Nodiadau cymorth ymgeisio: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd tri)

Nodiadau cymorth ymgeisio: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd tri)

Mae’r arweiniad ymgeisio hwn ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gwneud cais i’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd tri), am grantiau rhwng £50,000 a £250,000.

Crëwyd y dudalen: Medi 2023.

Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r arweiniad hwn i'ch cynorthwyo wrth gwblhau ffurflen gais ar-lein am grant o dan £250,000.

Pwysig: Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn defnyddio’r un ffurflenni ar draws amrywiaeth o raglenni yr ydym yn eu darparu. Wrth lenwi eich ffurflen gais, mae'n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad isod am fod angen ateb rhai cwestiynau yn wahanol ar gyfer y rhaglen hon. Ni ddylech ddefnyddio'r eiconau cymorth sydd wedi'u hymwreiddio yn y ffurflen ar-lein gan nad ydynt yn gysylltiedig â'r ariannu hwn. 

Y Camau Cyntaf

  1. Bu i ni lansio porth ymgeisio newydd ym mis Mawrth 2021. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar y porth, bydd angen i chi gofrestru cyn cyflwyno cais. 
  2. Os na allwch sefydlu eich cyfrif neu eich bod yn profi unrhyw anawsterau technegol, cysylltwch â: investment-service-support@heritagefund.org.uk
  3. Unwaith y bydd eich sefydliad wedi cofrestru, cliciwch ar 'Dechrau Cais Newydd' a dewiswch y botwm 'Grantiau £10,000 i £250,000. Yna cliciwch ar 'Dechrau Cais Newydd'. 
  4. Os byddwch yn penderfynu copïo a gludo testun o ddogfen Word yn uniongyrchol i'ch ffurflen gais, adolygwch eich cais cyn ei gyflwyno a gwnewch newidiadau lle bo angen er mwyn sicrhau nad ydych yn mynd dros y terfynau geiriau a nodir. Bydd modd i chi gadw'r ffurflen hon wrth i chi weithio arni. 

Cwestiynau

Eich prosiect 

Dywedwch wrthyn ni ba gyngor rydych wedi'i dderbyn wrth gynllunio eich prosiect a chan bwy

Atebwch yn ôl y drefn arferol.  

Ai hwn yw'r cais cyntaf aton ni gan eich sefydliad? 

Atebwch 'ydy neu 'nac ydy’.  

Teitl y prosiect 

Cofiwch gynnwys y rhagddodiad #NNF3 yn nheitl eich prosiect. Er enghraifft #NNF3 Gwelliannau i warchodfa natur gweision y neidr. 

Pryd fydd eich prosiect yn digwydd?

Dyma'r dyddiad yr ydych yn disgwyl dechrau ar eich prosiect. Dylai fod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024. 

Mae'n rhaid i'ch prosiect ddod i ben erbyn 1 Mawrth 2026, gan gynnwys yr holl adroddiadau ariannol a gwerthuso. Rhagwelwn y bydd y rhan fwyaf o brosiectau cynllunio prosiect yn para'n fyrrach na phrosiectau sy'n cyflwyno gwaith cyfalaf. 

Pam mae angen i'ch prosiect chi ddigwydd nawr? 

Atebwch yn ôl y drefn arferol.

Ydy'r prosiect yn digwydd yn yr un lleoliad â chyfeiriad eich sefydliad? 

Atebwch yn ôl y drefn arferol, 'ydy' neu 'nac ydy’. 

Os nac ydy, gofynnir i chi gynnwys manylion cyfeiriad eich prosiect. 

Ar gyfer prosiectau ar safle neu dirwedd, rhowch gyfeirnod grid chwe digid yr Arolwg Ordnans ar gyfer pwynt canol ardal eich prosiect (er enghraifft: SK510072). Os ydych yn gweithio ar nifer o safleoedd, gwahanwch bob cyfeirnod grid gyda hanner colon (er enghraifft: SK510072; SX163777; TQ317842). Peidiwch â chynnwys unrhyw destun ychwanegol gyda'ch cyfeirnodau grid.

Disgrifiwch eich syniad 

Mewn uchafswm o 500 o eiriau, esboniwch beth mae eich prosiect yn bwriadu ei wneud ac ar beth y byddwch chi'n gwario'r arian. Dylech ddefnyddio’r ddau is-bennawd a ganlyn, gan ddibynnu a yw eich prosiect yn gyfalaf, yn ymwneud â chydnerthedd neu’r ddau. 

