Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd tri)

Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd tri)

Nod y gronfa hon yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, gan adeiladu gallu i gryfhau ac uwchraddio cyflwyno dros fyd natur yn y dyfodol, ac annog ennyn diddordeb cymunedau'n weithredol.

Crëwyd y dudalen: Medi 2023.

Ai hon yw'r rhaglen iawn i chi? 

  • Ydych chi'n unigolyn neu'n sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru? 

  • A oes angen ariannu arnoch i gynllunio neu gyflwyno prosiect sy'n seiliedig ar fyd natur? 

  • A yw eich prosiect yn canolbwyntio ar wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghymru o fewn ac o amgylch y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig? 

  • A oes angen grant rhwng £50,000 a £250,000 arnoch?

Os gwnaethoch chi ateb oes i'r cwestiynau hyn, yna mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn addas i chi. 

Trosolwg

Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw gwella cyflwr a chydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig. Mae'n elfen allweddol o gyflwyno Rhaglen Rhwydweithiau Natur ehangach Llywodraeth Cymru. 

Mae gwella cyflwr a chysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig yn eu galluogi i weithredu'n well fel rhwydweithiau natur. Mae rhwydweithiau natur yn ardaloedd hanfodol a chydnerth lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu. Bydd adfer cysylltedd yn y rhwydweithiau hyn yn: 

  • atal dirywiad pellach mewn rhywogaethau a chyflwr cynefinoedd 

  • cefnogi adferiad byd natur 

  • gwella’r gallu i addasu i’r argyfwng hinsawdd 

Mae diogelu safleoedd yn dibynnu ar sefydliadau cryf, llywodraethu da a chynllunio prosiectau mewn ffordd gadarn. Felly, bydd y Gronfa Rhwydweithiau Natur hefyd yn cefnogi datblygiad prosiect ac adeiladu gallu ar gyfer prosiectau adferiad byd natur yn y dyfodol. Gallai'r gwaith hwn gynnwys y canlynol (ond nid yw'n gyfyngedig iddynt):  

  • datblygu partneriaethau 

  • ymgynghori ac ymgysylltu â thirfeddianwyr/cymunedau 

  • arolygon ecolegol 

  • astudiaethau dichonoldeb 

  • dylunio cynlluniau 

  • gwaith paratoadol arall ar gyfer prosiectau cyfalaf yn y dyfodol 

Gall adeiladu gallu helpu datblygwyr prosiectau a phartneriaid i ddangos canlyniadau, creu modelau busnes cadarn sydd â’r potensial i ddenu buddsoddi a darparu sylfaen dystiolaeth i'w gwneud hi'n haws i arloesi dulliau newydd ac annog y defnydd ohonynt. 

Mae'r gronfa hon hefyd yn cefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau mewn safleoedd gwarchodedig ac o'u cwmpas. Gall hyn fod yn hanfodol i lwyddiant hirdymor prosiectau adferiad byd natur, ac yn aml hefyd bydd manteision ehangach ar gyfer iechyd a lles pobl.  

Gallwch gyflwyno uchafswm o ddau gais i’r Gronfa Rhwydweithiau Natur: un ar gyfer cyflwyno prosiect cyfalaf ac un ar gyfer datblygu prosiect/adeiladu gallu. Dylai prosiectau fod am ddwy flynedd ar y mwyaf, ond rydym yn rhagweld y bydd prosiectau datblygu/adeiladu gallu yn fyrrach. 

Beth yw'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig?

Mae'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, safleoedd Ramsar a Pharthau Cadwraeth Forol. I wirio a yw tir neu fôr wedi'i gynnwys yn y diffiniadau hyn, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru a Phorth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru.

