Sut y gall grantiau 'bach' gael effaith fawr ar gymunedau

Sut y gall grantiau 'bach' gael effaith fawr ar gymunedau

Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru
Mae ein Cyfarwyddwr Cymru yn nodi Dydd Gŵyl Dewi drwy fyfyrio ar sut y gall doethineb nawddsant Cymru ddod â chymunedau'n nes at eu treftadaeth.

1 o Fawrth yw Dydd Gŵyl Dewi – diwrnod o ddathlu nawddsant Cymru. Gan roi dreigiau coch, cennin pedr, cacenni cri Cymreig a hetiau corun uchel o'r neilltu, mae bob amser yn werth cofio pregeth olaf Dewi Sant cyn ei farwolaeth yn 589, lle dywedodd 'gwnewch y pethau bychain', gan bwysleisio sut y gall gweithredoedd bach gael effaith fawr.  

Gall hyn fod yn berthnasol i bob agwedd ar fywyd, gan gynnwys ein gwaith yn y Gronfa Treftadaeth.

Treftadaeth yng Nghymru 

Nid ydym yn diffinio treftadaeth. Gofynnwn i chi ddweud wrthym beth sy'n bwysig yn eich barn chi a dylid ei ddiogelu a'i gadw. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.  

Ers 1994, rydym wedi dyfarnu dros £420miliwn i fwy na 3,000 o brosiectau yng Nghymru.   

Mae rhai o'r buddsoddiadau hynny wedi bod yn fawr, fel y £10m a ddyfarnwyd gennym i Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth yn 2020 a'r £8.75m a aeth i brosiect adfer Pont Gludo Casnewydd yn 2021. Bydd y grantiau yma yn helpu i roi hwb i economïau lleol yr ardaloedd hyn ac yn atgyfnerthu ymdeimlad o falchder lleol.   

Ond does dim rhaid iddo gostio miliynau i gysylltu pobl â'u treftadaeth. Gall grantiau bach wneud gwahaniaeth mawr hefyd.  

Dyma rai enghreifftiau yn unig o brosiectau 'llai' sydd wedi gwneud gwahaniaeth yma yng Nghymru.   

People shaking hands outside display for Port Talbot Harriers
Dathlu 100 mlynedd o Port Talbot Harriers

Treftadaeth chwaraeon  

Dywedodd clwb rhedeg ac aml-chwaraeon Port Talbot Harriers wrthym fod ei hanes 100 mlynedd yn werth ei ddathlu. Felly yr haf diwethaf dyfarnwyd £9,200 iddynt i gyhoeddi llyfr a chreu archif ar-lein o ddelweddau o'r clwb o'r 1920au hyd heddiw.   

Dywed Bernard Henderson, Cadeirydd Port Talbot Harriers y bydd yr archif "yn parhau i dyfu a chofnodi gweithgarwch i'r dyfodol". 

Treftadaeth naturiol  

Yn Abercynon yng nghymoedd De Cymru, cydnabu grŵp Llesiant Dyffryn Gwyrdd botensial darn diffaith o dir. Natur, wedi'r cyfan, yw ein ffurf hynaf ar dreftadaeth. Ym mis Rhagfyr 2019 dyfarnwyd £10,000 i'r grŵp i drawsnewid y safle yn ardd gymunedol.  

People working outside, creating a community garden
Creu'r ardd gymunedol

Mae'r gymuned wedi croesawu'r ardd ac mae'n cael ei defnyddio'n rheolaidd gan rwydweithiau cymorth awtistiaeth, canolfannau gwaith, ysgolion a sefydliadau sy'n gofalu am blant ag anghenion addysgol arbennig. Mae'n helpu i hybu iechyd meddwl ymwelwyr ac mae hefyd yn denu bywyd gwyllt. 

Treftadaeth LGBTQ+  

Daeth Cymorth LGBTQ+ Llanelli atom yn 2019 gyda chynnig i goffáu a diogelu treftadaeth cymuned LGBTQ+ y dref.  

Rydym yn gwybod bod straeon a phrofiadau pobl LGBTQ+ yn aml yn cael eu tangynrychioli. Felly dyfarnwyd grant o £10,000 i'r grŵp i gofnodi a rhannu straeon ar-lein, creu ffilmiau a chynnal gweithgareddau cymunedol. Fe wnaethant hefyd gynnal y digwyddiad LGBTQ+ cyntaf erioed yn Llanelli fel rhan o Fis Hanes LGBT yn 2020. Mae ein cyllid wedi helpu'r grŵp i gydnabod cymuned LGBTQ+ Llanelli yn gyhoeddus a dathlu ei gyfraniad i dreftadaeth ehangach yr ardal. 

A group of people in a community space
Grŵp Cymorth LGBTQ+ Llanelli

Treftadaeth sinematig 

Y tu allan i dref Penfro yng ngorllewin Cymru, mae'n debyg nad yw pobl yn ymwybodol o'r rhan sylweddol a chwaraeodd y dref yn hanes y sinema. Yno, mewn sied awyrennau yn 1979, cafodd model cyntaf o faint go iawn o’r Millennium Falcon – o'r ffilm a enillodd Oscar, Star Wars: The Empire Strikes Back – ei adeiladu.  

Ym mis Ionawr dyfarnwyd £8,000 i Ganolfan Treftadaeth Doc Penfro i greu arddangosfa barhaol o’r Millennum Falcon. Bydd yn agor yn ddiweddarach eleni, gan  ddod â rhan bwysig o hanes Doc Penfro yn fyw a rhoi hwb sylweddol i adfywiad economaidd tref gorllewin Cymru. 

Cyllid ar gyfer eich prosiect 

Felly, fel y gwelwch – mae hyd yn oed sefydliadau sydd wedi gwneud cais am ein hystod leiaf o grantiau wedi gallu creu ychydig o effaith ar dreftadaeth ac i'r bobl yn eu cymunedau.  

Os oes gennych syniad am brosiect treftadaeth yng Nghymru, byddai'r tîm a minnau wrth fy modd yn clywed gennych. Gwiriwch beth rydym yn ei ariannu a'n grantiau sydd ar gael, sy'n dechrau ar £3,000. Ac os oes angen mwy o wybodaeth neu gyngor arnoch ar eich syniad, cysylltwch â ni.  

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...