Richard Sydee

Richard Sydee

Richard Sydee
Role
Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwasanaethau Busnes
Ymunodd Richard Sydee â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Mehefin 2023 fel Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Busnes.

Cyn hynny roedd Richard yn Gyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau yn yr Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol a'r Awdurdod Meinweoedd Dynol, rheolyddion iechyd ill dau a chyrff hyd braich yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Arweiniodd swyddogaethau cyllid a gwasanaethau corfforaethol y ddau sefydliad o fis Tachwedd 2016. 

Mae Richard yn gyfrifydd rheoli siartredig ac yn was cyhoeddus drwy yrfa. Cymhwysodd fel cyfrifydd tra'n gweithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, lle lle y bu'n gwasanaethu'r Llu Awyr Brenhinol, catrodau'r Fyddin ac yn y ganolfan gorfforaethol. Mae Richard wedi gweithio mewn nifer o adrannau Llywodraeth y DU gan gynnwys DWP, Defra ac yn fwy diweddar y Weinyddiaeth Gyfiawnder lle’r oedd yn Rheolwr Cyllid arni. 

Mae wedi treulio'r 10 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y sector iechyd, fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Oxleas cyn ymgymryd â'i rôl flaenorol.