Coetiroedd Bach yng Nghymru

Coetiroedd Bach yng Nghymru

Cynllun grant gyda’r nod o greu Coetiroedd Bach, fel rhan o Goedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Cafodd y dudalen ei diweddaru ar 21 Chwefror 2024. Gweler yr holl ddiweddariadau.

Ai dyma’r cynllun iawn i chi?

  • Ydych chi’n berchen ar dir yng Nghymru, neu’n rheoli tir yng Nghymru, neu wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan berchennog y tir i wneud cais ar gyfer y cynllun hwn?
  • Ydych chi’n ystyried creu Coetir Bach sy’n glynu wrth egwyddorion Earthwatch?
  • Allwch chi gynnwys y gymuned wrth greu a rheoli safle eich coetir?
  • Oes angen grant o hyd at £40,000 arnoch ar gyfer un safle, neu hyd at £250k ar gyfer safleoedd lluosog?

Os ydych chi wedi ateb yn gadarnhaol i’r cwestiynau hyn, mae’r cynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru yn addas i chi.

Trosolwg

Mae’r angen i helpu adferiad natur yn fater brys. Mae gofalu am natur a helpu pobl i ddeall ei phwysigrwydd yn fwy perthnasol nag erioed.

Mae Coetiroedd Bach yn gynllun grant fel rhan o'r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru. Rydym yn cynnig grantiau rhwng £10,000 a £40,000 ar gyfer safleoedd (hyd at £250,000 ar gyfer safleoedd lluosog) sy’n cadw at Egwyddorion Coetiroedd Bach

Beth yw’r Goedwig Genedlaethol i Gymru?

Menter a arweinir gan Lywodraeth Cymru yw Coedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd yn creu rhwydwaith o goetiroedd a choedwigoedd ar draws Cymru, o dan reolaeth ansawdd uchel. 

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn ymestyn ar hyd a lled Cymru. Bydd yn cynnwys ardaloedd trefol a gwledig ill dau – gydag ymrwymiad i greu Coetiroedd Bach a safleoedd coetir Coedwig Genedlaethol i Gymru. 

Bydd yn sicrhau amrywiaeth enfawr o fuddion i’r amgylchedd, yr economi a chymdeithas fel a ganlyn:

  • bydd yn gwneud cyfraniad pwysig o ran gwarchod natur a mynd i’r afael â mater colli bioamrywiaeth
  • bydd yn cynyddu gwaith cynhyrchu pren a dyfir yn lleol - gan ganiatáu i’r diwydiant coedwigaeth lleol ffynnu, creu swyddi a lleihau dibyniaeth ar bren wedi’i fewnforio
  • bydd yn darparu mwy o lefydd lle gall pobl ymgolli ym myd natur a threulio amser gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd, ac yn rhoi hwb i dwristiaeth ledled Cymru 
  • bydd yn cefnogi iechyd a llesiant cymunedau - enghraifft weithredol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Ewch i'n gwasanaeth ar-lein i wneud cais nawr a gwiriwch yr adrannau 'sut i wneud cais' isod.

Coetiroedd Bach yw'r enw ar Goetiroedd Bach yng Nghymru sy'n cael eu hariannu drwy'r cynllun hwn.

Mae’r rhain yn ardaloedd newydd o goetiroedd trwchus, cynhenid sy’n dilyn dull Dr Akira Miyawaki o greu coetiroedd. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy’n cael eu rheoli’n dda, sy’n hygyrch i bobl ac sy’n rhoi’r cyfle i gymunedau lleol ymwneud â choetiroedd a natur. Dylai’r coetir fod tua 200 metr sgwâr (tua maint cwrt tenis).

Mae gan Goetiroedd Bach nodweddion ffisegol a chymdeithasol penodol ac arferion monitro gwyddonol:

Nodweddion ffisegol  

  • Bydd y Coetir Bach ei hun yn mesur oddeutu 200 metr sgwâr, gyda lle hefyd ar gyfer peiriannau trwm i wneud gwaith paratoi, felly gall cyfanswm y gofod fod hyd at 500 metr sgwâr. Bydd angen cloddiwr bach i baratoi’r pridd, a bydd angen i dryciau danfon deunydd tomwellt ac atchwanegiadau pridd eraill fynd yno.
  • Ni fydd wedi ei ddynodi’n sensitif mewn unrhyw ffordd fel SoDdGA, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ramsar neu arall.
  • Maen nhw’n cynnwys coed a llwyni cynhenid yn unig.
  • Maen nhw’n gynnyrch gwaith ymchwil maes a llenyddiaeth i’r rhywogaethau cynhenid mwyaf addas yn lleol.
  • Mae ganddyn nhw bridd sydd wedi’i baratoi yn ôl dull plannu Coetiroedd Bach.
  • Maen nhw’n goedwigoedd heb gemegion (gwrteithiau na phlaladdwyr).
  • Mae ganddyn nhw 20-25 o rywogaethau gwahanol o goed.
  • Mae ganddyn nhw 3 coeden fesul metr sgwâr.
  • Maen nhw’n darparu lle i’r coed gael llonydd i dyfu am o leiaf 10 mlynedd (dim gwaith teneuo coed na chynaeafu pren ac eithrio  mewn amgylchiadau eithriadol fel clefydau neu bryderon am ddiogelwch).
  • Ni ddylai fod â seilwaith uwchben. Gallai’r coed dyfu hyd at 20 metr neu ragor.
  • Ni ddylai fod â seilwaith tanddaearol. Fel arfer mae angen cloddio’r pridd i ddyfnder o 1 metr, ac mae’n rhaid parchu parthau clustogi cyfleustodau. 
  • mae canghennau, dail, a choed marw yn cael eu gadael i orwedd lle maen nhw wedi disgyn  
  • Gall yr ardal fod yn unrhyw siâp/cyfeiriadedd, ond rhaid i'r coetir beidio â bod yn gulach na 4m ar draws ar unrhyw bwynt penodol, heb ymyriadau (fel llwybr). Nid yw lleiniau hir tenau o dir fel gwrychoedd yn addas ar gyfer Coetiroedd Bach.
  • Bydd yn ardal agored – dydyn ni ddim am dynnu coed oddi yno i blannu rhai newydd. Mae rhywfaint o brysg neu lystyfiant isel yn iawn, yn ogystal â choed ar ymyl y safle arfaethedig oherwydd gellir o bosibl ymgorffori’r rhain yn y dyluniad. 
  • Bydd yn cael ei ffensio am y 3 blynedd gyntaf o leiaf gyda mynediad drwy gât.
  • Mae ganddyn nhw haen o domwellt (fel gwellt) sydd o leiaf 15cm o ddyfnder. 
  • Mae gan yr ardal bwynt mynediad dŵr. Mae’n bosibl y bydd angen dyfrio’r coed yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o waith cynnal a chadw, felly naill ai rhaid lleoli pwynt mynediad dŵr gerllaw neu rhaid bod modd i gerbyd a thancer dŵr gyrchu’r safle.
  • Ni fydd yn rhwystro hawl tramwy pobl. Y rheswm am hyn yw y bydd y coetir yn tyfu’n drwchus iawn a bydd yn amhosib mynd trwyddo oni bai bod llwybr penodol yn cael ei ymgorffori yn y dyluniad.
  • Bydd yn hawdd ei gyrraedd i ddefnyddwyr fel trigolion lleol, plant ysgol, a gweithwyr.

Nodweddion cymdeithasol

  • maen nhw’n cynnwys ystafell ddosbarth awyr agored lle y bo hynny’n ymarferol
  • mae ganddyn nhw bartner lleol fel gwirfoddolwr neu grŵp cymunedol, neu Awdurdod Lleol
  • maen nhw wedi’u plannu gan drigolion lleol, gweithwyr corfforaethol a/neu blant ysgol 
  • gellir eu defnyddio fel lle i drigolion lleol ddod at ei gilydd ac ar gyfer gwersi awyr agored gyda phlant ysgol
  • maen nhw’n galluogi cyfleoedd ymgysylltu i drigolion lleol, gweithwyr corfforaethol a/neu blant ysgol 
  • maen nhw’n cael eu cynnal (chwynnu/dyfrio/casglu ysbwriel) gan dîm o Geidwaid Coed, sef 4-5 o wirfoddolwyr lleol am y 2 flynedd gyntaf

Gofynion monitro

Gan ddefnyddio methodoleg Earthwatch, dylech fonitro o leiaf dwywaith y flwyddyn am y ddwy flynedd gyntaf ar ôl plannu, yn ddelfrydol trwy wyddoniaeth dinasyddion.

