Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Ffurflenni Cais

Mae'r datganiad hygyrchedd yma’n berthnasol i ffurflenni cais Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Caiff y wefan hon ei chynnal gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Pa mor hygyrch yw ein gwefan

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon ar gael yn llawn:

  • dangosir rhai elfennau o'r strwythur pennawd yn weledol yn unig
  • mae rhai cwestiynau wedi'u diffinio'n rhaglennig fel botymau ond ni ellir rhyngweithio gyda nhw
  • nid oes dull o ganiatáu i bobl anwybyddu'r pennawd mynych ar bob tudalen.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille:

Ebost - enquire@heritagefund.org.uk

Ffoniwch 020 7591 6044 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am–5.00pm)

Ffoniwch ein swyddfa yng Nghymru ar 029 2034 3413 am wasanaeth Cymraeg.

Gallwch hefyd gysylltu â'n Prif Swyddfa yn Llundain drwy ffacs neu ffôn testun:

Ffacs 020 7591 6001, Ffôn testun 020 7591 6255

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 14 diwrnod.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen 'cysylltu â ni', ffoniwch neu anfonwch e-bost atom am gyfarwyddiadau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â thîm Dylunio'r Gwasanaeth Digidol drwy e-bostio enquire@heritagefund.org.uk neu ffonio 020 7591 6044.

Gweithdrefn orfodi

Mae Rheoliadau Hygyrchedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy'n D/byddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd. Gallwch gysylltu â ni drwy ffôn testun ar 020 7591 6255.

Os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad ag unrhyw un o'n swyddfeydd gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Baich anghymesur

Gwe-lywio a chael gafael ar wybodaeth

Does dim modd anwybyddu'r cynnwys ailadroddus ym mhrif bennawd y dudalen (er enghraifft, opsiwn 'sgipio i'r prif gynnwys').

Cyhoeddir cwestiynau lluosog fel botymau gan dechnoleg darllenwyr sgrin ond ni ellir rhyngweithio â nhw.

Strwythur pennawd

Ar bob tudalen mae testun sydd wedi'i steilio'n weledol fel pennawd, ond nid yw yn y strwythur pennawd.

Caiff y ffurflen hon ei hadeiladu a'i chynnal drwy feddalwedd trydydd parti a'i gwneud i edrych fel ein gwefan.

Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys y problemau gyda llywio a strwythur pennawd. Credwn y byddai gwneud hynny'n awr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall ym mis Hydref 2020.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd yma

Paratowyd y datganiad yma ar 9 Ebrill 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 9 Ebrill 2020.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 8 Ebrill 2020. Cynhaliwyd y profion gan aelodau o staff o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Profwyd pob tudalen o'r ffurflen gais gan ddefnyddio Voiceover, llywio bysellfwrdd yn unig a dyfeisiau symudol.

Ewch yn ôl i frig y dudalen hon

Yn yr adran hon