddor fuddsoddi'n cyfeirio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033
Y pedair egwyddor fuddsoddi yw:
- achub treftadaeth
- diogelu'r amgylchedd
- cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
- cynaladwyedd sefydliadol
Mae'n rhaid i chi gymryd pob un o'r pedair egwyddor i ystyriaeth yn eich prosiect. Gallwch ganolbwyntio'n fwy ar rai egwyddorion buddsoddi nag eraill.
Eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny.
Esboniwch sut fydd eich prosiect yn achub treftadaeth.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Esboniwch sut fydd eich prosiect yn diogelu'r amgylchedd.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Esboniwch sut fydd eich prosiect yn cynyddu cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Esboniwch sut fydd eich prosiect yn gwella'ch cynaladwyedd sefydliadol.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Ar ôl i'r prosiect ddod i ben
Sut fyddwch chi'n cynnal buddion eich prosiect ac yn talu unrhyw gostau cysylltiedig?
Dywedwch wrthym sut y byddwch yn cynnal buddion eich prosiect ar ôl i'r ariannu ddod i ben.
Dylech ddweud wrthym beth yw'r prif risgiau sy'n wynebu'r prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau a sut y byddwch yn rheoli'r rhain.
Dylai hyn gynnwys beth fydd yn digwydd i'r pethau y byddwch yn eu cynhyrchu fel rhan o'r prosiect a sut y caiff y rhain eu defnyddio neu eu mabwysiadu yn y dyfodol.
Er enghraifft:
- modelau busnes newydd
- cyfryngau ariannol newydd
- strwythurau rheoli newydd
- dogfennau strategaeth
- cynlluniau buddsoddi a phiblinellau'r prosiect
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Sut fyddwch yn gwerthuso llwyddiant eich prosiect ac yn rhannu'r dysgu?
Rhaid i chi werthuso eich prosiect a darparu adroddiad gwerthuso ar ôl i chi orffen.
Bydd angen i chi greu cynllun gwerthuso ar ddechrau eich prosiect. Braslun yw hwn o sut y byddwch yn casglu data i fesur, dadansoddi a deall yr hyn rydych chi'n ei wneud. Dylai'r data a gasglwch ddarparu tystiolaeth o'r hyn y mae eich prosiect wedi'i gyflawni.
Dywedwch wrthym pwy fydd yn gwneud eich gwerthusiad. Gallai hyn fod yn staff yn eich sefydliad neu'n unigolyn neu sefydliad y bydd angen i chi ei gyflogi. Dylech ddarparu brîff ar gyfer y gwaith hwn fel dogfen ategol.
Byddem yn disgwyl gweld costau ar gyfer eich gwerthusiad wedi'u cynnwys yn eich costau prosiect.
[Maes testun – 5,000 o nodau]
Costau ac incwm y prosiect
Dywedwch wrthym am gostau ac incwm eich prosiect.
Dylech gynnwys yr holl gostau ac incwm sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.
Mae yna wahanol benawdau ar gyfer pob math o gost y gallwch ddewis ohonynt, ac ar gyfer pob math o incwm y gallech ei dderbyn i gefnogi eich prosiect.
Mae'r costau cyflwyno wedi'u rhannu'n dri chategori: cyfalaf, gweithgareddau ac arall.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys costau ar gyfer amser a threuliau staff i ymuno â digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd, sesiynau carfanau dysgu ac ymweliadau safle. Bydd y rhain ar-lein a wyneb yn wyneb. Rydym yn argymell i chi ganiatáu un diwrnod y mis ar gyfer y gweithgareddau hyn.
Costau cyfalaf
Dim ond am gostau cyfalaf sy'n ymwneud ag allbynnau digidol y gallwch wneud cais.
Allbynnau digidol
- Dylech gynnwys costau ar gyfer creu neu wella unrhyw asedau digidol a bodloni ein gofynion digidol.
Allwch chi ddim gwneud cais am:
- Gost prynu eitemau treftadaeth
- Gwaith cychwynnol
- Gwaith atgyweirio a chadwraeth
- Gwaith adeiladu o'r newydd
- Gwaith cyfalaf arall
- Offer a deunyddiau (cyfalaf)
- Costau eraill (cyfalaf)
- Ffioedd proffesiynol (cyfalaf)
Costau gweithgareddau
Staff newydd
- Dylech gynnwys costau ar gyfer staff a fydd yn gweithio ar eich prosiect. Cofiwch gynnwys unrhyw argostau perthnasol hefyd.