Gallwch gyflwyno'r data monitro a gasglwyd i Earthwatch ar ddiwedd pob tymor tyfu. Darperir manylion mewngofnodi er mwyn i chi fewnbynnu'r data ar y Porth Coetir Bach.

Mae’r cynllun hwn ar gyfer sefydliadau, cymunedau ac unigolion sy’n berchen ar leiniau bach o dir neu sydd â rheolaeth drostyn nhw, ac sydd am greu coetiroedd bach newydd wedi’u rheoli ar y cyd â’r gymuned leol. 

Bydd y cynllun yn cynnig:

  • grantiau o hyd at £40,000 y safle. Gall y cais gwmpasu nifer o safleoedd ond ni all cost pob safle fod yn fwy na £40k, a'r uchafswm grant sydd ar gael fesul cais yw £250k.
  • gellir cael hyd at 100% o gyllid 
  • hyfforddiant cynhwysfawr gan Earthwatch Europe i gynllunio a chreu Coetir Bach (7.5 awr dros 3 sesiwn ynghyd â hyfforddiant a chefnogaeth barhaus) (hanfodol)
  • aelodaeth o’r rhwydwaith Coetiroedd Bach dan arweiniad Earthwatch Europe (hanfodol)
  • cyllid cyfalaf a refeniw 
  • cymorth gan swyddogion cyswllt Coedwig Genedlaethol i Gymru ynghylch rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru a sut i ddangos y canlyniadau 

Bydd 3 rownd o gyllid Coetiroedd Bach yng Nghymru ar gael yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Darllenwch yr adran ‘Terfynau amser gwneud cais a dyddiadau allweddol’ i gael rhagor o wybodaeth am yr amserlen.

Ariannu

Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru ac fe’i rheolir ar eu rhan gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae Earthwatch Europe yn bartner allweddol sy’n darparu hyfforddiant ac yn monitro safonau’r Coetiroedd Bach.

Cronfa ar gyfer gwneud gwaith cyfalaf yw hon yn bennaf, felly dylai’r rhan fwyaf o’ch costau fod yn gostau cyfalaf. Mae canllawiau ar gyfer yr hyn sy’n cyfrif fel costau refeniw a chyfalaf ar gael isod yn yr adran ‘Pa gostau allwch chi wneud cais amdanyn nhw?'

Mae’r cynllun yn agored i unrhyw un sy’n berchen ar dir neu sy’n rheoli tir yng Nghymru, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw a pherchnogion preifat. Mae’n rhaid i chi fod â rheolaeth lwyr ar y tir, neu ganiatâd ysgrifenedig gan berchennog y tir. Gallwch wneud cais mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, neu ar ran tirfeddiannwr, ond mae’n rhaid i’r bartneriaeth fod yn gyfreithiol rwymol ac mae’n rhaid nodi’n glir pwy yw’r partner arweiniol. Bydd angen i chi gael y caniatâd, y trwyddedau a’r cydsyniadau cywir mewn lle hefyd i gynnal gweithgarwch.

Bydd Tîm Ymgysylltu a Phartneriaid Cyflwyno Cronfa Treftadaeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Earthwatch, yn cynnal tair gweminar/sesiwn wybodaeth ar-lein a dau Ddiwrnod Agored ar safleoedd Coetiroedd Bach.

Cynhelir y sesiynau gwybodaeth a’r Diwrnodau Agored hyn er mwyn i ddarpar ymgeiswyr ddod draw i ofyn unrhyw gwestiynau i’r Gronfa Treftadaeth, Swyddogion Cyswllt y Goedwig Genedlaethol ac Earthwatch (bydd Wardeniaid Coed hefyd ar gael i rannu eu profiadau). Cynhelir y rhain ar y dyddiadau canlynol (amserau i’w cadarnhau):

Gweminarau:

Diwrnodau Agored:

Mae’n rhaid i’ch prosiect gynnwys y nodweddion canlynol:

