Templedi cynllun prosiect
Gofynnwn i chi gwblhau'r templed cynllun prosiect yma fel y gallwn weld sut rydych yn bwriadu rheoli eich prosiect a chysylltu'r holl dasgau a gweithgareddau gyda'i gilydd mewn ffordd resymegol.
Byddwn yn gofyn i chi gasglu data drwy gydol eich prosiect i fesur llwyddiant eich cynlluniau a gofyn i chi fyfyrio arnynt yn eich gwerthusiad prosiect.
Dyma un o rannau pwysicaf eich cais ac rydym yn argymell eich bod yn defnyddio templed y cynllun prosiect a ddarperir.
Rydym yn argymell bod eich cynllun prosiect mewn trefn gronolegol. Dyma lle rydych chi'n dweud wrthym am y pethau y bydd eich prosiect yn eu gwneud a'u cynhyrchu. Dywedwch wrthym beth fydd allbynnau eich prosiect a chynnwys rhifau lle gallwch.
Pan gaiff ei lenwi, dylai'r tabl roi cynllun realistig i chi a'ch cydweithwyr ar gyfer cyflawni eich prosiect. Fodd bynnag, deallwn fod y cynllun yn debygol o newid a gwella wrth i'ch prosiect ddatblygu.
Atodiad | Maint |
---|---|
Project plan template: £10,000 - £100,000 | 11.23 KB |
Project plan template: £100,000 - £250,000 | 16.97 KB |
CYMRAEG: Templed Cynllun Prosiect: £10,000 - £100,000 | 11.88 KB |
CYMRAEG: Templed Cynllun Prosiect: £100,000 - £250,000 | 19.67 KB |