- Gallai hyn gynnwys costau contractau cyfnod penodol newydd, secondiadau, prentisiaethau a chost staff llawrydd i helpu cyflwyno eich prosiect. Peidiwch â chynnwys costau talu hyfforddeion yma.
- Mewn rhai amgylchiadau gall fod yn briodol cynnwys costau ar gyfer absenoldeb rhiant neu famolaeth a/neu daliadau diswyddo. Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol, gan gynnwys talu o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol i holl aelodau staff y prosiect.
Hyfforddiant ar gyfer staff
- Mae hyn yn cynnwys cost yr holl hyfforddwyr ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu staff i feithrin sgiliau newydd neu wella'u sgiliau.
Lleoliadau hyfforddiant â thâl
- Mae hyn yn cynnwys cost yr holl leoliadau gwaith ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu staff i feithrin sgiliau newydd neu wella'u sgiliau.
Hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr
- Mae hyn yn cynnwys cost yr holl hyfforddwyr ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu gwirfoddolwyr i feithrin sgiliau newydd neu wella'u sgiliau.
Teithio a threuliau ar gyfer staff
- Gallai hyn gynnwys costau teithio i safle neu leoliad. Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.
Teithio a threuliau ar gyfer gwirfoddolwyr
- Gall hyn gynnwys bwyd, teithio ac unrhyw dreuliau eraill. Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.
- Mae hyn hefyd yn cynnwys prynu a hurio'r holl gerbydau, offer a deunyddiau sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau y mae eich gwirfoddolwyr yn eu cyflwyno yn ystod eich prosiect.
Costau digwyddiadau
- Mae hyn yn cynnwys unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau, gan gynnwys llogi ystafell, lluniaeth ac offer.
Offer a deunyddiau (gweithgareddau)
Gallai enghreifftiau gynnwys esgidiau neu siacedi diddos, hetiau caled i gyrchu safleoedd, deunyddiau celf neu daflenni a chyhoeddiadau. Peidiwch â chynnwys deunyddiau sy'n ymwneud â hyfforddiant neu wirfoddolwyr yma.
Costau eraill (gweithgareddau)
- Dylid cynnwys unrhyw gostau eraill fel bwyd ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau dysgu neu hurio safleoedd. Rhowch ddisgrifiad clir.
- Efallai y byddwch am gynnwys costau ar gyfer addasiadau rhesymol yma hefyd.
Ffioedd proffesiynol (gweithgareddau)
- Mae hyn yn cynnwys unrhyw berson a benodir am gyfnod penodol i helpu gyda chynllunio, rheoli a chyflwyno'ch prosiect. Er enghraifft, rheolwr prosiect, gweinyddwr prosiect neu arbenigwr ymgysylltu cymunedol.
Costau eraill
Recriwtio
- Gall hyn gynnwys cost hysbysebu ac unrhyw dreuliau teithio ar gyfer cyfweliadau.
- Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol.
Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
- Gallwn ariannu deunyddiau hyrwyddo sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch prosiect.
- Os byddwn yn rhoi grant i chi, mae'n rhaid i chi roi cyhoeddusrwydd i hwn a'i gydnabod er mwyn i gynifer o bobl â phosibl wybod am fuddion arian y Loteri Genedlaethol ym maes treftadaeth.
Gwerthuso
- Mae'r pennawd cost hwn yn orfodol gan fod yn rhaid gwerthuso pob prosiect.
- Dylid cynnwys costau gwerthuso eich prosiect o'r cychwyn cyntaf. Efallai y byddwch am gyflogi unigolyn neu sefydliad i'ch cefnogi gyda hyn.
- Rydym yn argymell bod y costau'n gymesur â graddfa eich prosiect.
Arall
- Dylech gynnwys unrhyw gostau eraill yma. Rhowch ddisgrifiad clir o bob cost.
- Os yw eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys costau digonol ar gyfer cyfieithu i’r Gymraeg.
Adennill costau llawn
- Mae adennill costau llawn yn fath o gost a ddefnyddir i dalu costau anuniongyrchol prosiect. Mae costau anuniongyrchol yn cynnwys gorbenion, neu gostau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect y mae eich sefydliad yn ei gyflwyno, ond sy’n hanfodol i redeg eich sefydliad.
- Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol, gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad, y mae'n rhaid iddynt fod yn briodol i'r amser neu adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Wrth sector gwirfoddol rydym yn golygu sefydliadau sy'n annibynnol ar lywodraeth y mae gan eu llywodraethu, eu hariannu a'u hadnoddau ffocws gwirfoddol. Er enghraifft, gallai sefydliad yn y sector gwirfoddol:
- fod â Bwrdd Ymddiriedolwyr
- cael ei ariannu gan grantiau a rhoddion
- dibynnu ar wirfoddolwyr i gyflawni ei nodau
- Dylech gynnwys unrhyw gostau ar gyfer adennill costau llawn yma.
Grantiau cymunedol
- Gallwch gynnwys costau ar gyfer unrhyw daliadau i berchnogion trydydd parti, gan gynnwys perchnogion preifat, ar gyfer gweithgareddau sy'n cyfrannu at gyflawni nodau cyffredinol eich prosiect.
Swm wrth gefn
- Mae'r pennawd cost hwn yn orfodol. Mae swm wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i dalu am gostau annisgwyl sy'n angenrheidiol er mwyn cyflwyno eich prosiect.
- Byddem yn disgwyl i swm yr arian wrth gefn sydd wedi'i gynnwys helpu wrth reoli'r heriau neu'r risgiau a nodwyd gennych. Dylai hefyd adlewyrchu graddfa eich prosiect.
- Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys eich swm wrth gefn gofynnol yma yn unig ac nid o fewn penawdau cost eraill y cais.
Chwyddiant
- Dylech gynnwys unrhyw gostau priodol a fydd yn darparu'n ddigonol am chwyddiant a ragfynegir. Dylech gyllidebu'n briodol ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill megis deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad.
Cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
- Dyma unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect nad oes rhaid i chi dalu amdano (er enghraifft, hurio ystafelloedd neu offer). Gallwn ond derbyn cyfraniadau nad ydynt yn arian parod os ydynt yn gostau prosiect uniongyrchol y byddent fel arall yn rhan o gyllideb eich prosiect.
- Mae'n rhaid cynnwys cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y cyfraniad hwn.
Amser gwirfoddolwyr
- Dyma'r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi i gefnogi'r gwaith o gyflwyno eich prosiect. Gallai hyn gynnwys gwaith gweinyddol, clirio safle neu weithio fel stiward mewn digwyddiad.
- Ni ddylech gynnwys costau am amser pobl a fydd yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau (er enghraifft, pobl sy'n mynychu gweithdy neu'n mynd ar daith dywysedig).
- Rydym yn defnyddio cyfradd safonol o £20 yr awr i gyfrifo amser gwirfoddolwyr.
- Mae'n rhaid cynnwys amser gwirfoddolwyr yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y cyfraniad hwn.
Ni allwch ymgeisio am gynnydd mewn costau rheoli a chynnal a chadw.
Incwm y cam cyflwyno
Dewiswch y math o incwm sy'n gweddu orau i bob ffynhonnell incwm y byddwch yn ei derbyn.
- awdurdod lleol
- sector cyhoeddus arall
- llywodraeth ganolog
- rhodd breifat – unigolyn
- rhodd breifat – ymddiriedolaethau/elusennau/gwaddolion
- rhoddion preifat – corfforaethol
- masnachol/busnes
- eich cronfeydd wrth gefn eich hun
- arian arall a godir
- benthyciad/cyllid
- cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
- amser gwirfoddolwyr
Dogfennau ategol
Cyn i ni asesu eich cais, mae angen i ni weld eich dogfennau ategol.
Mae rhai dogfennau ategol yn orfodol - mae'r rhain yn ddogfennau y mae'n rhaid i bob prosiect eu darparu ar gyfer eu cais Trefi a Dinasoedd Natur. Dim ond os ydynt yn berthnasol i'ch prosiect y mae dogfennau ategol eraill yn orfodol. er enghraifft, os ydych yn comisiynu unrhyw waith, bydd angen i ni weld briffiau ar gyfer y gwaith hwnnw.
Dewiswch enw ffeil clir a disgrifiadol ar gyfer pob dogfen ategol fel y gallwn nodi pob un yn hawdd.
