Buddion
Oriau a gwyliau
Ar gyfer swydd lawn amser, bydd gweithwyr fel arfer yn gweithio 5 niwrnod yr wythnos o 40 awr, gan gynnwys un awr ar gyfer cinio, sy’n ddi-dâl.
Darperir gwyliau blynyddol o 26 diwrnod, a fydd yn codi i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth cyfrifiadwy, yn ogystal â gwyliau banc/statudol a 1.5 'diwrnod braint' bob blwyddyn.
Bydd yr oriau ar gyfer swyddi rhan amser yn pro rata yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr (net). Mae gwyliau blynyddol a hawl i Wyliau Banc hefyd yn cael eu cyfrifo ar sail pro rata.
Absenoldeb arbennig
Rydym yn caniatáu absenoldeb arbennig di-dâl a gyda thâl mewn amgylchiadau penodedig a nodir yn ein llawlyfr staff.
Dysgu a datblygu
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddysgu a datblygu. Rydym am sicrhau bod gan staff y sgiliau a'r wybodaeth gywir i gyflawni eu rolau'n effeithiol.
Rydym yn cynnig mynediad i ystod eang o gyfleoedd hyfforddi gan gynnwys gweithdai ac e-ddysgu a gyflwynir yn fewnol, yn ogystal â rhai cyfleoedd ar gyfer dysgu allanol.
Mae gennym hefyd broses rheoli perfformiad drylwyr wedi'i chynllunio i nodi a galluogi datblygiad pellach yn broffesiynol ac yn bersonol.
Pensiwn
Rydym yn cynnig yr opsiynau canlynol o ran pensiwn:
- Aelodaeth o Alpha dan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS)
- Cyfrif Pensiwn Partneriaeth
Darperir mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn yn dilyn penodiad.
Cyflog ymlaen llaw
Cynigir swm di-log ymlaen llaw i bob aelod o staff sydd wedi cwblhau eu cyfnod prawf, i dalu cost tocyn tymor blynyddol neu i brynu beic.
Ceir opsiwn hefyd o arian ymlaen llaw i dalu costau blaendal rhent am y mis cyntaf ar fflat neu dŷ. Caiff y swm a roddir ymlaen llaw ei ad-dalu ddrwy ddidyniad rheolaidd o'r cyflog.
Cynllun beicio i'r gwaith
Fel rhan o gynllun Beicio i'r Gwaith' y llywodraeth, rydym yn gallu llogi beiciau ac offer diogelwch beicwyr i weithwyr fel budd di-dreth. Bydd gweithwyr yn dewis y beic a'r ategolion diogelwch sydd eu hangen a bydd yr CGDG yn llogi'r offer i'r cyflogai drwy ostyngiadau aberthu cyflog am isafswm cyfnod o 12 mis. Gall hyn arbed hyd at 40% ar y pris gwerthu i'r gweithwyr.
Aelodaeth campfa a sgrinio iechyd
Ar ôl tri mis o wasanaeth byddwn yn cynnig hyd at £50 y mis (a delir drwy'r gyflogres ac sy'n drethadwy) ar gyfer aelodaeth i gampfa. Ar ôl blwyddyn o wasanaeth ceir hefyd opsiwn o sgrinio iechyd a ddarperir gan Nuffield Proactive Health.
Gofal Iechyd Benenden Healthcare
Mae gweithwyr yn gymwys i ymuno â Benenden Healthcare. Gall Benenden gynnig buddion gofal iechyd sy'n gweithio ochr yn ochr yn hytrach nac mewn cystadleuaeth â'r GIG. Mae'n gynllun cost isel, budd-uchel, sy'n cynnig ystod hyblyg o driniaeth ar gyfer gweithwyr a'u perthnasau enwebiedig.
Gofal Plant Di-dreth
Mae Gofal Plant Di-dreth yn gynllun a ddarperir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) sy'n rhoi cyfle i rieni gael hyd at £500 bob tri mis (£2,000 y flwyddyn) i bob plentyn helpu gyda chostau gofal plant. Bydd y llywodraeth yn talu £2 am bob £8 rydych yn ei dalu i'ch darparwr gofal plant. Telir hwn drwy gyfrif gofal plant ar-lein a sefydlwyd gennych ar gyfer eich plentyn. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan CThEM.