Terfyn amser ymgeisio

12 hanner dydd ar 23 Tachwedd 2023

Ar ôl i chi ddarllen yr arweiniad isod, ewch i'n porth ymgeisio i wneud cais 

Drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, rydym am gefnogi: 

  • Gweithredu ar safleoedd gwarchodedig neu'r rhwydweithiau ecolegol sy'n eu cynnal. Dylai'r prosiect hefyd ddangos rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol ar draws Cymru.  Gall hyn gynnwys gweithredu y tu allan i safleoedd gwarchodedig a fydd yn fanteisiol i'r rhwydwaith yn gyffredinol (gweler 'Beth rydym yn ei ddisgwyl gan brosiectau' isod).  
  • Camau gweithredu y gall cymunedau lleol gymryd rhan yn weithredol ynddynt ac elwa ohonynt. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cyfranogiad gweithredol gydag ystod amrywiol o bobl a chymunedau (yn enwedig grwpiau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol) i ehangu’r rhwydwaith o bobl sy’n ymgysylltu â byd natur, a gyda gwella cydnerthedd safleoedd gwarchodedig a’r rhwydweithiau ecolegol sy’n eu cefnogi. 
  • Gweithgarwch datblygu sy’n galluogi sefydliadau i adeiladu eu gallu a’u sylfaen dystiolaeth i gynllunio prosiectau adferiad natur a fydd yn fanteisiol i’r rhwydwaith ac yn cyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys adeiladu gallu i ddenu buddsoddiad ariannol i brosiectau adferiad natur er mwyn cyflwyno’r ddarpariaeth ar raddfa fwy. 

Mae'r cynllun yn agored i bob tirfeddiannwr preifat a sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru. Mae'n rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o feddu ar y caniatadau, y trwyddedau a'r cydsyniadau cywir sydd eu hangen i ymgymryd â gweithgaredd ar y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig neu'r ardaloedd cyfagos, a'ch bod wedi sicrhau'r rhain yn barod neu'n gweithio tuag at eu sicrhau. Mae'n rhaid i'r ardal yr ydych yn ei wella fod yng Nghymru, ond gallwch chi/eich sefydliad fod wedi’ch lleoli unrhyw le yn y DU.

Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan brosiectau

Mae'n rhaid i weithgareddau greu buddion uniongyrchol ar gyfer y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig nawr neu yn y dyfodol. Bydd hyn fel arfer yn ymwneud â gwelliannau'n uniongyrchol ar safle neu ar leoliadau cyfagos a fydd yn gwella cyflwr nodweddion a chysylltedd safleoedd. Gall gynnwys y canlynol hefyd: 

  • gwelliannau i hygyrchedd safle  
  • cefnogi sefydliadau i gyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol 
  • Cefnogi sefydliadau neu unigolion sydd (neu a fydd yn y dyfodol) yn ymwneud â phrosiectau ar safleoedd a/neu ar rwydweithiau ecolegol sy'n eu cefnogi. Gallai hyn gynnwys cynllunio, staffio, hyfforddiant, prentisiaethau, cyllid gwyrdd, caffael tystiolaeth drwy arolygon, adolygiadau llywodraethu, etc. 

Gall prosiectau weithredu ar y tir/môr o fewn a thu hwnt i'r safleoedd gwarchodedig eu hunain. Er enghraifft, gallai prosiectau y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig:  

  • wella cysylltedd ecolegol rhwng safleoedd gwarchodedig penodol   
  • gweithredu er budd cynefinoedd neu rywogaethau y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig lle y maent hefyd yn nodweddion o safleoedd gwarchodedig cysylltiedig  
  • canolbwyntio ar rywogaeth nad yw’n nodwedd o safle, cyn belled â’i bod yn creu buddion o ran cyflwr, cysylltedd neu weithrediad ecosystem safleoedd penodol a’u nodweddion  
  • fod o fudd i gynefin neu rywogaeth nad yw'n nodwedd o safle ar hyn o bryd, ond y mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai fod felly 
  • fod yn seiliedig ar ardaloedd nad ydynt o dan warchodaeth statudol ar hyn o bryd, ond sydd â lefel debyg o bwysigrwydd o ran bioamrywiaeth 
  • lleihau effeithiau allanol ar safleoedd gwarchodedig i wella cyflwr, er enghraifft o ddyddodiad nitrogen neu gytrefu INNS 
  • adfer swyddogaethau ecosystem o amgylch safleoedd gwarchodedig ar raddfa y dirwedd 

Ym mhob un o'r achosion hyn, rhaid i gais gynnwys cyfiawnhad sy'n seiliedig ar dystiolaeth dros gymhwystra'r prosiect. Dylid enwi'r safleoedd a'r nodweddion penodol sy'n elwa o'r prosiect ac esbonio'r sail resymegol ecolegol drosto.