Y mathau o ffeiliau a gefnogir:
- .jpg
- .doc
- .docx
- .xls
- .xlsx
- .ppt
- .pptx
- .zip
- .kml
Ar gyfer dogfen ategol y ffeil map, rydym hefyd yn cefnogi gwahanol fathau o fformatau ffeil map. Ceir mwy o wybodaeth am hyn isod.
[Uwchlwytho ffeiliau]
Rhestr o ddogfennau ategol ar gyfer y cais Trefi a Dinasoedd Natur
Cyfrifon
Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd.
Mae angen i gyfrifon fod:
- yn enw cyfreithiol eich sefydliad
- â dyddiad arnynt
- â llofnod mewn llawysgrifen. Nid yw hyn yn cynnwys llofnodion digidol
- Dylid cynnwys teitl y sawl sy'n eu llofnodi. Rhaid i'r person hwn fod yn gyfarwyddwr, ymddiriedolwr, cyfrifydd, neu berson uwch arall yn eich sefydliad.
Os yw cyfrifon eich sefydliad yn hŷn na 18 mis, rhaid hefyd i chi ddarparu tri mis o'ch cyfriflenni banc diweddaraf. Dylai hyn fod y tri mis cyn y dyddiad yr ydych yn cyflwyno'ch cais.
Os sefydlwyd eich sefydliad lai na 14 mis yn ôl ac nid oes gennych set o gyfrifon wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau bod eich sefydliad wedi agor cyfrif.
Nid oes angen i ni weld eich cyfrifon os ydych yn sefydliad cyhoeddus, er enghraifft awdurdod lleol neu brifysgol.
Cynllun prosiect a chofrestr risgiau
Rhaid i bob prosiect gyflwyno cynllun prosiect a chofrestr risgiau. Rydym yn argymell i chi ddefnyddio templedi cynllun prosiect a chofrestr risgiau Trefi a Dinasoedd Natur:
Llif arian parod
Dylai hwn fod yn fanwl ar gyfer y flwyddyn gyntaf ac yn fraslun ar gyfer y blynyddoedd wedyn.
Rhagolygon incwm a gwariant
Dylai hyn gynnwys rhagolwg o'ch cyfrif incwm a gwariant, rhagolwg llif arian parod yn dangos y llif arian parod misol disgwyliedig a datganiadau o'r rhagdybiaethau sy'n sail i'r rhagolygon.
Dylai'r rhain gynnwys y pum mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect.
Strwythur rheoli'r prosiect
Amlinellwch strwythur rheoli eich prosiect er mwyn i ni wybod pwy fydd yn gwneud penderfyniadau a sut y byddwch yn rheoli newid yn ystod eich prosiect.
Dadansoddiad manwl o gostau
Taenlen orfodol sy'n rhoi manylder y dadansoddiad o gostau yn adran Costau'r prosiect y cais.
Risgiau ar gyfer y prosiect
Rhaid i bob prosiect gyflwyno cofrestr risgiau sy'n manylu ar unrhyw risgiau i'r prosiect a sut rydych yn bwriadu eu rheoli.
Nid oes angen i chi gyflwyno cofrestr risgiau ar wahân os ydych wedi defnyddio’r daflen waith cofrestr risgiau sydd wedi’i chynnwys yn y templed cynllun prosiect a chofrestr risgiau Trefi a Dinasoedd Natur:
Dogfen prif risgiau ar gyfer y cyfnod ar ôl cwblhau'r prosiect
Amlinellwch y prif risgiau sy'n wynebu'r prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau a sut y byddant yn cael eu rheoli.
Cyfrifiadau adennill costau llawn
Os ydych wedi cynnwys adennill costau llawn fel pennawd cost yn eich costau prosiect, rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n dangos sut rydych wedi cyfrifo hyn. Dylai costau fod yn gymesur â'r amser neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Gallwn hefyd dalu cyfran o gost aelod staff presennol, ar yr amod nad yw'n gweithio'n gyfan gwbl ar y prosiect a ariennir mewn swydd newydd.
Briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir
Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith rydych chi'n bwriadu ei gomisiynu wrth i'ch prosiect gael ei gyflwyno. Os ydych yn comisiynu gwaith, er enghraifft, gan arbenigwr cyllid neu ymgysylltu, dylech uwchlwytho brîff. Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint o amser y bydd yn ei gymryd, a faint y bydd yn ei gostio. Ar gyfer ffioedd dros £10,000 dylech ddod o hyd i dri thendr neu ddyfynbris cystadleuol. Ar gyfer ffioedd dros £50,000 byddwn yn disgwyl i chi ddarparu prawf o'r broses dendro gystadleuol.
Disgrifiadau swydd
Os ydych yn bwriadu recriwtio staff neu brentisiaid newydd i helpu cyflwyno eich prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob swydd newydd. Dylai pob disgrifiad swydd gynnwys y cyflog a'r oriau gwaith arfaethedig.
Delweddau
Darparwch hyd at chwe delwedd sy'n helpu rhoi darlun o'ch prosiect. Gall y rhain fod yn ffotograffau neu'n ddiagramau. Gwnewch yn siŵr bod gennych bob caniatâd sydd ei angen i rannu'r rhain gyda ni, gan y byddwn o bosibl yn eu defnyddio i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.
Map o'r prosiect
Darparwch ffeil map sy'n dangos ardal gyfan y prosiect. Dylai'r data gofodol hwn fod ar ffurf polygonau sy'n cwmpasu ardal. Dylech hefyd fod wedi darparu cyfeirnod grid pan wnaethom ofyn am ble y bydd eich prosiect yn digwydd.
Fformatau map rydym yn eu derbyn:
Shapefiles (o ESRI ArcGIS, er enghraifft)
Mae'r mathau o ffeiliau a dderbynnir yn cynnwys:
- .shp
- .sho
- .shx
- .dbf
- .pri
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cywasgu'r holl ffeiliau cydrannol i mewn i un ffeil .zip. Ni chefnogir fformatau cywasgu heblaw archif .zip.
Gwnewch yn siŵr bod y shapefile yn cynnwys geometregau dilys (gallwch wneud hyn trwy redeg nodwedd neu ategyn gwirio geometreg yn eich meddalwedd mapio).
Ffeil TAB (o MapInfo a QGIS, er enghraifft)
Mae'r mathau o ffeiliau a dderbynnir yn cynnwys:
- .tab
- .dat
- .map
- .id
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cywasgu'r holl ffeiliau cydrannol i mewn i un ffeil .zip. Ni chefnogir fformatau cywasgu heblaw archif .zip.
KML (o Google Earth, er enghraifft)
Derbynnir ffeiliau KML unigol (fel y'u hallforiwyd o'ch meddalwedd mapio).
Derbynnir ffeiliau KML Zip cywasgedig (KMZ) hefyd.
Cytundebau partneriaeth
Os ydych yn bwriadu gweithio gyda phartner i gyflawni eich prosiect, bydd angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r ddau bartner a dylai pob parti ei lofnodi. Dylai'r ddogfen hon adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi ofyn am gyngor annibynnol ar y ffordd orau o lunio cytundeb.
Datganiad
Cadarnhau'r datganiad
Rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr ansoddol i'n helpu datblygu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Gallai hyn amrywio o arolwg 20 munud i gyfweliad 2 awr.
Ticiwch y blwch hwn os hoffech gymryd rhan yn ein hymchwil, neu i gael mwy o wybodaeth. [Blwch ticio]
Rwyf wedi darllen y datganiad ac yn cytuno iddo. [Blwch ticio]
a) Diogelu Data
Rydym yn ymrwymedig i fod mor agored a thryloyw â phosibl. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynglŷn â sut rydym yn asesu ac yn gwneud penderfyniadau ar ein grantiau a sut y byddwn yn defnyddio eich ffurflen gais a'r dogfennau eraill rydych yn eu rhoi i ni. Rydym yn dilyn yr holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data sy'n berthnasol ac mewn grym o bryd i'w gilydd (y 'ddeddfwriaeth Diogelu Data'). Fel y diffinnir gan y ddeddfwriaeth Diogelu Data mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (sy'n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn rheolydd data. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol gan gynnwys gwybodaeth gyswllt ein Swyddog Diogelu Data. Gellir dod o hyd iddo ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Yn rhan o’r broses ymgeisio, byddwn yn casglu’ch enw, eich gwybodaeth gyswllt a’ch swydd yn y sefydliad rydych yn ei gynrychioli. Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gydag un o'r ymgynghorwyr ar ein Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi os byddant yn cael eu penodi i roi cefnogaeth i chi ar eich prosiect. Nid ydym yn trosglwyddo eich data i unrhyw drydydd partïon sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r UE.
