Arweiniad cyllideb: Coetiroedd Bach yng Nghymru

Arweiniad cyllideb: Coetiroedd Bach yng Nghymru

Mae'r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar gyllidebau i'ch helpu i lunio'r cais am ariannu ar gyfer Coetiroedd Bach yng Nghymru.

Defnyddiwch yr arweiniad hwn i'ch helpu llenwi adran costau prosiect eich cais. Darllenwch yr Arweiniad Ymgeisio Coetiroedd Bach llawn cyn gwneud cais.

Ymhelaethir ar yr holl bwyntiau isod mewn manylder digonol yn y sesiynau hyfforddi Coetiroedd Bach, sydd i'w cynnal ar ôl i'r penderfyniadau ariannu gael eu gwneud.

Ffi Aelodaeth Coetir Bach

Rhaid i chi gynnwys llinell yn y gyllideb ar gyfer aelodaeth o Eathwatch a hyfforddiant. Mae dau opsiwn ar gyfer y ffi aelodaeth Coetir Bach.  Mae’r ffi hwn fesul safle Coetiroedd Bach a bydd angen i chi gymryd hwn i ystyriaeth yn eich cyllideb ar gyfer pob Coetir Bach hyd yn oed os ydych yn gwneud cais am nifer o safleoedd o fewn yr un cais. Noder mai taliad unigol yw hwn (ac nid ffi aelodaeth blynyddol).

£750 y Coetir Bach (y dull a ffafrir):

  • Ymwneud â rhaglen ymchwil genedlaethol ar fanteision amgylcheddol a chymdeithasol coetiroedd trefol fel ateb sy'n seiliedig ar natur.
  • Cofrestru fel rhan o'r rhwydwaith Coetiroedd Bach gyda thudalen broffil benodol ar gyfer eich coetir
  • Derbyn manylion mewngofnodi i'r porth i gael mynediad i'n holl adnoddau Coetir Bach a gofod fforwm i rannu gwybodaeth a chwestiynau ar draws y rhwydwaith Coetiroedd Bach
  • Cael mynediad i bob arolwg (ee arolygon bioamrywiaeth a dal carbon) i gefnogi monitro eich coetir.
  • Dod yn rhan o rwydwaith Ceidwaid Coed y Coetiroedd Bach. Bydd gwirfoddolwyr â diddordeb yn cael mynediad i weminarau, digwyddiadau, cylchlythyrau a chyfleoedd eraill i ymgysylltu cymaint â phosib â'u coetir.

£250 y Coetir Bach:

  • Ymwneud â rhaglen ymchwil genedlaethol ar fanteision amgylcheddol a chymdeithasol coetiroedd trefol fel ateb sy'n seiliedig ar natur.
  • Cofrestru fel rhan o'r rhwydwaith Coetiroedd Bach gyda thudalen broffil benodol ar gyfer eich coetir
  • Derbyn manylion mewngofnodi i'r porth i gael mynediad i'n holl adnoddau Coetir Bach a gofod fforwm i rannu gwybodaeth a chwestiynau ar draws y rhwydwaith Coetiroedd Bach
  • Cael mynediad i bob arolwg (ee arolygon bioamrywiaeth a dal carbon) i gefnogi monitro eich coetir.

Cyfalaf a refeniw – costau cymwys

Mae'n bwysig i chi nodi pa rai o gostau eich prosiect sy'n gyfalaf a pha rai sy'n refeniw. Gall ceisiadau gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

Costau cyfalaf

Gwariant cyfalaf yw arian sy'n cael ei wario ar fuddsoddi a phethau a fydd yn creu twf yn y dyfodol.

Rhoddir enghreifftiau o gostau cyfalaf derbyniol isod. Sylwer nad rhestr derfynol mo hon ac y bydd pob eitem o wariant yn cael ei hystyried ar sail yr achos unigol:

  • Prynu 600 o goed brodorol (yn Tarddu o'r DU ac wedi'u Tyfu yn y DU), £1,500 - £2,500 fel arfer gan ddibynnu ar rywogaethau
  • Prynu a gosod Byrddau dehongli, tua. £200 - £300 (bydd brand a dyluniad y Coetiroedd Bach yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru)
  • Prynu cit monitro ar gyfer pedair maes ymchwil: Cysur Thermol, Storio Carbon, Bioamrywiaeth, Lliniaru Llifogydd, tua. £500. Gallai rhestr y cit gynnwys: taflenni, bag offer (70L), cansenni pren, tâp mesur, pêl o linyn, rhestr rhywogaethau coed, canllaw adnabod coed, siswrn, caliperau, pren mesur metel, mesurydd trwytho (pibellau), stopwats, gordd bren, jygiau mesur, planciau pren, poteli dŵr, mesuryddion treiddio poced, trywelion, gorsaf dywydd, trybedd a throed addasu, canllawiau adnabod bioamrywiaeth, taflenni maes. Bydd Earthwatch yn rhoi cyngor ar hyn.
  • Ystyriwch unrhyw arolygon y gallai fod angen eu gwneud ar gyfer yr ardal: cyfleustodau, o bosibl AEA, arolwg halogiad, ac ati. (Ceir manylion yn yr adran 'Arolygon' isod)
  • Paratoi'r safle, megis gwaith daear, gosod ffensys, clirio sbwriel a llystyfiant. Mae ffioedd contractwr ar gyfer paratoi tir fel arfer oddeutu £8,000 - £13,000 gan ddibynnu ar y contractwr, cyflwr y safle a'r ardal ddaearyddol. (Ceir manylion yn yr adran 'Paratoi Tir' isod)
  • Adeiladu llwybrau a gatiau hygyrch gydag ymrwymiad i’w cadw ar agor i’r cyhoedd a’u cynnal am o leiaf 20 mlynedd, os nad am gyfnod amhenodol
  • Creu llwybrau natur/addysgiadol
  • Creu mannau ar gyfer hamdden, chwarae ac addysg (fel ystafell ddosbarth awyr agored)
  • Meinciau/seddi
  • Amser staff i gyflwyno’r prosiect (Mae hyn yn golygu costau sy’n eich helpu i greu’r Coetiroedd Bach, er enghraifft: cynllunio'r prosiect, caffael deunyddiau, rheolaeth ariannol ar y prosiect, casglu, a dadansoddi gwybodaeth reoli cyflwyno'r prosiect, nad yw'n fwy na 10% o gyfanswm y gost cyfalaf) (ceir manylion yn yr adran 'Amser Staff' isod)
  • Cynnal a chadw’r Coetir Bach hyd nes bod y canopi’n cau, tua 3 blynedd fel arfer (ceir manylion yn yr adran ‘Cynnal a Chadw Parhaus’ isod)
  • Cyflwyno’r prosiect (Mae hyn yn golygu costau sy’n eich helpu i greu’r Coetiroedd Bach, er enghraifft: cynllunio'r prosiect, caffael deunyddiau, rheolaeth ariannol ar y prosiect, casglu, a dadansoddi gwybodaeth reoli cyflwyno'r prosiect, nad yw'n fwy na 10% o gyfanswm y gost cyfalaf)
  • Darpariaeth Gymraeg, megis costau cyfieithu

Costau refeniw

Gall cyllid refeniw helpu gyda’r gost gyffredinol o redeg y prosiect. Mae’n cynnwys costau sy’n cael pobl i fod yn rhan o waith cyflawni’r prosiect.

Gellir defnyddio arian refeniw i wneud y canlynol:

  • cyfraniad at gostau craidd/gweithredu ychwanegol rhedeg y prosiect
  • digwyddiadau i hyrwyddo’r cynllun coetir i’r gymuned ehangach, ac i ddathlu cyflawniadau cymunedol
  • oriau ychwanegol i gydlynydd gwirfoddolwyr presennol recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno’r coetir
  • arferion da gwirfoddoli a threuliau (yn unol â chanllawiau Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)
  • gweithgarwch hybu’r prosiect
  • unrhyw wariant rhesymol a fydd yn galluogi’r prosiect i lwyddo

Costau anghymwys

Mae’r eitemau canlynol yn enghreifftiau o gostau nad ydyn nhw’n gymwys. Dydy hon ddim yn rhestr hollgynhwysfawr, a bydd pob un o’r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • prynu tir
  • cost prydlesu tir
  • prynu adeiladau
  • ail-stocio coed ar safle lle mae’r coed wedi’u cwympo
  • gwaith rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am ymgymryd ag ef
  • unrhyw waith ffisegol ar y safle a wnaed cyn y dyddiad awdurdodedig ar gyfer dechrau’r gwaith
  • prynu cerbydau
  • eich costau llafur a chyfarpar eich hun
  • peiriannau a chyfarpar canolig/mawr
  • cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol
  • costau cynnal a chadw
  • cyfalaf gweithio
  • TAW y gellir ei adhawlio
  • costau sy’n gysylltiedig â chontract prydlesu, fel lwfans y prydleswr, llog cost ariannu, gorbenion a chostau yswiriant
  • costau trefnu cyfleusterau gorddrafft, benthyciadau neu adnoddau cymorth ariannol eraill - yn cynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig neu gostau eraill
  • gorbenion wedi’u dyrannu neu eu dosrannu ar gyfraddau sy’n faterol uwch na’r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer unrhyw waith tebyg a wnaed gan yr ymgeisydd
  • gwariant tybiannol
  • taliadau am weithgarwch o natur wleidyddol
  • dibrisio, amorteiddiad ac amhariad ar asedau a brynwyd gyda chymorth y grant

Costau nad ydyn nhw’n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni eich prosiect, gan gynnwys:

  • darpariaethau
  • rhwymedigaethau digwyddiadol
  • elw a wneir gan yr ymgeisydd
  • difidendau
  • costau llog
  • taliadau gwasanaethau o ganlyniad i brydlesau cyllid, trefniadau hurbwrcasu a chredyd
  • costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr
  • costau sy’n gysylltiedig â dirwyn cwmni i ben
  • taliadau am ddiswyddo annheg
  • taliadau i gynlluniau pensiwn preifat
  • taliadau i bensiynau heb eu hariannu
  • iawndal am golli swydd
  • dyledion drwg sy’n deillio o fenthyciadau i weithwyr, perchnogion, partneriaid, cyfarwyddwyr, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain
  • taliadau am anrhegion neu roddion
  • adloniant, er enghraifft, partïon staff
  • dirwyon a chosbau statudol
  • dirwyon troseddol ac iawndal
  • treuliau cyfreithiol mewn perthynas ag ymgyfreitha

Arolygon

Ystyriwch unrhyw arolygon y gallai fod angen eu gwneud ar gyfer yr ardal: cyfleustodau, o bosib AEA, arolwg halogiad, etc. Hefyd, mae methodoleg y Coetir Bach yn cynnwys arolwg gorfodol o gyflwr y pridd, cywasgiad a chyfansoddiad – cost fras y pecyn profi ar gyfer hyn (offer tynnu creiddiau pridd, mesurydd treiddio, pecyn profi maetholion, etc) yw £400. Os ydych yn gwneud cais am nifer o Goetiroedd Bach dim ond un pecyn profi pridd sydd ei angen arnoch.

Paratoi Tir

Mae ffioedd tirlunio ar gyfer paratoi tir fel arfer oddeutu £8,000 - £13,000 gan ddibynnu ar y contractwr, cyflwr y safle a'r ardal ddaearyddol. Mae'r gwaith yn cynnwys:

  • Sgan CAT o'r ardal blannu a chloddio 3x pwll prawf
  • Paratoi'r safle yn unol â methodoleg Miyawaki:
    • Marcio'r safle allan. Tynnu'r haen o lystyfiant, ei storio ar y safle a'i adleoli i waelod yr ardal a gloddir
    • Tynnu'r haen uwchbridd, storio ar y safle
    • Cloddio ardal y Coetir Bach i'r dyfnder gofynnol
    • Ôl-lenwi'r ffos gyda hanner y pridd a gloddiwyd
    • Cyflenwi ac ymgorffori hanner yr ychwanegion pridd
    • Ôl-lenwi'r ffos gyda gweddill y pridd a gloddiwyd ac ymgorffori gweddill yr ychwanegion pridd.
    • Rhoi'r uwchbridd yn ôl fel yr haen olaf
  • Rhoi rhwystr dros dro o amgylch y safle nes bod y ffensys wedi'u gosod
  • Cyflenwi taenfa naddion pren aeddfed i ddyfnder o 50-100mm i wirfoddolwyr ei gosod
  • Cyflenwi a gosod ffensys a giât
  • Cyflenwi a gosod 6 slab concrit (teils bioamrywiaeth)
  • Cyflenwi a gosod naddion pren yn y man eistedd/llwybrau i ddyfnder o 100mm
  • Cyflenwi a gosod meinciau – fel arfer 5 mainc yn null ysgol goedwig os bydd ardal ystafell ddosbarth ar y safle
  • Cyflenwi a gosod 2 bostyn pren ar gyfer panel dehongli. Gosod panel dehongli
  • Adfer y safle a'r ardal gyfagos y mae'r gwaith wedi effeithio arni

Amser Staff

Cyflwyno’r prosiect (Mae hyn yn golygu costau sy’n eich helpu i greu’r Coetiroedd Bach, er enghraifft: cynllunio'r prosiect, caffael deunyddiau, rheolaeth ariannol ar y prosiect, casglu, a dadansoddi gwybodaeth reoli cyflwyno'r prosiect, nad yw'n fwy na 10% o gyfanswm y gost cyfalaf). Gallai ystyriaethau penodol gynnwys:

  • Asesiad o'r safle, profi a dadansoddi'r pridd - amcangyfrif o 2 ddiwrnod a theithio
  • Diwrnod plannu, fel arfer 2 aelod o staff ar 2 ddiwrnod ar gyfer paratoi a chyflwyno
  • Gweithgareddau cymunedol ar ôl plannu. Gallwch chi gynllunio pa weithgareddau rydych eisiau eu rhedeg, e.e. gwyddoniaeth dinasyddion
  • Gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion
  • Amser rheoli prosiect ar gyfer cysylltu â rhanddeiliaid, ymgynghori â'r gymuned, rheoli digwyddiadau, hyrwyddo digwyddiadau, trefniadau tirlunio, etc.
  • Amser dylunio'r coetir, rhestr rhywogaethau coed

Cynnal a Chadw Parhaus

Dylech fod yn cynllunio i gynnwys eich cymuned leol yn y gwaith o gynnal a chadw'r Coetir Bach. Gall gweithgareddau cynnal a chadw nes bod y canopi coed yn cau (tua 3 blynedd) gynnwys:

  • Chwynnu
  • Dyfrhau
  • Trwsio ffensys, giât neu o bosib ailstocio os bydd difrod i'r safle