Cymru

O'n harfordiroedd a'n cestyll i'n tirweddau, ein llenyddiaeth ac un o'r ieithoedd llafar hynaf yn Ewrop, mae gan Gymru dreftadaeth hynafol a chwedlonol.
Rydym yn falch o chwarae rhan yn y gwaith o warchod a dathlu dinasoedd bywiog, tirweddau hardd, safleoedd hanesyddol a diwylliannau amrywiol y wlad. Mae'n rhan o'n gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.
Yr haf hwn, mae ein tîm yng Nghymru yn mynd i Wrecsam i gysylltu â chymunedau ac arddangos y gwaith rydyn ni’n ei gefnogi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cliciwch yma i weld ein cynlluniau am yr wythnos.
Mynnwch ysbrydoliaeth ar gyfer eich prosiect
Edrychwch isod ar astudiaethau achos prosiect a'r newyddion diweddaraf o'ch ardal.
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar agor – os oes gennych syniad am brosiect yng Nghymru, byddai’n bleser gennym glywed oddi wrthych. Mae grantiau ar gael o £10,000 hyd at £10m.
Cael gwybod mwy a gweld pa ariannu sydd ar gael.
Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)
Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn rhaglen i dirfeddianwyr greu coetiroedd i gymunedau lleol eu defnyddio a’u mwynhau, fel rhan o'r fenter Coedwig Genedlaethol i Gymru. Mae grantiau ar gael o £10,000 hyd at £250,000.
Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 5)
Nod y gronfa hon, sy'n dyfarnu grantiau rhwng £50,000 ac £1miliwn, yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, ac adeiladu gallu sefydliadau i gyflymu adferiad byd natur ac ymgysylltu â chymunedau.
Mae ein gweithdai ariannu a'n sesiynau cynghori rheolaidd yn gyfle gwych i gael gwybod am ein cyllid, cael awgrymiadau ar sut i wneud cais da a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill o'ch ardal.
Ydych chi'n ystyried gwneud cais i ni am grant hyd at £250,000? Cyflwynwch Ymholiad Prosiect i dderbyn adborth ar eich syniad am brosiect cyn i chi wneud cais llawn. Byddwn yn cysylltu'n ôl â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Dilynwch ni ar Twitter/X: @HeritageFundCYM
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
Manylion cyswllt
E-bost: cymru@heritagefund.org.uk
Rhif Ffôn: 029 2034 3413 (Dydd Llun i Gwener, 9.00am–5.00pm)
Cyfeiriad:
Clockwise Offices, Tŷ Brunel, 2 Ffordd Fitzalan, Caerdydd, CF24 0EB
Rydym yn gwbl weithredol ac yn agored i fusnes, ond rydym yn cynnal llawer o'n gwaith o ddydd i ddydd o’n cartrefi.
Anfonwch unrhyw eitemau drwy e-bost at eich cyswllt neu drwy'r prif gyfeiriad: cymru@heritagefund.org.uk
Mae gennym dîm cwbl ddwyieithog yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf. Rydym yn croesawu galwadau ffôn (Opsiwn 1 i siarad ag aelod o staff yn Gymraeg), e-byst a llythyrau yn Gymraeg ac yn Saesneg a ni fydd defnyddio'r Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi ychwanegol wrth ymateb. I gael rhagor o wybodaeth am y Gymraeg ac i glywed mwy am ein cynnydd presennol wrth i ni ddiweddaru ein Cynllun Iaith Gymraeg presennol, ewch i'r dudalen yma.

Straeon
Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2022 ar agor! Pwy fydd yn cael eich pleidlais chi?

Programme
Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau)

Programme
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau

Programme
Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (rownd 6)

Publications
Penderfyniadau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Choetiroedd Cymunedol, Mawrth 2022

Straeon
Cynigion arbennig mewn safleoedd treftadaeth trawiadol ledled y DU

Blogiau
Sut y gall grantiau 'bach' gael effaith fawr ar gymunedau

Straeon
Prosiectau LGBTQ+ sy'n golygu'r mwyaf i ni

Newyddion
Arddangosfa Millennium Falcon i agor yng ngorllewin Cymru

Newyddion
Croesawch ymwelwyr newydd i'ch treftadaeth yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2022

Programme
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – £10,000 i £250,000

Programme