  1. creu Coetir Bach (Tiny Forest) sy’n bodloni’n llawn meini prawf Coetiroedd Bach (gweler adran ‘Beth yw Coetiroedd Bach’ y canllawiau hyn).
  2. Cyflwyno coetiroedd hygyrch i bawb eu mwynhau. Dylai'r Coetir Bach fod yn hygyrch i'r gymuned y mae wedi'i leoli ynddi. Mae croeso i ysgolion wneud cais. Maent wedi cael eu cefnogi mewn rowndiau blaenorol ond mae angen iddynt ddangos sut y maent yn cynnwys y gymuned yn weithredol ac yn ei galluogi i gyrchu'r coetir trwy weithgareddau penodol.
  3. cynnwys trigolion lleol, gwirfoddolwyr, awdurdodau lleol neu ysgolion
  4. cynnal y Coetir Bach gan ddefnyddio "tîm o geidwaid coed", sef gwirfoddolwyr am o leiaf 2 flynedd ar ôl i’r prosiect orffen
  5. diwallu anghenion pobl leol fel man cyhoeddus a chyfrannu at wasanaethau ecosystemau yn yr ardal leol. 
  6. dangos buddion lluosog sy’n cwmpasu llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol 
  7. ystyried mapiau datganiadau ardal Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  8. gwirio am unrhyw faterion sensitif yn y safle drwy gyfeirio at Fap Cyfle Coetir y Llywodraeth

Mae gennym ddiddordeb penodol yn y canlynol:

  • ardaloedd trefol sydd heb fannau gwyrdd
  • ardaloedd a fydd yn galluogi cysylltiad rhwng ardaloedd o ofod naturiol (fel coetir a glaswelltir o ansawdd uchel)

Cronfa i wneud gwaith cyfalaf yw hon yn bennaf. Gellir dyrannu uchafswm o 13% o bob grant i wariant refeniw. Yn ogystal, gellir defnyddio hyd at 10% o’r elfen gyfalaf ar gyfer cynllunio’r prosiect a chostau uniongyrchol eraill ar gyfer rhoi’r prosiect ar waith.

Dogfen Arweiniad Costau

Cyfeiriwch at y dudalen Arweiniad Cyllideb i’ch helpu ysgrifennu eich cais am ariannu – mae’r arweiniad hwn yn cynnwys yr holl gostau a gwybodaeth am y gyllideb i’ch helpu cynllunio costau eich prosiect.

Bu dwy rownd flaenorol o Coetiroedd Bach yng Nghymru, a’r drydedd rownd hon yw'r un olaf.

Rownd tri

  • dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12 hanner dydd 8 Mai 2024 
  • bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud: dechrau Gorffennaf 2024
  • sesiynau hyfforddi Earthwatch (i ymgeiswyr llwyddiannus): Dydd Llun 15 Gorffennaf a dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024 (amserau i'w cadarnhau). Mae angen dod i'r ddwy sesiwn hyfforddi. Bydd pob sesiwn tua thair awr o hyd.
  • dyddiad cwblhau eich prosiect: 31 Mawrth 2025

Y disgwyl yw y bydd pob ymgeisydd yn cysylltu â Swyddog Cyswllt Coetir ei ranbarth er mwyn cael cyngor a chael y cydsyniadau neu’r caniatâd angenrheidiol gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), neu gyrff eraill - fel Cadw - cyn cyflwyno cais.

Os nad yw pob caniatâd/cydsyniad yn eu lle gennych, mae angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais am gydsyniad neu ganiatâd.

Dim ond ar ôl i bob cydsyniad/caniatâd gael ei roi y bydd cyllid yn cael ei ryddhau, ac mae’n bosibl y bydd grantiau’n cael eu tynnu’n ôl os na fydd y rhain wedi’u derbyn o fewn chwe mis i ddyddiad dyfarnu’r grant.

Asesiadau o’r effaith amgylcheddol

Ni fydd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) arnoch, oni bai bod eich Coetir Bach yn mynd i gael ei blannu ar safle dynodedig. Os yw o fewn safle dynodedig, bydd angen barn AEA arnoch.

Berchnogaeth tir

Rhaid dangos tystiolaeth o berchnogaeth tir. Mae angen i ni weld copi swyddogol cyfredol gan y Gofrestrfa Tir sy’n dangos eich bod yn berchen ar y tir (neu ar gyfer tir heb ei restru, y gweithredoedd perthnasol). Dylid atodi’r rhain gyda’ch cais.

Rhaid darparu tystiolaeth i ddangos mai tir ar les yw’r tir dan sylw ac mae angen inni weld copi o fanylion perchennog y tir a'r les. Mae angen inni hefyd weld bod perchennog y tir wedi rhoi caniatâd ichi ymgymryd â'r prosiect arfaethedig, yn ogystal â pharhau i’w fonitro a’i reoli ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau. Rhaid i chi ddal les fel y bo'n berthnasol i'r hyn a amlinellir isod neu mae angen i'r tirfeddiannwr ymrwymo i delerau'r grant.