Bydd disgwyl i chi ddangos bod eich prosiect arfaethedig yn cyflwyno yn erbyn yr amcanion rheoli neu amcanion cadwraeth ar gyfer y safle dan sylw.  

Byddwn yn ceisio ariannu cyfuniad o weithgarwch cyfalaf a refeniw ar draws portffolio o brosiectau. I gael mwy o ddealltwriaeth, gweler 'Paratoi eich cais' isod.

Nodi safleoedd posib ar gyfer cysylltedd

Bydd camau gweithredu i wella cysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig yn fwyaf effeithiol os caiff eu lleoli i wella patrymau cysylltedd presennol yn y dirwedd.  Mae camau gweithredu'n debygol o fod yn fwyaf effeithiol os ydynt yn atgyfnerthu, yn ehangu neu'n creu cysylltiadau rhwng rhwydweithiau cynefinoedd. 

Mae’r Map Rhwydweithiau Natur ar gael i helpu gyda hyn a gellir ei gyrchu trwy MapDataCymru a Phorth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru.

Mae’r mapiau’n dangos rhwydweithiau wedi’u modelu ar gyfer amrywiaeth o gynefinoedd sy’n dangos pa mor dda y mae ardaloedd cynefin yn debygol o fod wedi'u cysylltu ar draws Cymru ac â’r Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth. Maent yn dynodi cysylltedd presennol tebygol yn benodol rhwng ac o amgylch safleoedd gwarchodedig ar gyfer cynefinoedd gwahanol. Mae'r mapiau hefyd yn cyflwyno byffer generig o amgylch yr holl safleoedd gwarchodedig i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu yn agos at safleoedd presennol.   

Mae'n bwysig nodi mai allbynnau wedi'u modelu yw'r mapiau hyn a'u bwriad yw cyfeirio camau gweithredu, yn hytrach na'u rhagnodi. Efallai y bydd allbynnau model eraill ar gael, ac mae nodweddion cysylltiol eraill yn y dirwedd, megis cyrsiau dŵr, cloddiau neu hyd yn oed ymylon ffyrdd, a allai gael eu hystyried wrth gynllunio prosiectau.

  • rhaglen yn agor ar 20 Medi 2023 
  • terfyn amser ymgeisio: 12 hanner dydd ar 23 Tachwedd 2023 
  • hysbysir ymgeiswyr am benderfyniadau erbyn 1 Mawrth 2024 
  • rhaid cwblhau prosiectau cyfalaf erbyn 1 Mawrth 2026

Pa gostau allwch chi ymgeisio amdanynt?

Mae'n bwysig i chi nodi pa rai o gostau eich prosiect sy'n gyfalaf a pha rai sy'n refeniw. Gall ceisiadau gynnwys unrhyw un o'r canlynol –

Costau cyfalaf:

