Arian newydd ar gael i greu coetiroedd bach yng Nghymru

Arian newydd ar gael i greu coetiroedd bach yng Nghymru

Glasbrennau coed mewn ardal laswelltog
Cael grant o hyd at £40,000 i ddatblygu darnau newydd o goetir brodorol drwy ein rhaglen Coetiroedd Bach yng Nghymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, rydym yn anelu at ddosbarthu £2.62 miliwn i roi hwb i fannau gwyrdd ar draws Cymru.

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn rhoi cefnogaeth i greu Coetiroedd Bach mewn ardaloedd trefol a lleoedd a fydd yn cysylltu mannau gwyrdd presennol â'i gilydd.

Pwy all ymgeisio

Mae'r rhaglen yn agored i unrhyw un sy'n berchen ar neu'n rheoli tir yng Nghymru, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw a pherchnogion preifat.

Rydym yn cynnig grantiau rhwng £10,000 a £40,000 ar gyfer pob safle coetir. Gallwch wneud cais am greu nifer o safleoedd, ac os felly mae uchafswm o £250,000 ar gael.

Darllenwch ein harweiniad i gael gwybod mwy am sut i wneud cais am ariannu.

Glasbrennau coed mewn ardal laswelltog

Beth yw Coetir Bach?

Efallai eu bod yn fach o ran maint, ond mae gan Goetiroedd Bach uchelgeisiau mawr o ran cynnwys y gymuned a mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.

Mae Coetiroedd Bach, sydd fel arfer tua maint cwrt tenis, yn cael eu paratoi a'u plannu'n unol â model a grëwyd yn y 1970au gan y botanegydd o Japan, Dr Akira Miyawaki. Mae hyd at 25 math o goed brodorol yn cael eu plannu'n agos at ei gilydd mewn ardal lle mae'r pridd wedi cael ei gloddio allan a'i gyfoethogi gyda thomwellt (ond nid gwrtaith cemegol).

Rhan hanfodol o'r dull Coetir Bach yw cyfranogiad y gymuned. Mae'r coetir yn cael ei blannu ar y cyd gydag ysgolion, cymunedau a busnesau lleol ac mae'r dyluniad yn cynnwys ystafell ddosbarth awyr agored lle bo'n bosib. Mae tîm o Geidwaid Coed gwirfoddol yn monitro ac yn rheoli'r coetir wrth iddo dyfu, gan sicrhau y gellir defnyddio'r Coetir Bach fel gofod cymunedol.

Cyflwyno eich cais

Mae ceisiadau ar gyfer Coetiroedd Bach yng Nghymru bellach ar agor, ond sylwer bod ein porth ymgeisio ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw cynlluniedig tan 13 Ebrill.

Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu dros dair rownd. Y dyddiadau cau a'r dyddiadau penderfynu yw –

Rownd un:

  • terfyn amser ymgeisio: 10 Mai 2023
  • bydd y penderfyniad yn cael ei wneud: ddiwedd mis Mehefin 2023

Rownd dau:

  • terfyn amser ymgeisio: 15 Hydref 2023
  • bydd y penderfyniad yn cael ei wneud: ddiwedd mis Tachwedd 2023

Rownd tri:

  • terfyn amser ymgeisio: 8 Mai 2024
  • bydd y penderfyniad yn cael ei wneud: ddiwedd mis Mehefin 2024

Gweithio mewn partneriaeth

Rydym yn dosbarthu Coetiroedd Bach yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n ariannu'r rhaglen fel rhan o'r fenter Coedwig Genedlaethol Cymru i greu coetiroedd ar draws Cymru y gall pawb gael mynediad iddynt a'u mwynhau.

Bydd Earthwatch Europe, sefydliad sy'n gweithio i greu Coetiroedd Bach ar draws y DU, yn helpu i ddarparu hyfforddiant a monitro'r safonau Coetir Bach.

Mwy o wybodaeth

Darllenwch ein harweiniad ymgeisio Coetiroedd Bach yng Nghymru i ddod o hyd i bopeth y mae angen i chi ei wybod am ymgeisio – o'r mathau o brosiectau a chostau sy'n gymwys, i'r camau y mae angen i chi eu cymryd cyn cyflwyno'ch cais.