Hwb i wiwerod coch sydd mewn perygl a beleod yng Ngogledd Cymru

Hwb i wiwerod coch sydd mewn perygl a beleod yng Ngogledd Cymru

Gwiwer goch, wedi'i hamgylchynu gan ddail gwyrdd, yn bwyta cnau cyll.
Gwiwer goch yn bwyta cneuen gyll. Llun: Hugh Rowlands.
Rydym yn helpu i adfer cydbwysedd natur a rhoi hwb i boblogaethau dwy rywogaeth frodorol yng Ngogledd Cymru.

Mae poblogaeth gwiwerod coch a beleod Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych wedi bod yn dirywio ers degawdau.

Nawr, gyda chymorth buddsoddiad o £523,400 gennym ni, mae'r prosiect Mamaliaid Hudol yn cyflwyno mwy o'r anifeiliaid yn ôl i'r gwyllt.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y prosiect - partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog - yn gweithio gyda phobl leol ar waith cadwraeth hanfodol. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sgiliau newydd ac yn cysylltu â natur trwy weithgareddau fel adeiladu llociau i beleod a gofalu am yr anifeiliaid cyn iddynt gael eu rhyddhau.

Rydym yn helpu'r ddwy rywogaeth frodorol hyn i ymsefydlu a ffynnu'n well yn yr ardal hon drwy ehangu'r poblogaethau presennol. 

Dr Craig Shuttleworth o brosiect Mamaliad Hudol

Poblogaethau dan fygythiad

Mae gwiwerod coch yng Ngogledd Cymru dan fygythiad o ddiflannu am byth oherwydd lledaeniad gwiwerod llwyd sydd yn frodorol o Ogledd America. Mae’r wiwer lwyd yn cario'r firws wiwerod, sy'n angheuol i gwiwerod coch. Mae’r wiwer lwyd hefyd yn fwy a felly’n cystadlu gyda gwiwerod coch am fwyd.

Trwy ryddhau gwiwerod coch i goedwigoedd Gogledd Cymru, bydd y prosiect Mamaliaid Hudol yn helpu i roi hwb i'w niferoedd cyffredinol ac yn cynyddu siawns y rhywogaeth o oroesiad tymor hir.

Yn yr un modd bydd cyflwyno'r beleod – sy'n cael eu magu i'w rhyddhau yn wyllt gan sŵau gan gynnwys Sŵ Fynydd Cymreig Bae Colwyn - yn helpu i wrthdroi dirywiad y rhywogaeth honno. Ac oherwydd bod ei ddeiet yn cynnwys mamaliaid bach, bydd hefyd yn helpu i reoli niferoedd gwiwerod llwyd.

A pine marten standing on the brand of a tree
Bela'r bela.

Dywedodd Dr Craig Shuttleworth o'r prosiect Mamaliaid Hudol: "Mae Gogledd Cymru yn gartref i'r rhan fwyaf o boblogaeth gwiwerod coch Cymru ac i niferoedd bach o feleod. Drwy ehangu'r poblogaethau presennol yn yr ardal hon, rydym yn helpu'r rhywogaethau brodorol hyn i ymsefydlu a ffynnu'n well."

Meddai Drew Bennellick, Pennaeth Polisi Tir a Natur y Gronfa Dreftadaeth: "Gwiwerod coch yw un o'n mamaliaid brodorol mwyaf carismatig, ond yn anffodus ni fydd llawer o bobl ledled y DU byth yn cael y fraint o weld un yn mwynhau ei amgylchedd naturiol. Mae cochion yn dal eu tir mewn ychydig iawn o leoliadau ledled y DU, a lle mae'r poblogaethau yma, mae pobl yn angerddol am ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi eu goroesiad fel y gallai cenedlaethau'r dyfodol hefyd fwynhau gweld gwiwerod coch hefyd."               

Cefnogaeth syfrdanol

Dywedodd Dr Shuttleworth fod ymateb lleol i'r prosiect wedi bod yn aruthrol.

"Mae'r gefnogaeth gan sefydliadau cymdeithasol a chymunedol lleol i'n gwaith cadwraeth yn syfrdanol. Rydym yn gallu darparu cyfleoedd gwych i bobl gymryd rhan yn y prosiect ac ymgysylltu â'r byd naturiol yn bennaf oherwydd hyn. Mae eu brwdfrydedd yn wirioneddol syfrdanol."

Two people in a woodland attaching a pine marten feeding box to a tree
Gosod blwch bwydo beleod. Llun: Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog.

Rhagor o dreftadaeth naturiol

Darganfyddwch fwy am sut rydym yn cefnogi treftadaeth naturiol a chadwraeth rhywogaethau ledled y DU. Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect, edrychwch ar yr hyn y gallwn ei ariannu neu cysylltwch â'ch swyddfa leol i gael rhagor o wybodaeth.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...