Adfer cynefinoedd wystrys gwyllt ym Mae Conwy

Adfer cynefinoedd wystrys gwyllt ym Mae Conwy

Oyster yn y dŵr
Mae cynefinoedd wystrys yn cael eu hadfer ym Mae Conwy. Llun: ZSL.

Nature Networks Fund Round 2

Conwy
Conwy
The Zoological Society of London
£249919
Mae ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) a Phrifysgol Bangor yn adfer cynefinoedd wystrys brodorol ym Mae Conwy er mwyn gwella bioamrywiaeth forol, cynyddu cydnerthedd arfordirol ac ailgysylltu pobl â’u treftadaeth arfordirol.

Mae gan Fae Conwy ar arfordir gogledd Cymru gynefinoedd morol pwysig, ac fe'i cydnabyddir fel Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae’r prosiect, Adfer Wystrys Gwyllt i Fae Conwy, wedi bod yn gweithio i adfer yr amgylchedd arfordirol, gan adennill manteision ecolegol ailsefydlu poblogaethau wystrys Ewropeaidd brodorol yn yr ardal.

Mae wystrys yn rhywogaeth allweddol, sy'n golygu bod ganddynt rôl hollbwysig yn adferiad byd natur. Gan ddarparu cynefinoedd morol ar gyfer amrywiaeth gyfoethog o algâu ac anifeiliaid, maent yn gwella ansawdd dŵr ac yn ailgylchu maetholion i fywyd gwyllt eraill eu defnyddio.

Mae prosiect peilot llwyddiannus wedi gosod meithrinfeydd wystrys mewn marinas cyfagos ac wedi darparu cyfleoedd i bobl gysylltu â threftadaeth naturiol trwy weithgareddau addysg a gwyddoniaeth dinasyddion. Mae'r bartneriaeth yn parhau â'u gwaith, gan fynd ag ef gam ymhellach.

Rhywun sy'n gwisgo offer hwylio yn gostwng meithrinfa wystrys, cawell sy'n cynnwys wystrys, i'r dŵr mewn harbwr
Meithrinfa wystrys mewn harbwr ym Mae Conwy. Llun: ZSL.

Ymhlith gweithgareddau'r prosiect mae:

  • creu tair swydd i reoli’r prosiect a chyflwyno gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd
  • adfer wystrys brodorol i wely'r môr i greu creigres wystrys
  • monitro ac arolygon i ddeall bioamrywiaeth y cynefin hwn
  • adrodd a gwerthuso cynnydd y greigres wystrys i gyfrannu at gynlluniau rheoli arfordirol lleol

Mae adfer creigresi wystrys brodorol yn darparu cyfleoedd gwych i ennyn diddordeb y cyhoedd mewn treftadaeth forol. Mae'r prosiect yn trefnu ymweliadau â meithrinfeydd wystrys ar gyfer ysgolion, colegau a myfyrwyr prifysgol ac yn hyfforddi 60 o ddinasyddion-wyddonwyr i helpu monitro'r meithrinfeydd wystrys. Mae digwyddiadau allgymorth cyhoeddus ac ymgysylltu ar-lein hefyd yn cael eu cynnal dros gyfnod y prosiect. Trwy rannu gwaith y prosiect a chynnwys cymunedau, mae'r prosiect yn gweithio i gynyddu stiwardiaeth forol yn yr ardal leol, ac yn annog pobl i gymryd rhan yn weithredol mewn adfer ein cynefinoedd morol gwerthfawr.

Dyfarnwyd ariannu i'r prosiect drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosberthir gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...