Cynefinoedd a rhywogaethau
Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n gwarchod ac yn gwella cynefinoedd rhywogaethau.
Rydym am i brosiectau wella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o fyd natur, a helpu pobl i gael mynediad at ein treftadaeth naturiol unigryw, gofalu amdani a'i gwerthfawrogi.
Gall ein cyllid eich helpu i:
- gwella cynefinoedd sydd dan fygythiad
- helpu pobl i archwilio ein moroedd a'u bywyd gwyllt
- gwella llif afon araf ac ansawdd dŵr
- defnyddio natur a bod allan yn yr awyr agored i wella bywydau, iechyd a llesiant pobl
- addysgu pobl am ddaeareg leol a sut mae'n effeithio arnom ni

Yr hyn a ddisgwyliwn gan brosiectau
Mae'n bwysig ein bod yn arwain ac yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ofalu'n well am ein byd naturiol.
Felly, rydym am weld prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol i natur. Gallai hyn olygu:
- gweithio ar raddfa tirwedd
- creu partneriaethau newydd uchelgeisiol
- archwilio, profi a rhannu ffyrdd newydd o weithio
- ymchwilio i ffynonellau incwm newydd ar gyfer cadwraeth natur
- ysbrydoli a chefnogi ffyrdd newydd o helpu pobl i ymgysylltu â natur
Pethau allweddol i'w darllen
- our guidance on landscapes and nature projects
- our research: What have we done for nature?
- ein canllawiau ar dirweddau a phrosiectau natur
- ein hymchwil: Beth rydym wedi'i wneud dros natur?