Prosiectau Cyfalaf:

  • Ar ba safle(oedd) fyddwch chi'n gweithio? 
  • Pa waith fyddwch chi'n ymgymryd ag ef ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau? 
  • Pwy fydd yn cymryd rhan a sut (staff, gwirfoddolwyr, y cyhoedd, cynulleidfaoedd targed)?

Prosiectau Cynllunio Prosiect:

  • Ar ba safle(oedd) y byddwch chi'n cynllunio ar gyfer gweithredu yn y dyfodol? 
  • Pa waith fyddwch chi'n ei ymgymryd ag ef yn ystod y prosiect (er enghraifft, pa arolygon, ymgynghoriadau neu weithgareddau cynllunio)? 
  • Pwy fydd yn cymryd rhan a sut (staff, gwirfoddolwyr, y cyhoedd, cynulleidfaoedd targed, partneriaid)? 
  • Sut fydd y cynllun yn ceisio gwella cyflwr a chydnerthedd y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig?

A fydd gwaith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect? 

Atebwch gwestiynau sy'n ymwneud â gwaith cyfalaf yn ôl y drefn arferol, 'bydd' neu 'na fydd'.  

Dylech gyflwyno arolygon cyflwr a/neu ddogfennau/lesau perchnogaeth os oes gennych nhw.

Oes angen caniatâd arnoch chi gan unrhyw un arall i wneud eich prosiect?

Atebwch yn ôl y drefn arferol, 'oes', 'nac oes’ neu 'ddim yn siŵr'. Mae'n rhaid i chi ddangos yn eich cais eich bod yn ymwybodol o'r caniatadau a'r trwyddedau perthnasol ar gyfer cyflwyno'ch prosiect, a'ch bod yn gweithio tuag at gaffael y rhain.

Pa wahaniaeth a ddaw yn sgil eich prosiect?

Atebwch yn ôl y drefn arferol.

A ystyrir bod y dreftadaeth mewn perygl?

Atebwch yn ôl y drefn arferol, 'ydy' neu 'nac ydy’. 

Os ydy, esboniwch sut mae'r dreftadaeth mewn perygl. 

A oes gan y dreftadaeth unrhyw ddynodiadau ffurfiol?

Dewiswch unrhyw opsiynau o'r rhestr sy'n berthnasol i'ch treftadaeth.

Ydy eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth sy'n denu ymwelwyr?

Atebwch yn ôl y drefn arferol, 'ydy' neu 'nac ydy’.

Pam mae eich prosiect yn bwysig i'ch cymuned?

Atebwch yn ôl y drefn arferol.

Pa fesurau fyddwch chi'n eu cymryd i gynyddu effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a gostwng effeithiau amgylcheddol negyddol?

Dylai'r ateb hwn ganolbwyntio ar weithgarwch y tu allan i'r gwaith gwella cynefinoedd ei hun. Er enghraifft: teithio, caffael neu wastraff. Darllenwch ein harweiniad cynaladwyedd amgylcheddol am fwy o wybodaeth.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r prosiect ddod i ben? 

Dywedwch wrthym pwy fydd yn gyfrifol am reoli a chynnal yr allbynnau ar ôl i'r prosiect ddod i ben, pa waith a pha fath o ganiatâd fydd eu hangen. Ar gyfer gwaith cyfalaf, dylai hyn fod yn gysylltiedig â chynllun rheoli a chynnal a chadw. Os nad oes gennych gynllun ar hyn o bryd, gellir cynnwys hwn yng ngweithgarwch eich prosiect.

Ar gyfer prosiectau cynllunio prosiect: 

Dywedwch wrthym pwy fydd yn gyfrifol am symud y prosiect ymlaen i'r cam cyflwyno. Beth fydd ei angen i wneud hyn?

Pam mai eich sefydliad chi yw'r un gorau i gyflwyno'r prosiect hwn? 

Atebwch yn ôl y drefn arferol.

A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth? 

Atebwch yn ôl y drefn arferol, 'bydd' neu 'na fydd'. 

Os ateboch 'bydd', rhaid i chi atodi'ch cytundeb partneriaeth a nodi y gellir gofyn i bartneriaid ffurfiol ymrwymo i'n telerau grant.

