Datblygu Parc y Moch yn ganolfan weithgareddau awyr agored a lles

Datblygu Parc y Moch yn ganolfan weithgareddau awyr agored a lles

Clychau’r gôg mewn coetir
Clychau’r gôg ym Mharc y Moch

The Woodland Investment Grant (TWIG)

Arllechwedd
Gwynedd
Parc Coed Moch CIC
£76326
Mae coetir ger Bethesda yn Nyffryn Ogwen yn cael ei drawsnewid yn ofod awyr agored i bawb.

Caiff y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella llwybrau troed ac ychwanegu meinciau a byrddau gwybodaeth. Mae'r prosiect hwn yn gobeithio cyrraedd pobl nad ydynt yn mynd allan i fyd natur ar hyn o bryd trwy alluogi mynediad i fwy o bobl i wneud y mwyaf o'r coetir.

Bydd gwelliannau i waliau ffin hefyd a bydd gwaith yn cael ei wneud ar ardal gwlyptir Parc y Moch i hybu bioamrywiaeth y coetir.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwneud mynedfa'r safle yn fwy croesawgar drwy ychwanegu giât bren newydd a gosod rac beiciau i annog beicio.  

toasting marshmallows on a fire
Tostio malws melys ar y tân mewn digwyddiad cymunedol 

Mae gweithgareddau cymunedol wedi bod ar y safle ers 2021. Bydd y prosiect yn adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy gynnal diwrnodau, hyfforddiant a digwyddiadau gwirfoddoli rheolaidd newydd.

Dywedodd Harri Pickering, Cwmni Buddsoddi Cymunedol Parc y Moch: "Gyda'r grant hwn, byddwn yn gwella mynediad i'r coetiroedd a'r seilwaith cyffredinol, sy'n golygu y gallwn barhau i ddatblygu Parc y Moch fel gofod i'r gymuned ei ddefnyddio a'i fwynhau. 

"Bydd cynnal digwyddiadau cymunedol a gweithgareddau cyfnewid sgiliau yn help mawr i ddod â phobl i'r gofod fel y gallant ddod i'w adnabod. Mae hwn yn gam mawr arall tuag at gael y gymuned leol i ailgysylltu â natur."

Mae’r cynllun grant Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn rhan o raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru.

Ariannwch eich prosiect coetir 

Darganfyddwch fwy am sut y gall cyllid Grant Buddsoddi mewn Coetir eich helpu i greu, adfer a gwella coetiroedd yng Nghymru.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...