Beth rydym wedi'i wneud dros natur?, Chwefror 2018

Beth rydym wedi'i wneud dros natur?, Chwefror 2018

Merch â chwilen
Llwybr Treftadaeth Ffordd Marriotts
Mae'r ymchwil hon yn edrych ar yr effaith y mae ein buddsoddiad wedi'i chael ers 1994 ar dirweddau, natur a'r sefydliadau sy'n hyrwyddo natur.

Atodiad Maint
What have we done for nature? 5.34 MB

Nod yr ymchwil hon oedd archwilio'r effaith strategol y mae buddsoddiad Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi'i chael ar dirweddau a natur. Edrychodd hefyd ar y sefydliadau sy'n hyrwyddo natur dros yr 20 mlynedd diwethaf. 

Dadansoddodd ein hymchwilwyr ddata dyfarnu grantiau rhwng 1994 a Mawrth 2017. Cyfwelwyd hefyd ag 20 o randdeiliaid allweddol o bob rhan o'r DU. Mae'r ymchwil yn cynnwys astudiaethau achos, data dyfarnu grantiau a dyfyniadau gan y nifer fawr o bobl a gyfwelwyd.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi buddsoddi mwy na £765miliwn mewn prosiectau tirwedd a natur.

Mae'r cyllid hwn wedi helpu i:

  • adfer a gwarchod cynefinoedd sydd dan fygythiad
  • arbed rhywogaethau rhag difodiant
  • helpu i ailgysylltu pobl â thirweddau a natur
  • caffael tir i wella ei gadwraeth
  • gwella bioamrywiaeth drefol a mannau gwyrdd
  • hyrwyddo gwyddoniaeth dinasyddion
  • ennyn diddordeb gwirfoddolwyr
  • cefnogi datblygiad sgiliau