Anrheg Nadolig gan y Loteri Genedlaethol yn helpu dathlu pen-blwydd eglwys yn 180 oed

Anrheg Nadolig gan y Loteri Genedlaethol yn helpu dathlu pen-blwydd eglwys yn 180 oed

Sunday school walk
Daw’r Nadolig yn gynnar i Bontypridd wrth i nawdd gan y Loteri Genedlaethol helpu’r gymuned leol ddod ynghyd i gofio a dathlu pen-blwydd eglwys hynaf yr ardal yn 180 oed, sef Eglwys y Santes Fair yng Nglyn-taf.

180 o flynyddoedd o Eglwys y Santes Fair yng Nglyn-taf

Daw’r Nadolig yn gynnar i Bontypridd wrth i nawdd gan y Loteri Genedlaethol helpu’r gymuned leol ddod ynghyd i gofio a dathlu pen-blwydd eglwys hynaf yr ardal yn 180 oed, sef Eglwys y Santes Fair yng Nglyn-taf.

Bydd disgyblion o Ysgol Uwchradd leol Hawthorn yn ymuno â rhai o aelodau’r eglwys a gwirfoddolwyr o’r gymuned ehangach i fyfyrio ar yr effaith mae’r eglwys wedi ei chael ar yr ardal yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf.

Eglura Brenda Cawthorne, sy’n arwain y prosiect: “Mae’n syndod nad oes llawer o bobl yng nghymuned ehangach Pontypridd yn ymwybodol o bwysigrwydd Eglwys y Santes Fair fel adeilad hanesyddol pwysig iawn, a dderbyniodd statws rhestredig Gradd II yn 2001.

Ymchwilio i hanes yr eglwys

Bydd haneswyr ac arbenigwyr lleol o Lyfrgell ac Amgueddfa Pontypridd ac Archifau Morgannwg hefyd yn rhan o’r prosiect, ac yn helpu creu arddangosfa ddwyieithog a llyfryn darluniadol o ymchwil y grŵp. Bydd arbenigwyr hefyd yn helpu plant ysgol i ddysgu sgìl newydd wrth ddigideiddio’r ymchwil a gasglwyd gan ddisgyblion, gan ei wneud yn hygyrch ar wefannau’r ysgol a’r Amgueddfa.

Sr Mary's Church
Llun hynafol o’r eglwys

 

Hefyd, cynhelir gwasanaeth o ddathlu yn Eglwys y Santes Fair fydd yn nodi ei phen-blwydd yn 180 oed.

Cefnogi treftadaeth yn Rhondda Cynon Taf

Ychwanegodd Stephen Barlow, Pennaeth Ymgysylltu Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Yn ddiweddar, rydyn ni wedi nodi Rhondda Cynon Taf fel un o’n hardaloedd blaenoriaeth, ac mae prosiectau fel hwn yn ymgorffori ein hamcanion o sicrhau bod treftadaeth yn dod yn fyw yn ein cymunedau.”

Os oes gennych chi syniad am brosiect treftadaeth yn Rhondda Cynon Taf ac rydych chi am ei drafod ymhellach, cysylltwch â thîm Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ar wales@heritagefund.org.uk.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...