Parciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol

Parciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol

Ein hymrwymiad parhaus i barciau a mannau gwyrdd

Mae'r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi mwy na £950miliwn mewn parciau a mynwentydd cyhoeddus dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae’r ariannu hwn wedi helpu trawsnewid dros 900 o barciau ar draws y DU, gan wella profiadau’r 37 miliwn o bobl sy’n defnyddio parciau cyhoeddus bob blwyddyn.

Brooke Park, Derry
Brooke Park, Derry

Ein mentrau

Darganfyddwch fwy am ein cefnogaeth i barciau cyhoeddus a mannau gwyrdd yn y DU.

Cefnogodd Future Parks Accelerator (FPA) wyth awdurdod lleol i ddatblygu atebion uchelgeisiol a chynaliadwy i ddiogelu, gwella a gwneud mwy o ddefnydd o barciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol.

Darganfod mwy am y rhaglen a hefyd awgrymiadau a chyngor ar reoli mannau gwyrdd mewn lleoedd trefol.

Ewch i wefan FPA am fwy fyth o adnoddau. 

Rhaglen £1miliwn ar y cyd gwerth rhwng Nesta, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Gymunedol, a lansiwyd yn 2013. Ei nod oedd ariannu a chefnogi arloeswyr parciau i ddatblygu, gweithredu a lledaenu dulliau newydd o gynnal a manteisio i'r eithaf ar barciau cyhoeddus yn y DU.

Mae dros 20 o brosiectau arloesi bellach wedi’u cyflwyno gan gefnogi rheolwyr parciau, grwpiau cymunedol ac elusennau eraill i ailfeddwl sut y gallai parciau trefol a mannau gwyrdd gael eu rheoli a’u hariannu yn y dyfodol.

Darllen casgliad o ysgrifau am Rethinking Parks, a gynhyrchwyd gan Nesta ar ôl diwedd y rhaglen ym mis Hydref 2020. Gallwch hefyd ddarganfod cyfres o ddiweddariadau prosiect craff a phecyn cymorth a grëwyd gan Nesta, sy'n cofnodi profiadau dysgu'r prosiectau a fu'n ymwneud â'r rhaglen. 

Mae'r adroddiad Lle i Ffynnu, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, yn adolygiad cyflym o dystiolaeth o’r buddion y mae parciau a mannau gwyrdd yn eu cynnig i bobl a chymunedau.

Dyma ei argymhellion allweddol:

  • Dylid ystyried parciau fel seilwaith cymdeithasol yn ogystal â ffisegol.
  • Dylid rheoli parciau a mannau gwyrdd i gefnogi iechyd a lles.
  • Dylid rheoli parciau a mannau gwyrdd i annog cysylltiadau â byd natur.

Dyma Paul Farmer, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Mind, yn myfyrio ar sut y gall mannau gwyrdd wella lles ar ôl i’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...