Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru

Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru

Planwyr pren yn cynnwys planhigion yn eu blodau ar blatfform gorsaf drenau.
Planwyr gyda phlanhigion yn eu blodau yng ngorsaf drenau'r Fenni. Llun: Trafnidiaeth Cymru.

Local Places for Nature

Queensferry
Flintshire
Transport for Wales
£100000
Bu i Trafnidiaeth Cymru (TrC) roi hwb i fioamrywiaeth ac annog bywyd gwyllt mewn 25 o orsafoedd rheilffordd a phum safle cymunedol.

Nod y Prosiect Llwybrau Gwyrdd oedd gwella lles pobl a darparu amgylcheddau a allai fod o fudd wrth adfer bywyd gwyllt.

Gan weithio'n agos gyda phobl leol a phartneriaid cymunedol, bu'r prosiect hefyd yn helpu pobl i deimlo perchnogaeth ar eu mannau cymunedol lleol a'u gorsafoedd trên a bod yn falch ohonynt.

Grŵp o blant ac oedolion yn rhoi planhigion mewn plannwr
Mabwysiadwyd nodweddion gorsaf werdd Cydweli gan
Sgowtiaid lleol, a nhw wnaeth blannu'r planwyr.
Llun: Trafnidiaeth Cymru.

Cyflwynwyd dros 300 o nodweddion gwyrdd ar draws rhwydwaith gorsafoedd Cymru, gan gynnwys:

  • planwyr a basgedi crog 
  • coed a nodweddion ar gyfer tyfu cymunedol
  • casgenni dwr
  • cynefinoedd bywyd gwyllt fel cychod gwenyn, tai adar, blychau ystlumod, gwestai chwilod, tai draenogod a thai buchod coch cwta

Hyfforddwyd 176 o wirfoddolwyr i helpu i osod, plannu a chynnal a chadw'r nodweddion hyn. Crëwyd chwe grŵp mabwysiadwyr gorsaf, gan sicrhau bod pobl leol wedi'u hymrwymo i'r gwaith o ofalu amdanynt.

Rhannodd TrC waith y prosiect, gan annog pobl i gymryd rhan trwy ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol, diwrnodau plannu a gwirfoddoli, sgyrsiau a hyfforddiant mewnol.

Yn ogystal, creodd partneriaid cymunedol bum safle gwyrdd:

  • gwellodd Sefydliad Enbarr CIC fannau gwyrdd yn eu hadeilad John Summers yng Nglannau Dyfrdwy
  • creodd Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian ardd gymunedol, gan osod blychau bywyd gwyllt yng Nghwm Clydach
  • gosodwyd planwyr cymunedol, gardd berlysiau a mwy yn neuadd bentref Ffynnon Taf
  • trawsnewidiodd cymdeithas rhandiroedd Bron Fair ardaloedd segur yn ardd hygyrch ac ardaloedd tyfu cymunedol
  • creodd Hyb Cymunedol Twyn ardd eco gymunedol Baner Werdd
Grŵp o oedolion yn sefyll am lun ger plannwr mewn gorsaf
Mabwysiadwyd planwyr Bae Caerdydd gan y clwb rotary
lleol. Llun: Trafnidiaeth Cymru.

Meddai Dr Louise Moon, Rheolwr Treftadaeth ac Effaith Gynaliadwy TrC: “Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda llawer o grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr, gan eu cefnogi gyda'u huchelgeisiau i greu mannau gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt a phobl. Ein dyhead nawr, a bob amser, yw y bydd trafnidiaeth yn cyfrannu’n gadarnhaol at ein cymunedau a’n hamgylchedd, nawr ac yn y dyfodol.”

Creodd Llwybrau Gwyrdd fodel y gall Trafnidiaeth Cymru ei ddefnyddio i ychwanegu nodweddion sy’n llesol i fywyd gwyllt at fwy o orsafoedd ar ei rhwydwaith a chreu cysylltiadau â phartneriaid cymunedol. Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect hwn, ers hynny mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn grant arall o £100,000 ar gyfer prosiect coetiroedd cymunedol.

Cefnogwyd y prosiect hwn trwy'r cynllun Lleoedd Lleol i Natur, a gyflwynir gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...