  • sefydliad nid-er-elw: rhaid bod o leiaf pum mlynedd yn weddill ar eich les ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect
  • perchennog preifat: rhaid bod o leiaf deng mlynedd yn weddill ar eich les ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect

Os mai tir sy'n eiddo i drydydd parti neu drydydd partïon lluosog yw testun eich prosiect, byddwn fel arfer yn disgwyl i'r perchennog gael ei wneud yn grantï ar y cyd. Mewn rhai sefyllfaoedd, yn hytrach na gwneud y perchennog yn grantï ar y cyd, efallai y byddwn yn gofyn iddynt lofnodi llythyr ychwanegol yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw delerau grant sy’n ymwneud â’u heiddo.  

Yn yr achos hwn, dylid rhoi cytundeb cyfreithiol ar waith hefyd rhwng pob perchennog tir a'r grantï. Nid oes ffurf ragnodedig ar gytundeb, ond mae gennym ofynion penodol y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb perchennog trydydd parti.  

Fel lleiafswm, dylai’r cytundebau gynnwys y canlynol:

  • cadarnhad ynghylch sut mae’r tir wedi'i ddal (rhydd-ddaliad neu ar brydles)
  • disgrifiad o'r eiddo (gan gynnwys cynlluniau)
  • cyfamodau ar ran y perchennog i gynnal a chadw’r eiddo a darparu mynediad cyhoeddus yn unol â thelerau’r grant (fel y bo’n berthnasol)
  • darpariaeth y dylai unrhyw warediad ymlaen fod yn ddarostyngedig i'r cytundeb trydydd parti
  • cadarnhad y bydd y cytundeb yn para o ddechrau’r gwaith ar dir y trydydd parti tan bum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect

Bydd angen cwblhau'r cytundebau a'u rhoi ar waith cyn rhyddhau unrhyw arian grant ar gyfer gwaith ar unrhyw dir neu adeilad sy'n eiddo i drydydd parti.

Rheoli cymhorthdal

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus ac y gall fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022.

Ceir cymhorthdal pan fydd awdurdod cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol o arian cyhoeddus sy’n rhoi mantais economaidd i’r derbynnydd, lle na ellid dod o hyd i gymorth cyfatebol ar delerau'r farchnad. Bydd y rhan fwyaf o’n grantiau naill ai heb fod yn gymhorthdal neu’n gymhorthdal cyfreithlon sy’n bodloni gofynion Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022.

Ein cyfrifoldeb ni yw asesu a yw grant yn gymhorthdal ac mae ein hasesiad rheoli cymhorthdal yn rhan bwysig o'ch cais. Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â'r gofynion allweddol a rhoi unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnom yn rhesymol i gwblhau asesiad rheoli cymhorthdal.

Gweithio ar dir preifat

Gall prosiectau ddarparu gwaith neu weithgareddau ar dir preifat, cyn belled â bod unrhyw fudd cyhoeddus yn amlwg yn drech nag unrhyw fudd preifat posibl. Hefyd, cyn belled nad yw rheolau rheoli cymhorthdal yn cael eu torri.

Byddwn yn asesu eich prosiect ar sail ei botensial i fodloni'r meini prawf Coetiroedd Bach. Wrth gyflwyno Coetir Bach rydych yn cyflawni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol. Mae'r maen prawf hwn yn adran 'Beth yw Coetiroedd Bach' yr arweiniad hwn.

Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y canlynol: 

  • ardaloedd trefol sydd heb fannau gwyrdd
  • ardaloedd a fydd yn golygu y gellir cael cysylltiad â gofod naturiol

Gofynnir i chi lawrlwytho a llenwi ein rhestr wirio mesur llwyddiant hefyd. Gellir mesur y meini prawf Coetir Bach yn ôl un neu fwy o'r dangosyddion ar y rhestr.

Ein hegwyddorion buddsoddi

Mae pedair egwyddor fuddsoddi bellach yn llywio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Ar gyfer y rhaglen Coetiroedd Bach - drwy fodloni'r meini prawf Coetiroedd Bach, rydych wrth reswm yn bodloni un neu fwy o'n Hegwyddorion Buddsoddi.

Rydym wedi darparu arweiniad penodol yn y Nodiadau Cymorth Ymgeisio Coetiroedd Bach ar sut i ymdrin â'r Meini Prawf Coetir Bach o dan adran Egwyddorion Buddsoddi ein ffurflen gais.

