Arian newydd i Hen Goleg Aberystwyth

Arian newydd i Hen Goleg Aberystwyth

Aberystywyth Old College
Mae dyfodol Hen Goleg eiconig Prifysgol Aberystwyth yn sicrach heddiw a bydd yn datblygu i fod yn ganolfan ar gyfer diwylliant, treftadaeth, darganfyddiadau, dysgu a menter, gan obeithio denu 190,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae’r Hen Goleg, un o adeiladau mwyaf rhyfeddol Gradd I Cymru, wedi cael bron i £10 miliwn (£9,732,300) o arian y Loteri Genedlaethol. Bydd yr arian yn helpu i’w adnewyddu a sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir. 


Prynwyd yr hen Goleg yn wreiddiol gan Brifysgol Cymru am £10,000 yn unig yn 1867 gan ddefnyddio arian a gyfranwyd gan y gymuned leol. 

"Ar ddechrau degawd newydd, pa well newyddion na bod yr Hen Goleg ar fin dechrau bywyd newydd."

Y Farwnes Kay Andrews, Ymddiriedolwraig y DU a chadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru 
Artist's impression of public entrance Aberystwyth's Old College
Argraff arlunydd o fynediad newydd yr Hen Goleg

 

150 o flynyddoedd o addysg

Ers agor ei ddrysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf yn 1872, chwaraeodd yr adeilad glan môr Gothig hwn ran hanfodol yn hanes addysgiadol Cymru a goroesiad iaith, diwylliant a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Fodd bynnag, pan symudodd y Brifysgol i gampws newydd sbon yn y 1960au, roedd yr Hen Goleg fwy na heb yn ddiangen. 

 

New Centre for Dialogue
Sut allai’r Oriel Ddarganfod edrych

 

Mae hynny ar fin newid wrth iddo gael bywyd a phwrpas newydd. Y gobaith yw y bydd adfywiad yr adeilad wedi ei gwblhau erbyn 2022/23 wrth i’r Brifysgol ddathlu ei 150fed pen-blwydd. 

Y Farwnes Kay Andrews, ymddiriedolwraig y DU a chadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru oedd yn gyfrifol am wneud y cyhoeddiad mewn digwyddiad yn yr Hen Goleg heddiw: “Ar ddechrau degawd newydd, pa well newyddion na bod yr Hen Goleg – diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol – ar fin dechrau bywyd newydd.

Mae’n cael lle canolog eto nawr – ond y tro hwn, bydd wrth galon y gymuned gyfan – gan greu swyddi, a chynnig lletygarwch, helpu rhoi hwb i’r economi, creu sgiliau a chyfleoedd i’r gymuned, a bydd yn agor ei ddrws i bob math o ddarganfyddiadau a dysgu.”

Ail greu adeilad i’r dyfodol 

Bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys:

  • gofod arddangos ar gyfer arddangosfeydd
  • canolfan i entrepreneuriaid a busnesau newydd
  • stiwdios artistiaid
  • caffi 
  • ystafelloedd cymunedol
  • cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau a gwyliau mawr. 
Discovery Gallery illustration
How the Discovery Gallery could look

Bydd Talwrn Trafod newydd, y gyntaf o’i bath yn y DU, yn atyniad allweddol yn y gofod newydd ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau.

Bydd yr Hen Goleg yn gartref i Ganolfan Ddarganfod – Byd Gwybodaeth, fydd yn caniatáu i rywfaint o’r 30,000 gwrthrych sydd fel arfer dan glo i weld golau dydd. Bydd arddangosfeydd gwyddoniaeth yn cynnig dangosiadau rhyngweithiol o’r radd flaenaf fydd yn tynnu sylw at rôl y Brifysgol wrth archwilio’r gofod.

Bydd cyfleusterau i fyfyrwyr a chyfleusterau dysgu gydol oes ynghyd â sawl gofod ar gyfer pobl ifanc lleol i’w defnyddio ar gyfer gweithgareddau a gwirfoddoli.

Creu swyddi a chyfleoedd

Bydd tua 900 o bobl yn elwa o hyfforddiant mewn treftadaeth, twristiaeth a lletygarwch.  Yn ogystal â chreu oddeutu 50 swydd newydd a 400 cyfle i wirfoddoli, yn ogystal â phrentisiaethau a phrofiad gwaith, bydd yr Hen Goleg ar ei newydd wedd hefyd yn annog graddedigion y brifysgol i aros yn y dref a sefydlu busnesau newydd.

Cyfanswm amcan gost yr ailddatblygiad yw tua £27m, ac mae’r Brifysgol yn ystyried ffynonellau eraill o gyllid i’r prosiect gan gynnwys ail gam ei hapêl codi arian. 
 

Cyllid i Gymru

Dewch i weld mwy am yr hyn ni wedi ariannu yng Nghymru  a chysylltwch gyda’ch syniadau chi am brosiect.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...