  • prynu eitemau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau rheoli tir, megis coed, planhigion gwrychoedd, ffensys ac eitemau gwaith cyfalaf sy'n ofynnol i gyflwyno’r canlyniadau 
  • costau cyffredinol a geir wrth osod y gwaith cyfalaf, sy'n cynnwys costau contractwyr ar gyfer llafur a defnyddio offer 
  • prynu peiriannau ac offer hyd at werth yr ased ar y farchnad 
  • prynu, dylunio a gosod paneli dehongli, gan gynnwys costau cyfieithu 
  • caffael neu ddatblygu meddalwedd cyfrifiadurol a chaffael patentau, trwyddedau, hawlfreintiau a nodau masnach 
  • ffioedd ymgynghorydd a phensaer, costau dylunio technegol eraill, arolygon safle a ffioedd proffesiynol megis ffioedd sy'n gysylltiedig â chynaladwyedd amgylcheddol ac economaidd 
  • Ffioedd a chostau'r cais cynllunio. Mae ffioedd a godir am ganiatadau, trwyddedau a chydsyniadau statudol yn gymwys, ar yr amod eu bod yn hanfodol i gyflwyno'r prosiect cyfalaf. Gellir talu'r rhain cyn dechrau ar y prosiect ond mae'n rhaid eu hysgwyddo ar ôl mis Mawrth 2024 a dangos tystiolaeth ohonynt yn yr un ffordd â gwariant arall. 
  • ariannu wrth gefn ar gyfer costau cyfalaf ychwanegol (argymhellwn tua 10% o arian wrth gefn) 
  • ariannu ar gyfer chwyddiant i ganiatáu ar gyfer cynnydd mewn costau cyflwyno’r prosiect yn y dyfodol 

Costau refeniw 

  • amser staff 
  • adennill costau llawn neu gostau sefydliadol craidd tuag at gyflwyno'r prosiect 
  • costau gweithgareddau (digwyddiadau, lluniaeth, llogi ystafell, etc) 
  • gwerthuso 
  • cynllunio'r prosiect, er enghraifft astudiaethau dichonoldeb, arolygon neu waelodlin ecolegol, ymgynghori â thirfeddianwyr/y gymuned, adolygiadau llywodraethu, cyngor ymgynghorol ar gyllid gwyrdd, etc 
  • costau hyfforddi a phrentisiaethau 
  • costau cyfieithu 
  • ariannu wrth gefn ar gyfer costau refeniw ychwanegol (argymhellwn tua 10% o arian wrth gefn) 

Ni chewch gynnwys costau ar gyfer cynnal a chadw parhaus neu gostau rhedeg yn y dyfodol y tu hwnt i gyfnod y prosiect.

Iaith Gymraeg 

Mae'n rhaid i chi gymryd y Gymraeg i ystyriaeth ym mhob agwedd ar eich gwaith a dweud wrthym sut y byddwch yn hybu ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru. 

Bydd angen i chi ddangos sut y byddwch chi'n cynnig darpariaeth ddwyieithog yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys y gyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y ffurflen gais.

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut i wneud hyn, bwrw golwg ar ein harweiniad ar gyfer cyflwyno prosiect dwyieithog yng Nghymru. Gallwch hefyd gysylltu â'n tîm cymorth iaith Gymraeg yn cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk 

Dogfennau ategol

Mae'n rhaid i'r dogfennau ategol a ganlyn gael eu huwchlwytho gyda'ch ffurflen gais. Dylai maint y ffeiliau fod yn llai na 20MB. Noder bod rhai o'r dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen hon yn wahanol i'r rhai a nodir yn y ffurflen gais ar-lein. 

Ar gyfer y rhaglen hon, mae angen y dogfennau canlynol arnom: 

  • dogfen lywodraethu (gorfodol os oes gan eich sefydliad un o'r rhain) 
  • Cyfrifon wedi'u harchwilio neu eu dilysu (gorfodol os ydych yn sefydliad). Os ydych yn unigolyn, yn sefydliad sydd newydd ei ffurfio neu os nad oes gennych gyfrifon sy'n llai na 12 mis oed, bydd angen i ni weld cyfriflenni banc yn yr un enw â'ch cais am y tri mis llawn diwethaf. 
  • cynllun prosiect (gorfodol ar gyfer pob prosiect) - gallwch lawrlwytho templed o'n tudalen cynllun prosiect 
  • cytundeb partneriaeth (gorfodol os ydych yn gweithio mewn partneriaeth) 
  • disgrifiadau swydd (gorfodol os ydych yn creu swyddi neu brentisiaethau newydd fel rhan o’ch prosiect) 
  • briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir (os yn berthnasol)  
  • delweddau, gan gynnwys o leiaf un map sy'n dangos lleoliadau gwaith cyfalaf  
  • cyfrifo adennill costau llawn (os yn berthnasol)  
  • tystiolaeth o gefnogaeth, megis llythyrau, e-byst neu fideos cefnogol (dewisol) 