Efallai byddwn yn defnyddio’ch ffurflen gais a dogfennau eraill a roddwch i ni, a’r data a gynhwysir yn:
- Benderfynu a fyddwn ni'n rhoi grant i chi.
- Darparu copïau i unigolion neu sefydliadau eraill sy'n helpu ni i asesu, monitro a gwerthuso grantiau.
- Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda ni sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau a grantiau'r Loteri Genedlaethol neu raglenni ariannu penodol.
- Cadw mewn cronfa ddata a defnyddio at ddibenion ystadegol.
- Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi sy'n ymwneud â'r gweithgaredd rydym wedi'i ariannu, gan gynnwys swm y grant a'r gweithgaredd yr oedd i dalu amdano. Efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn ein datganiadau i'r wasg, yn ein cyhoeddiadau printiedig ac ar-lein, ac yng nghyhoeddiadau neu ar wefannau adrannau llywodraeth perthnasol ac unrhyw sefydliadau partner sydd wedi ariannu'r gweithgaredd gyda ni.
- Os byddwn yn cynnig grant i chi, byddwch yn cefnogi ein gwaith o ddangos gwerth treftadaeth drwy gyfrannu (pan ofynnir i chi) at weithgareddau cyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod y byddwn yn darparu ariannu ar ei gyfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau i rannu dysgu, y byddwn o bosibl yn cysylltu grantïon eraill â chi i wneud hynny. Fe allai hyn gynnwys rhannu eich gwybodaeth ac unrhyw gyhoeddusrwydd dilynol â dosbarthwyr partner trydydd parti.
b) Rhyddid Gwybodaeth
Fel sefydliad cyhoeddus rydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 sy’n rhoi hawl mynediad i’r cyhoedd i’r wybodaeth a ddaliwn, oni bai bod unrhyw eithriadau'n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth gofnodedig a ddarparwyd i ni gan ein hymgeiswyr a grantïon.
Pan fyddwch yn cwblhau'r Datganiad ar ddiwedd y ffurflen gais, rydych yn cadarnhau nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i ni ryddhau'r ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall a ddarparwch i ni i unrhyw un sy'n gofyn am weld nhw ar ôl i'ch cais gwblhau'r broses asesu. Os oes unrhyw wybodaeth nad ydych eisiau iddi fod ar gael yn gyhoeddus, gofynnir i chi esbonio eich rhesymau isod:
[Blwch testun]
Os byddwn yn derbyn cais am wybodaeth byddwn bob amser yn ymgynghori â chi'n gyntaf ac yn cymryd eich sylwadau i ystyriaeth, a byddwn yn cymhwyso’r eithriadau yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Fodd bynnag, ni sy'n penderfynu a fyddwn yn rhyddhau eich gwybodaeth neu'n ei dal yn ôl ac ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydych yn ei ddioddef o ganlyniad i ni gyflawni'r cyfrifoldebau hyn.
Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
[Ticiwch y blwch os hoffech chi gael eich hysbysu am ein gwaith]
- Cadarnhaf fod y sefydliad sydd wedi'i enwi ar y cais hwn wedi rhoi'r awdurdod i mi gwblhau'r cais hwn ar ei ran.
- Cadarnhaf fod y gweithgaredd yn y cais yn dod o dan ddibenion a phwerau cyfreithiol y sefydliad.
- Cadarnhaf fod gan y sefydliad y pŵer, os dyfernir grant iddo, i dderbyn y grant ac i'w dalu'n ôl.
- Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn y cais hwn yn wir ac yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth.
- Rwyf yn caniatáu i’m data personol gael ei ddefnyddio fel y disgrifiwyd ac yn deall, os bydd y gofyniad yn newid o hwnnw a ddisgrifiwyd, y rhoddir gwybod i mi cyn gynted â phosibl.
Diweddariadau i'r arweiniad
Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.
Cwestiynau'r Mynegiad o Ddiddordeb (EOI)
Gwnaethom ofyn i bob ymgeisydd sy'n gofyn am grant Trefi a Dinasoedd Natur gyflwyno EOI cyn gwneud cais. Darllenwch y cwestiynau EOI: