Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau

Cynllun grant refeniw yn unig i helpu cymunedau sydd wedi'u hallgáu a difreintiedig i gysylltu â natur yng Nghymru.

Diweddarwyd  y dudalen ar 12 Hydref 2021

Pwysig

Nid yw Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ‒ Chwalu Rhwystrau yn derbyn ceisiadau mwyach.

Trosolwg

Bwriad Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau yw helpu sefydliadau sy'n gweithio gyda chymunedau sydd wedi'u hallgáu a chymunedau difreintiedig i nodi a dileu rhwystrau i gynnwys y gymuned ym maes natur.

Y nod yw cyd-gynhyrchu rhaglen y dyfodol, er mwyn galluogi cyfranogiad mewn natur, cyd-greu syniadau, cynlluniau a phrosiectau a fydd yn creu lle lleol ar gyfer natur.

Y gobaith yw y bydd yr arian yma'n talu am rwydwaith o hwyluswyr neu gydlynwyr i helpu i gyflawni hyn.

Rydym yn cynnig grantiau o £30,000–£100,000 ar gyfer costau refeniw. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael yw £400,000.

Mae'r cyllid hwn yn bennaf ar gyfer: 

  • sefydliadau sy'n gweithio gyda grwpiau cymunedol Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr 
  • rhai sy'n gweithio gyda phobl yn y 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig 
  • derbynwyr blaenorol grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur symud ymlaen i'r cam nesaf o ddatblygu eu lleoedd ar gyfer natur yn eu cymuned

Os yw eich cynnig yn dod o fewn y 70% o ardaloedd lleiaf difreintiedig, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais am gyllid. Mae hyn yn arbennig o wir os bydd eich prosiect yn cynyddu cyfranogiad ystod ehangach o bobl mewn treftadaeth naturiol neu os oes gan y rhai y mae'r prosiect yn effeithio arnynt angen penodol. Anfonwch e-bost atom gyda manylion byr, gan gynnwys cod post safle'r prosiect, fel y gallwn roi cyngor pellach. 

Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a'i rheoli gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

Gweithio ar y cyd

Rydym am alluogi grwpiau i gydweithio â'r cyllid a'r adnoddau sydd ar gael gan sefydliadau ariannu gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ein hunain ac eraill. Mae ein rhaglenni ariannu yn cynnwys:

Arweiniad ymgeisio

Rhan o'r gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ehangach

Mae'r fenter Chwalu Rhwystrau yn rhan o gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ehangach Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur 'ar garreg eich drws' ac wedi'i thargedu at ardaloedd o amddifadedd trefol. 

Mae tri chynllun arall o fewn y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur bresennol:

  1. Ariannu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i Bartneriaethau Natur Lleol. Arweinir y rhain gan y 25 Awdurdod Lleol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol. Maent yn darparu lleoedd ar gyfer natur, mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol ar draws eu awdurdodau.
  2. Grantiau cyfalaf mynediad agored Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (gyda refeniw o 15%), a ddarperir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n agored i unrhyw sefydliad dielw.
  3. Pecynnau rhagdâl, a ddarperir i grwpiau cymunedol ac sy'n cynnwys yr holl ddeunyddiau ac arbenigedd sydd eu hangen i greu lle ar gyfer natur. Mae pecynnau'n creu lleoedd tyfu cymunedol neu safle pryfed peillio a gellir hyd yn oed eu lleoli ar arwynebau a wnaed gan ddyn. Nid oes angen cyfrif banc na chyfansoddiad ar ymgeiswyr, dim ond gwirfoddolwyr ac ymrwymiad i gynnal y lle ar gyfer natur am bum mlynedd.

Mae'r fenter Chwalu Rhwystrau newydd hon wedi'i chynllunio i helpu'r grwpiau mwyaf ymylol i helpu i lunio rhaglen y dyfodol a chymryd y camau cyntaf tuag at greu lle i natur.

    Ariannu mynediad at natur yw ein blaenoriaeth ar y cyd

    Natur yw ein ffurf hynaf o dreftadaeth. Ni fu gofalu am natur a helpu pobl i ddeall a gwerthfawrogi ei bwysigrwydd erioed yn fwy perthnasol. Mae'r angen i gynorthwyo adferiad natur yn fater brys. Ac mae treulio amser ym maes natur yn gwella iechyd a llesiant pobl.

    Gwyddom hefyd fod effaith Covid-19 wedi atgyfnerthu gwahaniaeth mynediad, gyda llawer llai o geisiadau i'n cronfeydd natur presennol yn dod o grwpiau difreintiedig ac ardaloedd trefol â lefelau uchel o amddifadedd a'r ardaloedd hynny nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan gyngor tref neu gymuned.

    Dyna pam mae dileu rhwystrau i gyfranogiad yn flaenoriaeth ariannu strategol i ni a Llywodraeth Cymru.

    • arian grant ar gyfer prosiectau rhwng £30,000 a £100,000 
    • hyd at 100% o gyllid
    • cyllid ar gyfer sefydliadau dielw (statudol a thrydydd sector) gyda chyfrif banc a chyfansoddiad
    • cyngor cyn ymgeisio (drwy e-bost: natur@heritagefund.org.uk)

    Lle y bo'n briodol, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael cymorth a chyngor gan ymgynghorwyr cofrestredig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu i gefnogi'r cymunedau y maent yn gweithio gyda nhw.

    Amseriadau

    2021
    19 Gorffennaf Ceisiadau ar agor          
    16 Gorffennaf‒20 Gorffennaf Gellir cadw lle yn y gweminar
    6 Awst Dyddiad cau ar gyfer ymholiadau prosiect 
    2 Medi Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais  
    2 Tachwedd Penderfyniadau ceisiadau am grant
    3 Tachwedd ymlaen Ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu
    2023
    31 Mawrth
    Prosiectau'n dod i ben

    Gofynion

    Mae’n rhaid i'ch prosiect arfaethedig fod gydag un o'r canlynol:

    • Grŵp cymunedol pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr
    • grŵp ymylol (cymuned fuddiant)

    neu

    Mae’n rhaid i'ch prosiect gynnwys costau refeniw yn unig, er enghraifft:

    • staffio a chostau
    • nwyddau
    • hyfforddiant a chymorth
    • ymgynghoriad cymunedol a digwyddiadau 'blasu'
    • teithio

    Cynigion prosiect rydym yn chwilio amdanynt

    Rydym yn chwilio am gynigion ar gyfer:

    Prosiectau a fydd yn cyd-greu rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn y dyfodol

    Byddwn am i chi gael cysylltiadau sefydledig â grwpiau cymunedol pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr a chymunedau eraill sydd wedi'u hallgáu a difreintiedig, nad ydynt yn defnyddio'r rhaglen ariannu ar hyn o bryd.

    Byddwch yn gweithio gyda'r grwpiau hynny i nodi'r rhwystrau i ymgysylltu â'r rhaglen bresennol a chyd-greu atebion, dileu rhwystrau a galluogi cyfranogiad.

    Prosiect enghreifftiol: Rydych yn sefydliad cymunedol sy'n gweithio i helpu pobl o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i wella eu hiechyd a'u lles mewn ardaloedd difreintiedig. Byddwch yn recriwtio hwylusydd i weithio gyda phobl yn y gymuned i nodi cyfleoedd, rhwystrau a phartneriaethau ac felly'n cyd-greu rhaglen y dyfodol. 

    Prosiectau i alluogi cymunedau sydd wedi'u hallgáu a chymunedau difreintiedig i gael gafael ar gyllid

    Disgwyliwn i hyn gael ei gyflawni gan hwyluswyr sydd â'r arbenigedd a'r profiad o weithio gyda grwpiau penodol neu mewn cymunedau penodol.

    Prosiect enghreifftiol: Rydych yn gorff ymbarél ar gyfer sefydliadau sy'n berchen ar dir/adeiladau mewn ardaloedd difreintiedig. Byddwch yn recriwtio hwylusydd i weithio'n agos gyda'r grwpiau lleol i nodi cyfleoedd ar gyfer rhandiroedd cymunedol a gerddi bywyd gwyllt ar y tir. Byddwch yn gweithio gyda'r gymuned i gyd-greu prosiectau, gan arwain at geisiadau am gyllid i unrhyw un o'r cynlluniau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

    Prosiectau i helpu cyn-dderbynwyr cyllid Lleoedd Lleol i Natur i gynnal eu hymgysylltiad â natur a datblygu cynigion ar gyfer cam nesaf eu taith natur

    Prosiect enghreifftiol: Rydych chi'n gorff neu'n sefydliad sydd eisoes yn arbenigo mewn mentora a chefnogi grwpiau cymunedol i ddatblygu eu rhaglen o weithgareddau a/neu ddatblygu cynlluniau ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cynaliadwy sy'n cynnwys y gymuned.

    Blaenoriaeth ar gyfer ariannu

    Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer arian i gynigion sy'n:

    • ymgysylltu â phobl a chymunedau o grwpiau cymunedol pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr
    • cynnwys pobl a chymunedau mewn ardaloedd trefol ac amdrefol difreintiedig (30% mwyaf difreintiedig)
    • cynnwys cynghorwyr hyfforddedig a phrofiadol sydd â chefndir cryf mewn gweithio gyda chymunedau ymylol, a'r rhai sydd ag arbenigedd mewn gwella ac adfer natur

    Canlyniadau gorfodol

    Bydd yn rhaid i'ch cynnig gyflawni ein canlyniad gorfodol i 'ymgysylltu ag ystod ehangach o bobl mewn treftadaeth naturiol' ac o leiaf un canlyniad arall. Darllenwch fwy am ein canlyniadau a gweler y canllawiau isod am fanylion.

    Yr hyn nad ydym yn chwilio amdano

    Nid ydym yn chwilio am brosiectau natur na chynigion i greu 'Lle i Natur'. Os oes gennych brosiect o'r fath mewn golwg, edrychwch ar y meini prawf ar gyfer y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur neu cysylltwch â natur@heritagefund.org.uk am  gyngor.

    Mae'n bwysig eich bod yn meddwl sut y bydd eich prosiect yn bodloni gofynion y cynllun grant hwn.

    Mae’n rhaid i'ch prosiect:

    • bodloni'r gofyniad i weithio gyda chymuned o fewn y 30% o gymunedau trefol/amdrefol mwyaf difreintiedig
    • cynyddu cyfranogiad ystod ehangach o bobl mewn treftadaeth naturiol yn sylweddol, gan weithio gyda grŵp cymunedol Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, NEU weithio gyda chyfranogwyr blaenorol y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
    • gyd-greu rhaglen y dyfodol, gan ddileu rhwystrau i ymgysylltu
    • arwain at gynllun i greu lleoedd ar gyfer natur, wedi'u cynllunio a'u harwain gan gymunedau.
    • galluogi cyfranogiad ar gyfer ystod ehangach o bobl: eu helpu i brofi a gwerthfawrogi natur, gan arwain at weithredu unigolion a chymunedol i ddiogelu a gwella natur
    • dangos manteision lluosog ychwanegol sy'n rhychwantu lles amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol

    Yr Iaith Gymraeg

    Mae’n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd ar eich gwaith a dweud wrthym sut y byddwch yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru. Bydd angen i chi ddangos sut y byddwch yn cynnig darpariaeth ddwyieithog yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys y gyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y ffurflen gais. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn, cysylltwch â'n tîm cymorth iaith Gymraeg.

    Ieithoedd cymunedol

    Mae’n rhaid i chi ystyried defnyddio iaith/ieithoedd cymunedol ym mhob agwedd ar eich gwaith. Dywedwch wrthym sut y byddwch yn hyrwyddo ac yn cefnogi defnyddwyr ieithoedd cymunedol fel y bo'n briodol i'ch cais. Sut y byddwch yn adlewyrchu natur ieithyddol y gymuned benodol yr ydych yn gweithio gyda hi?

    Bydd angen i chi ddangos sut y byddwch yn cynnig darpariaeth o'r fath yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys y gyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y ffurflen gais.

    Cydnabyddiaeth

    Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd angen i chi gydnabod eich grant gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn eich cais mae angen i chi ddweud wrthym sut rydych yn bwriadu gwneud hyn.

    Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddefnyddio logo Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddeunyddiau brandio eraill sydd ar gael. Bydd angen i chi hefyd gydnabod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gan ddefnyddio ein logo Cymraeg/Saesneg dwyieithog. Bydd rhai adnoddau ar gael hefyd. Dysgwch fwy am gydnabod eich grant.

    • costau staffio gan gynnwys cyflogau ac ar gostau
    • adennill costau'n llawn i'ch sefydliad
    • gweithgareddau ymgysylltu a digwyddiadau gyda'r gymuned
    • digwyddiadau gwybodaeth/hyfforddiant/gwybodaeth i aelodau'r gymuned
    • digwyddiadau blasu i alluogi cymunedau i brofi manteision natur
    • ymweliadau â Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sy'n bodoli eisoes i ddangos beth sy'n bosibl
    • cynllunio prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur posibl yn eich ardal

    Yr hyn na allwch wario'r arian arno

    • prynu unrhyw eitemau cyfalaf (e.e. gliniaduron, ffonau)
    • datblygu 'Lle Lleol ar gyfer Natur' mewn gwirionedd. Rhaid gwneud hyn naill ai drwy gynnig Cadw Gymru'n Daclus ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur neu drwy'r cynllun grant cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar wahân

    Sut i wneud cais

    • Ewch i'n porth ymgeisio a chofrestrwch gyfrif. Bydd angen i unrhyw un sydd wedi cofrestru ar ein porth yn flaenorol ail-gofrestru gan fod gennym borth ymgeisio newydd (Mehefin 2021)
    • O'r ddewislen dewiswch £10,000–£250,000.
    • Llenwch a chyflwynwch Ffurflen Ymholiadau Prosiect, fel y gallwch gael adborth gennym ar eich prosiect cyn i chi gwblhau eich cais llawn.
    • Rhowch enw i'ch prosiect sy'n dechrau gyda #Natur2
    • Unwaith y byddwch wedi derbyn adborth ar eich Ymholiad Prosiect, cwblhewch a chyflwynwch gais llawn.

    Nid oes ffurflen gais benodol ar gyfer cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus ochr yn ochr â'n canllawiau rheolaidd ac atebwch yr holl gwestiynau yn ein ffurflen gais am grant o £10,000–£100,000.

    Defnyddiwch y canllawiau atodol hyn ochr yn ochr â nodiadau cymorth y cais i ateb y cwestiynau. Mae'r nodiadau cymorth ymgeisio yn ymddangos wrth i chi lenwi'r ffurflen gais.

    Bloc 1af ar y ffurflen gais:

    Teitl y prosiect

    Dechreuwch enw/teitl eich prosiect gyda #NATUR2 i'n helpu i adnabod eich cais yn gywir. Er enghraifft: #NATUR2TownhillNatureHeroes. Mae terfyn o 15 gair.

    2il floc ar y ffurflen gais: Cais

    Cyngor a dderbyniwyd wrth gynllunio'r prosiect

    Soniwch am yr holl gyngor a gafwyd. Gallai hyn gynnwys cyngor gan Gydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol, sefydliadau cymunedol perthnasol eraill yn eich ardal chi a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

    Dyddiad gorffen y prosiect

    Ni all y dyddiad gorffen fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2023.

    Disgrifiwch eich prosiect

    Mae hon yn adran allweddol yn eich cais a dylai gynnwys gwybodaeth fel:

    • lefelau amddifadedd
    • ystodau oedran nodweddiadol
    • lefelau cyflogaeth
    • amrywiaeth ethnig
    • mynediad lleol i fannau gwyrdd

    Dylech ddweud wrthym pam y byddai lleoedd lleol ar gyfer natur o fudd i'r cymunedau hynny.

    Os yw eich prosiect yn ymwneud â chymuned ddaearyddol, dylech gynnwys sgôr gyffredinol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru  ar gyfer cyfeiriad y prosiect.

    Defnyddiwch y ddolen waelod ar offeryn rhyngweithiol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, a rhowch god post y prosiect.

    Yna edrychwch ar y sgôr ganrannol ar gyfer y mesur amddifadedd cyffredinol yn eich cyfeiriad prosiect. Nodwch y ganran hon yn eich disgrifiad o'r prosiect.

    Os yw eich cynnig yn cynnwys cymuned fuddiant sy'n rhychwantu gwahanol leoliadau, rhowch god post eich prif sylfaen prosiect a disgrifiwch y gymuned fuddiant.

    Dywedwch wrthym yn glir:

    • yr hyn rydych chi'n credu yw'r rhwystrau i gymryd rhan yn eich cymuned benodol
    • sut y caiff unigolion a chymunedau eu cefnogi i gymryd rhan
    • sut y bydd y gwaith a gynigir yn gwneud gwahaniaeth pendant i unigolion, cymunedau a'r amgylchedd naturiol
    • cyflwr presennol yr amgylchedd naturiol yn eich ardal (os yw'n berthnasol)
    • pa newidiadau allai fod yn bwysig i'ch cymuned
    • sut y byddwch yn sicrhau ymgysylltiad gwirioneddol ac ystyrlon â'r gymuned
    • sut y byddwch yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn 'eiddo' ac yn cael eu darparu ar gyfer y gymuned, gan y gymuned
    • yr hyn y byddwch yn gwario'r cyllid arno (yn gyffredinol). Mae lle ychwanegol ar gyfer cyllideb lawn yn nes ymlaen yn y ffurflen gais.
    • sut y byddwch yn cynnwys y Gymraeg a/neu ieithoedd cymunedol o fewn eich prosiect

    Pa wahaniaeth fydd eich prosiect yn ei wneud?

    Dywedwch wrthym sut rydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn newid agweddau a dulliau unigol a chymunedol o ymdrin â bywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol. Cyfeiriwch yn ôl at feini prawf y grant yn ôl y gofyn.

    Beth sy'n digwydd ar ôl i'r prosiect ddod i ben?

    Dylech gynnwys gwybodaeth am sut y gallech gynllunio i symud ymlaen ac effeithio ar newid yn y dyfodol. Nodwch a oes gennych unrhyw gynlluniau i ddatblygu cais am grant cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur neu wneud cais i unrhyw gyllidwyr eraill.

    Pam mae angen i'r prosiect hwn ddigwydd nawr?

    Mae'r gronfa hon yn gystadleuol. Bydd angen i chi egluro'r ffactorau ysgogol wrth wneud y cais hwn. Beth sy'n ymwneud â'r gymuned neu'r lleoliad sy'n gwneud hyn y peth iawn i'w wneud nawr?

    Er enghraifft, a oes pwysau datblygu penodol ar y darnau agored sy'n weddill yn yr ardal? A yw'r gymuned wedi bod yn awyddus i wella eu hamgylchedd lleol ond heb y wybodaeth na'r sgiliau ar sut i symud ymlaen?

    A yw'r dreftadaeth yn denu ymwelwyr?

    Ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau yn y rhaglen hon, yr ateb rydym yn disgwyl ei weld yw "Na". Ni fydd cwestiynau dilynol yn berthnasol ac ni fydd ateb "Na" yn niweidio eich cais mewn unrhyw ffordd.

    Sut y byddwch yn cydnabod eich grant?