Gofynion perchnogaeth trydydd parti 

Gall tir eich prosiect (a all gynnwys gwahanol leiniau o dir dros ardal eang) fod yn eiddo i drydydd parti neu nifer o drydydd partïon (gan gynnwys perchnogion preifat). Os mai dyna'r achos, dylid rhoi cytundebau cyfreithiol ar waith rhyngoch chi a phob tirfeddiannwr. 

Nid oes ffurf ragnodedig ar gytundeb, ond mae gennym ofynion penodol y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gytundebau tirfeddiannwr trydydd parti. Fel lleiafswm, dylai’r cytundebau tirfeddiannwr gynnwys y canlynol: 

  • manylion y partïon 
  • cadarnhad ynghylch sut mae’r tir wedi'i ddal (rhydd-ddaliad neu ar brydles) 
  • disgrifiad o'r eiddo (gan gynnwys cynlluniau) 
  • cyfamodau ar ran y tirfeddiannwr i gynnal a chadw’r tir a darparu mynediad cyhoeddus yn unol â thelerau’r grant (fel y bo’n berthnasol) 
  • darpariaeth y dylai unrhyw warediad ymlaen fod yn ddarostyngedig i'r cytundeb trydydd parti 
  • y bydd y cytundeb yn para o ddechrau’r gwaith ar dir y trydydd parti tan 10 mlynedd ar ôl cwblhau’r prosiect 

Bydd angen i chi ddarparu copïau o'r cytundebau tirfeddiannwr i ni er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gofynion hyn. Bydd angen cwblhau'r cytundebau tirfeddiannwr a'u rhoi ar waith cyn rhyddhau arian grant ar gyfer gwaith ar bob llain o dir sy'n eiddo i drydydd parti. Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosib y byddwn yn gofyn i'r perchennog lofnodi ein telerau ac amodau. 

Gallwch gynnwys costau addasu a sefydlu unrhyw gytundebau trydydd parti, gan gynnwys costau ceisio cyngor cyfreithiol, fel rhan o’r costau yn eich cais.

Trwyddedau, caniatadau a chydsyniadau 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos yn eu cais eu bod yn ymwybodol o'r caniatadau a'r trwyddedau perthnasol ar gyfer cyflwyno eu prosiect, a'u bod yn gweithio tuag at gaffael y rhain. 

Ariannu cyfatebol 

Nid oes unrhyw ofynion o ran cyfraniadau arian parod neu anariannol ar gyfer y Gronfa Rhwydweithiau Natur. Fodd bynnag, gall unrhyw gyfraniadau arian parod, anariannol neu ar ffurf gwirfoddolwyr y byddwch yn eu darparu ychwanegu at effaith a gwerth am arian eich prosiect, a fydd yn cael eu hystyried yn y cam asesu. 

Ni chewch ddefnyddio'r grant hwn fel arian cyfatebol ar gyfer prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, nac i'r gwrthwyneb. 

Gwerthuso 

Rydym yn argymell i chi ystyried gwerthuso o ddechrau eich prosiect. Po fwyaf gofalus y mae prosiectau'n cyllidebu ar gyfer eu gwerthusiad, yr uchaf fydd ansawdd yr adroddiad terfynol. Rydym wedi argymell lleiafswm gwariant ar werthuso. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein canllaw gwerthuso.  

Ar ddiwedd eich prosiect byddwn yn disgwyl i chi gyflwyno adroddiad gwerthuso. Mae angen cyflwyno hwn cyn i ni dalu'r 10% olaf o'ch grant. Dylai hyn gynnwys manylion am sut mae cydnerthedd ecosystemau a/neu gysylltedd cynefinoedd wedi elwa o’r buddsoddiad (neu y bydd yn elwa yn y dyfodol). Dylech rannu data a methodoleg monitro perthnasol. 