Canlyniadau

Rydym yn disgrifio'r gwahaniaeth yr ydym am ei wneud gyda'n hariannu trwy set o naw canlyniad, sy'n cynnwys ein chwe chanlyniad blaenoriaeth. Mae canlyniadau'n newidiadau, effeithiau neu fuddion sy'n digwydd o ganlyniad uniongyrchol i'r ariannu hwn.  

Y canlyniadau gorfodol ar gyfer y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd tri) yw: 

  • bydd ystod ehangach o bobl yn cymryd rhan mewn treftadaeth 
  • bydd treftadaeth mewn cyflwr gwell

Mae'n rhaid i chi ymdrin â'r ddau ganlyniad yn eich cais. 

Disgwyliwn i ymatebion fod yn gymesur â swm y grant y gofynnir amdano. 

Os yw'n berthnasol i'ch prosiect, gallwch hefyd ymateb i:

  • Bydd y sefydliad a ariennir yn fwy cydnerth

Sut fydd eich prosiect yn cynnwys amrywiaeth ehangach o bobl?

Dylai eich ateb esbonio sut y bydd eich proffil o ran cynulleidfa neu wirfoddolwyr wedi newid drwy'r prosiect neu, os mai cais am gynllunio prosiect yw hwn, sut y byddai'n newid mewn prosiect yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys:

  • gwelliannau i hygyrchedd safle 
  • gweithio gyda phartneriaid neu sefydliadau eraill i gyrraedd cynulleidfaoedd sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol 
  • cefnogi unigolion newydd i gyrchu'r sector trwy swyddi, hyfforddiant a/neu brentisiaethau

Dylid cynnwys tystiolaeth i gefnogi'ch cynlluniau chi.

Sut fydd eich prosiect yn helpu i wella cyflwr treftadaeth? 

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn gwella cyflwr y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, hyd yn oed os bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol. Er enghraifft, disgrifiwch pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd i wella rheolaeth ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau. 

Os nad yw eich prosiect yn digwydd yn uniongyrchol ar safle gwarchodedig, esboniwch sut fydd eich prosiect yn dod â gwerth i'r rhwydwaith yn y tymor hir. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gyfeirio at y Map Rhwydweithiau Natur am dystiolaeth o sut y bydd lleoliad gweithgareddau y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig yn datblygu cysylltedd. Mae hyn ar gael trwy MapData a Phorth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru (WEIP):

A fydd eich prosiect yn cyflawni unrhyw un o'n canlyniadau eraill? 

Gadewch hyn yn wag, ni fyddwn yn asesu unrhyw ganlyniadau eraill ar gyfer y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd tri).

Rheoli eich prosiect

Sut fydd eich prosiect yn cael ei reoli?

Atebwch yn ôl y drefn arferol.

Sut fyddwch chi'n gwerthuso eich prosiect? 

Rydym yn argymell i chi ymgorffori gwerthuso o ddechrau eich prosiect. Po fwyaf gofalus y mae prosiectau'n cyllidebu ar gyfer eu gwerthusiad, yr uchaf fydd ansawdd yr adroddiad terfynol. Rydym wedi argymell lleiafswm gwariant ar werthuso a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn ein canllaw gwerthuso.  

Ar ddiwedd eich prosiect byddwn yn disgwyl rhywfaint o adborth gwerthuso, mewn dwy ran:

  • eich adroddiad gwerthuso eich hun, sydd i'w gyflwyno cyn i ni dalu'r 10% olaf o'ch grant 
  • Holiadur gwerthuso, o fewn blwyddyn ar ôl cwblhau. Gallwch weld yr wybodaeth y byddwn am i chi ei hadrodd yn ein canllaw gwerthuso.

Sut ydych chi'n bwriadu cydnabod eich grant? 

Fel rhan o’ch grant gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i chi gydnabod eich ariannu ar gyfryngau cymdeithasol, drwy ddatganiadau i’r wasg, a thrwy arddangos ein logo partneriaeth. Darllenwch ein Canllaw cydnabod eich grant gan Lywodraeth Cymru.

Dywedwch wrthyn ni am unrhyw swyddi neu brentisiaethau y byddwch yn eu creu i gyflwyno'ch prosiect

Atebwch yn ôl y drefn arferol. Os ydych yn creu swyddi neu brentisiaethau, rhaid i chi atodi'r disgrifiadau swydd perthnasol. 

