Goresgyn rhwystrau i gymryd rhan mewn gwneud Glan-yr-afon, Caerdydd yn fwy gwyrdd

Goresgyn rhwystrau i gymryd rhan mewn gwneud Glan-yr-afon, Caerdydd yn fwy gwyrdd

Gwirfoddolwyr yn cynnal plannwr mewn ardal breswyl
Gwirfoddolwyr lleol yn cynnal plannwr yng Nglan-yr-afon. Llun: SRCDC.

Local Places for Nature - Breaking Barriers

Riverside
Cardiff
South Riverside Community Development Centre
£81202
Gwnaeth Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon (SRCDC) gynnwys pobl leol wrth feithrin natur a diogelu bywyd gwyllt, adeiladu sgiliau arwain a chreu cynllun lleol ar gyfer natur.

Mae pobl o dros 35 o wahanol grwpiau ethnig yn byw yn ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, sy'n un o'r rhannau mwyaf difreintiedig o safbwynt economaidd yng Nghymru. Mae tlodi, diffyg iaith Saesneg a sgiliau llythrennedd digidol, a diffyg mannau awyr agored gwyrdd diogel yn rhwystro mynediad pobl at fyd natur.

Creu cynllun lleol ar gyfer natur

Defnyddiodd SRCDC eu cysylltiadau presennol â phobl leol i wneud gwahaniaeth o ran mynediad at natur yn eu cymdogaeth. 

Gan weithio’n agos gyda’r gymuned leol fe wnaethant gyd-greu cynllun lleol ar gyfer natur i drefnu eu syniadau a chynllunio sut i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i greu mannau lleol ar gyfer natur.

Roedd yr Awdurdod Lleol, cynghorwyr lleol a sefydliadau lleol yn frwd o blaid y cynllun, a sicrhaodd fod gan y prosiect etifeddiaeth barhaus.

Hyfforddiant arweinyddiaeth prosiectau natur

Grŵp o fenywod yn gwisgo sgarffiau pen yn gwrando ar addysgwr bywyd gwyllt yn siarad, yn sefyll o amgylch pwll uchel
Helpodd partneriaid gan gynnwys RSPB y gymuned i ddatblygu eu
mannau naturiol, fel y pwll cymunedol. Llun: SRCDC.

Cynhaliodd y prosiect hefyd gyrsiau arweinyddiaeth chwe mis, a ddysgodd 40 o bobl leol o gefndiroedd cymunedol ethnig amrywiol sut i redeg prosiectau natur cymunedol.

Bu i gyfranogwyr y cwrs weithio gydag addysgwr bywyd gwyllt proffesiynol a dysgu am fyd natur a bywyd gwyllt yn eu cymdogaeth. Wedi hynny cefnogodd dau hwylusydd prosiect y cyfranogwyr i ddatblygu ac arwain eu syniad prosiect gwyrddu lleol eu hunain.

Darparodd SRCDC gymorth iaith, TG a gofal plant hefyd, gan gydnabod anghenion ychwanegol y cyfranogwyr.

Ariannwyd y prosiect Greening Riverside drwy'r cynllun grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: Chwalu Rhwystrau, sy'n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...