Byddwn hefyd yn disgwyl i chi rannu data geo-ofodol ar ble mae eich prosiect wedi gweithio er mwyn gwella setiau data CNC. Caiff arweiniad pellach ar hyn ei ddarparu os dyfernir grant i chi. 

Gallwch wneud cais mor fuan ag y byddwch yn barod. 23 Tachwedd 2023 am 12 hanner yw'r terfyn amser ymgeisio.

Cyn i chi ymgeisio, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein nodiadau cymorth ymgeisio yn ofalus a gwirio eich bod yn gymwys.

Noder: mae'r Gronfa Treftadaeth yn defnyddio'r un ffurflenni cais ar draws amrywiaeth o'n rhaglenni. Mae angen ateb rhai cwestiynau'n wahanol ar gyfer y rhaglen hon, felly mae'n rhaid i chi ddarllen y nodiadau cymorth ymgeisio yn ofalus er mwyn deall pa wybodaeth sydd ei hangen a ble. Peidiwch â defnyddio'r eiconau cymorth sydd wedi'u hymwreiddio yn y ffurflen ar-lein. 

Rydym wedi dylunio'r broses ymgeisio i fod mor syml â phosib ac yn gofyn dim ond am yr wybodaeth sydd ei hangen arnom. 

Pan fyddwch chi'n barod, gallwch wneud cais am grantiau rhwng £50,000 a £250,000 

 

Asesu eich cais

Byddwn yn asesu ceisiadau cymwys yn erbyn y meini prawf a ganlyn:

  • cyfraniad at adferiad natur safleoedd gwarchodedig yng Nghymru 
  • ennyn diddordeb amrywiaeth ehangach o bobl ym myd natur 
  • nifer y swyddi/prentisiaethau/hyfforddeiaethau a gynigir, yn enwedig i bobl ifanc 
  • gwerth am arian 
  • cynaladwyedd hir dymor 

Meini prawf cydbwyso

Os byddwn yn derbyn mwy o geisiadau o ansawdd da nag y gallwn eu hariannu, byddwn yn blaenoriaethu prosiectau a fydd yn:

  • gweithio mewn ardaloedd sydd fwyaf tebygol o gefnogi’r gwaith o ddarparu Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth o fewn y Rhaglen Rhwydweithiau Natur fel y nodir ar y Map Rhwydweithiau Natur  

  • cynrychioli gwasgariad daearyddol a bioamrywiol ar draws Cymru ac ar draws yr holl brosiectau Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd un a dau) 

  • ennyn diddordeb y cyhoedd ym myd natur yn weithredol  

  • darparu cyfuniad o brosiectau cyfalaf a refeniw ar draws y portffolio 

Os yw eich cais yn llwyddiannus 

Byddwn yn hysbysu ymgeiswyr am ein penderfyniadau ar xx 2024. Byddwn yn darparu arweiniad ychwanegol ar ein gofynion monitro ac amodau cyfreithiol bryd hynny. 

Bydd pob grant o dan £100,000 yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad. Byddwch yn derbyn 50% o'ch grant unwaith y byddwch wedi derbyn caniatâd i ddechrau ar eich prosiect. Byddwch yn derbyn y 40% nesaf hanner ffordd drwy eich prosiect, pan fydd y 50% cyntaf wedi'i wario. Rydym yn cadw'r 10% olaf o'ch grant yn ôl hyd nes bod y prosiect wedi'i gwblhau. 

Bydd grantiau o £100,000 a throsodd yn cael eu talu mewn ôl-daliadau, mewn rhandaliadau rheolaidd, ar wrth dderbyn tystiolaeth o wariant. 

Rheoli cymorthdaliadau

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cadarnhau bod ei gais wedi'i ystyried a'i wirio mewn perthynas â rheolau rheoli cymorthdaliadau. 