Costau’r prosiect 

Cyfeiriwch at adran 'Paratoi eich cais' yr arweiniad ymgeisio i sicrhau bod costau eich prosiect yn rhai cymwys. 

At ddibenion monitro, mae'n bwysig i chi wahaniaethu rhwng costau cyfalaf a refeniw yn eich tabl costau. I wneud hyn, rhowch nhw ar linellau ar wahân ac ychwanegwch 'Cyf' neu 'Ref' ar ddechrau pob disgrifiad cost. Er enghraifft, os ydych yn gwneud cais am £10,000 o ffioedd proffesiynol ar gyfer gwaith cyfalaf, a £5,000 o ffioedd proffesiynol ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu, dylai eich tabl edrych fel hyn: 

Enghraifft o dabl costau

Pennawd cost Disgrifiad o'r gost Swm
Ffioedd proffesiynol CYF contractwyr i adeiladu cuddfan adar £10,000
Ffioedd proffesiynol REF gweithwyr llawrydd i gyflwyno rhaglen weithgareddau £5,000

Mae'n bwysig nad yw'r costau rydych yn gofyn i ni eu talu'n gyfystyr â chymhorthdal anghyfreithlon i chi. Gwiriwch adran 'Gwybodaeth Ychwanegol' yr arweiniad ymgeisio am fanylion pellach.

Cefnogaeth dros eich prosiect 

Ydych chi'n derbyn unrhyw gyfraniadau arian parod at eich prosiect? 

Atebwch yn ôl y drefn arferol, 'ydym' neu 'nac ydym’. 

Noder: Nid oes gofyniad gorfodol am gyfraniadau arian parod at brosiectau Rhwydweithiau Natur (rownd tri). Fodd bynnag, gall unrhyw gyfraniadau arian parod y byddwch yn eu darparu ychwanegu at effaith a gwerth am arian eich prosiect, a fydd yn cael eu hystyried yn y cam asesu.

Ychwanegu cyfraniad nad yw'n arian parod

Nid oes gofyniad gorfodol am gyfraniadau nad ydynt yn arian parod at brosiectau Rhwydweithiau Natur (rownd tri). Fodd bynnag, gall unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod y byddwch yn eu darparu ychwanegu at effaith a gwerth am arian eich prosiect, a fydd yn cael eu hystyried yn y cam asesu. 

Gwirfoddolwyr

Nid oes gofyniad gorfodol am gyfraniadau o ran gwirfoddolwyr at brosiectau Rhwydweithiau Natur (rownd tri). Fodd bynnag, gall unrhyw gyfraniadau o ran gwirfoddolwyr y byddwch yn eu darparu ychwanegu at effaith a gwerth am arian eich prosiect, a fydd yn cael eu hystyried yn y cam asesu.

Tystiolaeth o gefnogaeth

Atebwch yn ôl y drefn arferol. Uwchlwythwch lythyrau, e-byst neu fideos o gefnogaeth fel y bo'n briodol ar gyfer eich prosiect. 

Dogfennau ategol

Mae'n rhaid i'r dogfennau ategol a ganlyn gael eu huwchlwytho ar ddiwedd eich ffurflen gais. Dylai maint y ffeiliau fod yn llai na 20MB. Noder bod rhai o'r dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen hon yn wahanol i'r rhai a nodir yn y ffurflen gais ar-lein.  

Ar gyfer y rhaglen hon, mae angen y dogfennau canlynol arnom:

  • dogfen lywodraethu (gorfodol os oes gan eich sefydliad un o'r rhain) 
  • cyfrifon wedi'u harchwilio neu eu dilysu (gorfodol os ydych yn sefydliad) 
  • cynllun prosiect (gorfodol ar gyfer pob prosiect) – gallwch lawrlwytho templed o'n tudalen cynllun prosiect 
  • cytundeb partneriaeth (gorfodol os ydych yn gweithio mewn partneriaeth) 
  • disgrifiadau swydd (gorfodol os ydych yn creu swyddi neu brentisiaethau newydd fel rhan o’ch prosiect) 
  • briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir (os yn berthnasol)  
  • delweddau, gan gynnwys o leiaf un map sy'n dangos lleoliadau gwaith cyfalaf  
  • cyfrifo adennill costau llawn (os yn berthnasol)  
  • tystiolaeth o gefnogaeth, megis llythyrau, e-byst neu fideos cefnogol (dewisol)