Luronium Futures: gwarchod planhigion prin ar Gamlas Maldwyn

Luronium Futures: gwarchod planhigion prin ar Gamlas Maldwyn

Gweithwyr yn torri coed sy'n crogi drosodd o ran o'r gamlas sydd wedi'i gordyfu
Roedd adfer rhan Cymru o Gamlas Maldwyn yn cynnwys clirio coed fu'n crogi drosodd. Llun: Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

Nature Networks Fund

Llanwenarth Ultra
Monmouthshire
Canal and River Trust
£357800
Bu i brosiect Luronium Futures Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd wella cyflwr rhan Cymru o gamlas Maldwyn sy'n gartref i rywogaethau planhigion Prydeinig prin.

Ar un adeg roedd Camlas Maldwyn yn ddyfrffordd ddiwydiannol brysur yn cysylltu Swydd Amwythig a rhannau dwyreiniol o Gymru, cyn dioddef blynyddoedd o esgeulustod. Mae'r rhan ohoni sydd yng Nghymru bellach yn Ardal Cadwraeth Arbennig am ei bod yn gartref i amrywiaeth o rywogaethau prin fel y llyriad nofiadwy, Luronium natans.

Nod y prosiect Luronium Futures oedd rheoli amgylchedd y gamlas yn well er mwyn sicrhau nad oedd y rhywogaethau brodorol amhrisiadwy yn cael eu goresgyn gan lystyfiant arall.

Planhigion Luronium prin mewn camlas, gyda dail gwyrdd bach a blodau gwyn yn arnofio ar wyneb y dŵr
Planhigion luronium, rhywogaeth frodorol brin, yng Nghamlas Maldwyn. Llun: Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

 

Mae sawl grŵp o wirfoddolwyr yn rheoli coed, yn clirio rhywogaethau ymledol ac yn rheoli llystyfiant, ac roedd eu gwaith parhaus yn hanfodol i lwyddiant y prosiect.

Ymhlith gweithgareddau'r prosiect oedd:

  • arolygon gwaelodlin o gyflwr y gamlas er mwyn cyfeirio gwaith adfer a helpu i fesur effaith gwelliannau
  • clirio llystyfiant o'r gamlas, tocio coed sy'n crogi drosodd a rhywfaint o garthu i gynnal sianel agored o ddŵr
  • gwella tair rhan o'r gamlas sy'n rhan o warchodfeydd natur 
  • symud planhigion luronium i ailboblogi rhannau o'r gamlas a oedd wedi cael eu clirio
  • parhau â gwaith blaenorol ar Gangen Cegidfa o’r gamlas, gan ddod â dŵr yn ôl a chynyddu bioamrywiaeth mewn ardaloedd a oedd wedi’u llenwi â gwaddod a gordyfiant
  • dylunio ac adeiladu 'argaeau sy'n gollwng' o ddeunyddiau naturiol sy'n atal pridd rhag cael ei olchi i'r gamlas a darparu maetholion i lystyfiant ymledol
Peiriant cloddio yn clirio rhan o'r gamlas yng nghefn gwlad
Clirio rhan o'r gamlas. Llun: Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

Meddai Mark Evans, cyfarwyddwr rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd: “Mae'r prosiect Luronium Futures wedi chwarae rôl sylweddol yn ein gwaith o adfywio a gwarchod amgylchedd naturiol Camlas hanesyddol Trefaldwyn. Mae wedi ein galluogi i roi mesurau ar waith i warchod a gwella treftadaeth naturiol yr ardal, gan ddiogelu cynefinoedd bywyd gwyllt, mabwysiadu arferion cynaliadwy, a hyrwyddo bioamrywiaeth.

“Cyflwynodd y prosiect gyfle trawsnewidiol ar gyfer Camlas Maldwyn, gan ddod â bywyd newydd i’r ddyfrffordd hanesyddol arwyddocaol hon.”

Dyfarnwyd ariannu i'r prosiect Luronium Futures drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosbarthwyd gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...