Ar adeg cyhoeddi’r arweiniad hwn, nid yw cyllid cyhoeddus ar gyfer sefydliadau bellach wedi'i lywodraethu gan reolau cymorth gwladwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd. Mae hyn fel y nodir yn Erthygl 107–109 Cytundeb Gweithredu’r Undeb Ewropeaidd a’r rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig.  

Yn hytrach, mae pob penderfyniad grant a wneir ar ôl 11pm ar 31 Rhagfyr 2020 yn ddarostyngedig i gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau newydd y DU. Nodir egwyddorion hynny ym Mhennod Tri (Cymorthdaliadau) Teitl XI (Tegwch yn y Farchnad) Rhan Dau (Masnach, Trafnidiaeth, Pysgodfeydd a Threfniadau Eraill) y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. 

Disgwylir y bydd arweiniad pellach, ymgynghoriad ac o bosib deddfwriaeth newydd yn y maes hwn i adeiladu ar yr egwyddorion hynny. Bydd disgwyl i chi gydymffurfio ag egwyddorion y gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau a bodloni unrhyw ofynion yn y dyfodol. Bydd cytundebau yr ymrwymwyd iddynt yn cael eu hadolygu a'u hamrywio'n unol â hynny. Rydym yn cadw'r hawl i bennu gofynion pellach ac amodau ychwanegol mewn perthynas â'r mater hwn.  

Fel ymgeisydd, chi sy'n gyfrifol am wirio a oes angen cliriad cymorth gwladwriaethol neu reoli cymorthdaliadau. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os nad ydych yn siŵr a fydd angen cliriad ar brosiect ai beidio. 

Gweithio ar dir preifat

Ceir llawer o gynefinoedd a rhywogaethau dynodedig ar dir sy'n eiddo i unigolion preifat neu sefydliadau er-elw. Gall prosiectau gyflwyno gwaith neu weithgareddau ar dir preifat cyhyd â bod unrhyw fudd cyhoeddus yn amlwg yn drech nag unrhyw fudd preifat posib ac ar yr amod nad yw rheolau rheoli cymorthdaliadau'n cael eu torri. 

Er enghraifft, gallem ariannu gwaith adfer gwrychoedd neu greu pyllau ar fferm, ar yr amod nad ydynt yn ychwanegu gwerth ariannol at y tir nac yn cyfleu unrhyw fudd ariannol anuniongyrchol sylweddol a allai dorri rheolau rheoli cymorthdaliadau. 

Wrth weithio ar dir preifat, rydym yn deall y gall fod cyfyngiadau ar fynediad cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn annog mynediad cyhoeddus pryd bynnag y bo'n ymarferol. Rydym hefyd yn cydnabod efallai na fydd mynediad ffisegol bob amser yn briodol nac yn ddymunol am resymau cadwraeth cynefinoedd. Os yw mynediad gwell yn bosib, efallai y byddwch hefyd eisiau gwneud cais am ariannu ar gyfer seilwaith newydd, er enghraifft llwybrau neu guddfannau, a all helpu i ddarparu mwy o fynediad i'r cyhoedd. 

Gall gwaith gael ei wneud ar dir sy'n eiddo i adran o'r llywodraeth neu gorff hyd braich ar yr amod nad ydynt yn elwa'n ariannol o unrhyw fuddsoddiad. Pe bai elusen neu bartneriaeth amgylcheddol yn gwneud gwaith ar y fath dir, gall fod dim ond ar gyfer gwaith na fyddai'n dod o dan unrhyw gyfrifoldeb statudol. 

