Creu mannau gwyrdd lleol ym Mhen-bre a Phorth Tywyn, Sir Gâr

Creu mannau gwyrdd lleol ym Mhen-bre a Phorth Tywyn, Sir Gâr

Rhandir ym Mhorth Tywyn, man gwyrdd lle mae pobl yn tyfu bwyd a blodau
Ardal dyfu gymunedol ym Mhorth Tywyn.

Local Places for Nature

Burry Port
Carmarthenshire
Pembrey and Buryy Port Town Council
£50000
Trawsnewidiwyd meysydd chwarae a thir trefol agored adfeiliedig yn fannau cymunedol er mwyn creu lleoedd lleol ar gyfer natur a phobl.
Twnnel polythen wedi'i lenwi â photiau yn tyfu blodau
Defnyddir y twnnel polythen gan y gymuned i dyfu blodau,
perlysiau a llysiau.

Creodd Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn fannau gwyrdd croesawgar a hygyrch yn ardaloedd preswyl y dref. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • perllan gymunedol wedi'i phlannu â choed ffrwythau a llwyni brodorol
  • parc chwarae eco i blant
  • gardd synhwyraidd ac ymwybyddiaeth ofalgar gymunedol
  • mannau tyfu cymunedol

Dewiswyd rhywogaethau planhigion a blodau gwyllt brodorol yn ofalus i roi hwb i fioamrywiaeth a denu peillwyr fel adar, gwenyn a mamaliaid bach. Crëwyd arwyddion ar gyfer llwybr natur i gysylltu'r pedwar gofod.

Llwyni blodau asalea pinc mewn plannwr
Defnyddir yr ardd synhwyraidd gan ysgolion lleol a phobl
hŷn sy'n byw mewn llety byw'n annibynnol gerllaw.

Roedd gwasanaethu anghenion y gymuned a gwella lles pobl leol hefyd yn rhan hanfodol o'r prosiect. Cyfrannodd y gymuned a phlant ysgol eu syniadau o ran sut yr oeddent eisiau i’r mannau gwyrdd gael eu defnyddio, a chyfrannodd pobl leol dros 550 o oriau gwirfoddoli i wireddu’r cynlluniau.

Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn: “Mae’r safleoedd wedi cael effaith gadarnhaol aruthrol ar ein cymuned, ac wrth iddynt aeddfedu ni fyddant ond yn tyfu o ran arddull ac ymgysylltiad cymunedol.
"Mewn arolygon ymgynghori cyhoeddus a gwblhawyd yn ystod y prosiect, roedd 100% o’r bobl a holwyd yn hapus gyda’r gwaith a wnaed, gyda llawer yn dymuno gwirfoddoli i gynnal a chadw’r safleoedd.”

Parc chwarae i blant gyda thwnnel helyg byw a ffrâm ddringo bren
Parc chwarae i blant gyda thwnnel helyg byw a ffrâm ddringo bren

Dywedodd un preswylydd sy’n byw ger y berllan gymunedol: “Mae’r syniad o gael perllan gymunedol ger ein cartref yn anhygoel.

"Mae gen i fabi a phlentyn bach, ac mae fy machgen bach wedi gwylio’r safle’n datblygu o fod yn barc anaddas ac wedi'i ordyfu i fod yn berllan. Mae’n methu aros am weld y coed yn tyfu ac i dreulio amser fel teulu yn casglu'r ffrwythau ac yn dod adref i'w defnyddio wrth goginio.”

Cefnogwyd y prosiect hwn trwy'r cynllun Lleoedd Lleol i Natur, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...