Bydd yr egwyddorion buddsoddi a'n mentrau strategol  yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol.

Bydd y canllawiau Derbyn Grant yn cael eu hanfon at bob prosiect a ddyfernir a bydd yn rhoi manylion ar sut y byddwch yn derbyn eich cyllid a’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych.

Mae angen i chi gynnwys y Gymraeg yn eich prosiect, a dweud wrthym sut y byddwch yn gwneud hyn yn eich ffurflen gais. Gellir cynnwys costau cyfieithu yn eich cyllideb. 

Bydd angen i chi gydnabod eich grant fel y nodir yn ein canllawiau ar sut i gydnabod eich grant Llywodraeth Cymru.

Ariennir y Grant Coetiroedd Bach yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ac fe’i gweinyddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd angen i chi gydnabod EarthWatch fel partner cyflawni hefyd.

Dilynwch y camau isod:

  1. ewch i'n porth ymgeisio a chofrestrwch gyfrif (neu fewngofnodwch os ydych wedi gwneud cais o'r blaen)
  2. o'r gwymplen, dewiswch £10,000 i £250,000

Noder: Nid oes Ffurflen Gais Coetiroedd Bach benodedig. Dylech ddilyn Nodiadau Cymorth Ymgeisio'r Rhaglen Coetiroedd Bach yn ofalus ac ateb pob cwestiwn yn ein ffurflen gais am grant £10,000 i £250,000. 

Please download and fill out the specific Coetiroedd Bach / Tiny Forests in Wales programme supporting document as below. This needs to be submitted as an attachment to your application.  

I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich data’n cael ei brosesu dan y rhaglen grantiau hon, gweler ein polisi preifatrwydd. Byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw ofynion prosesu data ychwanegol sy'n benodol i'r rhaglen os dyfernir grant.

Deallwn y gallai ein penderfyniad fod yn siom i chi.

Does dim hawl apelio am y cynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru. Allwn ni ddim adolygu ein penderfyniad oni bai y gallwch chi wneud cwyn ffurfiol am y modd rydym ni wedi ymdrin â’ch cais. Mae gennym broses gwynion dau gam ar gyfer y gronfa hon. 

Er mwyn i ni allu ystyried ac ymchwilio i’r gŵyn, bydd yn rhaid i chi allu dangos y canlynol:

  • na wnaethom ni ddilyn y gweithdrefnau a gyhoeddwyd ar gyfer asesu eich cais
  • ein bod wedi camddeall rhan sylweddol o’ch cais
  • na wnaethom ni gymryd sylw o wybodaeth berthnasol

Rhaid gwneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn penderfyniad am eich cais. Mae’n rhaid i chi anfon eich cwyn at: enquire@heritagefund.org.uk

Ein nod yw cydnabod eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith.

Bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu i ddechrau gan un o’n Cyfarwyddwyr Cenedl ac Ardal, sy’n annibynnol ar baneli argymhellion a phenderfynu ar gyfer y gronfa hon.

Ein nod yw cyfleu penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith o’r adeg i chi gyflwyno’ch cwyn.

Am gymorth, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 020 7591 6044 neu e-bostiwch enquire@heritagefund.org.uk.

Newidiadau i’r canllawiau hyn 

Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth defnyddwyr. Rydym yn cadw’r hawl i wneud newidiadau yn ôl y gofyn. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl drwy’r dudalen we hon. 

11 Medi 2023: eglurhad ynghylch cysylltiadau'r rhaglen hon â rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.

6 Hydref 2023: Ychwanegwyd templed costau newydd.

19 Rhagfyr 2023: diweddariad i'r neges wybodaeth ar frig y dudalen.

21 Chwefror 2024: Mae dyddiadau ymgeisio wedi'u diweddaru, ac mae arweiniad cyllideb newydd wedi'i ychwanegu fel tudalen ar wahân. Mae'r nodiadau cymorth ymgeisio wedi'u hychwanegu oherwydd bod ein ffurflenni cais wedi newid. Mae'r gofynion ar gyfer y nodweddion ffisegol wedi'u cyfuno yn yr adran 'Beth yw Coetiroedd Bach?'.


Caiff Grant Coetiroedd Bach yng Nghymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

The logos of The National Lottery Heritage Fund and the Welsh Government

 

The logos of the National Forest for Wales and Earthwatch Tiny Forest