    Dylech gynnwys manylion am sut rydych yn bwriadu cydnabod eich grant gan ddefnyddio'r Gymraeg, y Saesneg a'r ieithoedd cymunedol perthnasol. Gallai hyn fod mewn fformatau printiedig a digidol, gwefannau, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a mwy. Gall unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chyfieithu gael eu cynnwys yn eich cyllideb.

    A yw'r prosiect hwn yn cynnwys caffaeliad?

    Atebwch "Na". Ni allwn ariannu caffaeliadau drwy'r rhaglen hon.

    Mewn perygl

    Darllenwch y nodyn ar hyn fel "A yw natur (cynefinoedd a rhywogaethau) yn eich ardal leol mewn perygl?". Byddem yn disgwyl i'r ateb hwn fod yn "Ie".

    A fydd y prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf?

    Atebwch "Na". Cronfa refeniw yn unig yw hon ac ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith cyfalaf. Dylid ateb cwestiynau pellach ar gyfalaf fel "Na" neu "Ddim yn berthnasol".

    Os oes angen cyllid cyfalaf arnoch, efallai yr hoffech edrych ar feini prawf grant y gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

    Dynodiad treftadaeth

    Gadewch yr adran hon yn wag

    Canlyniadau'r prosiect

    Dylai eich prosiect gyflawni'r canlyniad gorfodol 'bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth' ac o leiaf un canlyniad  arall.  

    • Bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth . Nodwch ar gyfer y grantiau hyn ein bod yn golygu 'ymwneud â'n tirweddau a'n natur'. Dylech ddweud wrthym sut y byddwch yn gweithio gyda grwpiau cymunedol pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr a/neu gymunedau sydd wedi'u hallgáu a difreintiedig mewn ardaloedd difreintiedig, nad ydynt ar hyn o bryd yn cael gafael ar gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, i nodi rhwystrau a chyd-greu atebion.
    • Bydd treftadaeth (tirwedd a natur) yn cael ei nodi a'i hegluro'n well
    • Bydd pobl wedi dysgu am dreftadaeth (tirwedd a natur), gan arwain at newid mewn syniadau a gweithredu
    • Bydd treftadaeth mewn gwell cyflwr. Noder nad ydym yn disgwyl gweld gwelliant uniongyrchol o fewn amserlen y prosiect ond dylai prosiectau a ariennir alluogi cyflawni'r canlyniad hwn yn y dyfodol.  

     

     

    Data

    I gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei brosesu o dan y rhaglen grant hon, gweler ein polisi preifatrwydd.

    Deallwn y gallech fod yn siomedig gyda phenderfyniad. Nid oes hawl i apelio nac ailymgeisio am Leoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau.

    Dim ond os gallwch wneud cŵyn ffurfiol am sut rydym wedi delio â'ch cais y gallwn adolygu ein penderfyniad.

    Byddwn ond yn gallu ystyried ac ymchwilio i'r gŵyn os gallwch ddangos:

    • ni wnaethom ddilyn y gweithdrefnau cyhoeddedig ar gyfer asesu eich cais
    • rydym wedi camddeall rhan sylweddol o'ch cais
    • ni wnaethom gymryd sylw o wybodaeth berthnasol

    Mae’n rhaid gwneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig drwy e-bostio enquire@heritagefund.org.uk  o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn eich penderfyniad cais. Ein nod yw cydnabod eich cŵyn o fewn tri diwrnod gwaith.

    Bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu i ddechrau gan gyfarwyddwr ardal/gwlad o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n annibynnol ar baneli argymhelliad a phenderfyniadau ar gyfer y gronfa hon.

    Ein nod yw cael penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith o'r adeg y gwnaethoch gyflwyno'ch cŵyn.

    Am gymorth, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 020 7591 6044 neu e-bostiwch enquire@heritagefund.org.uk.

    Mae'r Gronfa Treftadaeth yng Nghymru yn dosbarthu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ‒ Chwalu Rhwystrau ar ran Llywodraeth Cymru

    Breaking Barriers partner logo