Perchnogaeth ar eiddo

Tir ac adeiladau ar gyfer gwaith cyfalaf

Rhaid i chi naill ai fod yn berchen ar y rhydd-ddaliad neu â phrydles sy’n bodloni’r gofynion canlynol:

  • sefydliad nid-er-elw: rhaid bod 10 mlynedd yn weddill ar eich prydles ar ôl dyddiad cwblhau'r prosiect 
  • perchennog preifat: rhaid bod o leiaf 10 mlynedd yn weddill ar eich prydles ar ôl dyddiad cwblhau'r prosiect 
  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â chymalau torri (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i un neu fwy o bartïon y les ddod â’r les i ben o dan rai amgylchiadau) 
  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â fforffediad ar gymalau ansolfedd (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i’r landlord ddod â'r les i ben os bydd y tenant yn mynd yn fethdalwr) 
  • Mae'n rhaid i chi fedru gwerthu, morgeisio neu is-osod y cyfan neu ran o’ch les, ond os byddwn yn dyfarnu grant i chi, rhaid i chi gael caniatâd gennym ni'n gyntaf i wneud unrhyw un o’r rhain 

Tir neu adeiladau sy'n eiddo i drydydd parti

Os yw trydydd parti yn berchen ar y tir (a all gynnwys partner yn y prosiect) byddwn naill ai’n ei gwneud hi'n ofynnol i’r perchennog ymrwymo'n uniongyrchol i'ch contract grant gyda ni neu’n ei gwneud hi'n ofynnol i chi ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rwymol gyda’r perchennog.

  • i gael cymorth technegol neu gyda hygyrchedd, cysylltwch â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn enquire@heritagefund.org.uk 
  • mae ein canllaw arfer da yn rhoi cyngor ar amrywiaeth o bynciau i'ch helpu i gyflawni prosiect o ansawdd uchel, gan gynnwys cynnal gwerthusiad 
  • gall ein canllaw natur a thirweddau eich helpu i ddylunio a chyflwyno prosiectau 
  • mae datganiadau ardal Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu'r heriau a'r mentrau allweddol sy'n digwydd ym mhob ardal o Gymru 
  • Ar gyfer gweithgareddau ar safle gwarchodedig neu'n agos ato, dylid ceisio cyngor ymlaen llaw gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Gyrrwch e-bostsitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  i gael cyngor ar amcanion rheoli a chaniatadau/cydsyniadau. 
  • gall y Map Rhwydweithiau Natur helpu wrth gyfeirio lleoliad gweithgareddau i ddatblygu cysylltedd ac mae ar gael trwy MapData a Phorth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru (WEIP): 
    – MapDataCymru: Cysylltedd Cynefin a Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth
    Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru. Dewiswch 'archwilio' o'r brif ddewislen, yna cliciwch ar y tab 'Gwytnwch Ecosystem'.
  • i gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei brosesu o dan y rhaglen grant hon, gweler ein polisi preifatrwydd​​​​​​​

Rydym yn deall efallai y bydd penderfyniad yn peri siom i chi. Gyda'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, nid oes hawl i apelio nac ailymgeisio. 

Ni allwn ond adolygu ein penderfyniad os byddwch yn gwneud cwyn ffurfiol am sut yr ydym wedi ymdrin â'ch cais. Mae gennym broses gwynion dau gam ar gyfer y gronfa hon. Ni fyddwn ond yn gallu ystyried ac ymchwilio i’r gŵyn os gallwch ddangos y canlynol:

  • ni fu i ni ddilyn y gweithdrefnau cyhoeddedig ar gyfer asesu eich cais 

  • rydym wedi camddeall rhan sylweddol o'ch cais 

  • ni fu i ni gymryd gwybodaeth berthnasol i ystyriaeth 

Mae'n rhaid gwneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig drwy yrru e-bost i enquire@heritagefund.org.uk o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y penderfyniad ar eich cais. Anelwn at gydnabod eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith. 

Bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu yn y lle cyntaf gan Gyfarwyddwr ardal/gwlad Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n annibynnol ar y paneli argymell a phenderfynu ar gyfer y gronfa hon. Anelwn at gyfathrebu penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith o'r adeg y gwnaethoch gyflwyno'ch cwyn. 

I gael cymorth, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 020 7591 6044 neu enquire@heritagefund.org.uk.

Newidiadau i'r arweiniad hwn

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib trwy'r dudalen we hon.  

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd tri) yn cael ei chyflwyno gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.