Eilish McGuinness

Eilish McGuinness

Eilish McGuinness
Daeth Eilish McGuinness yn Brif Weithredwr ym mis Ionawr 2022, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa treftadaeth, Cyflawni Busnes.

Mae Eilish wedi gweithio ym maes treftadaeth ar hyd ei hoes broffesiynol ac mae ganddi brofiad helaeth ar draws y sector ac ehangder treftadaeth y DU. 

Ymunodd â'r Gronfa Treftadaeth yn 1996 ac mae wedi dal amrywiaeth o rolau – yn weithredol ac yn strategol – gan gynnwys Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain, Pennaeth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, Grantiau Mawr a Rhaglenni Arbennig. 

Cyn ymuno â'r Gronfa Treftadaeth, gweithiodd Eilish gyda Historic Scotland, y Gangen Henebion ac Adeiladau, Gogledd Iwerddon, Gogledd Iwerddon ac yn y sector treftadaeth yn Iwerddon. 

Mae ganddi radd mewn Hanes Celf ac Archaeoleg o Goleg Prifysgol Dulyn, ac MA o Brifysgol y Frenhines, Belfast, lle bu'n gymrawd ymchwil iau yn y Sefydliad Astudiaethau Gwyddelig ym Mhrifysgol Queen's Belfast.