Dathlu hanes LHDT+ yn Llanelli

Dathlu hanes LHDT+ yn Llanelli

A group of people in a community space

National Lottery Grants for Heritage – £3,000 to £10,000

LLANELLI, Wales
Llanelli LGBTQ+ Support
£9300
Mae Cymorth LGBTQ+ Llanelli wedi cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i gydnabod a rhannu treftadaeth gyfoethog cymuned LHDT+ y dref.

Mae Cymorth LGBTQ+ Llanelli yn grŵp sydd wedi'i sefydlu i ddathlu, dysgu a hysbysu'r cyhoedd am y rôl y mae'r gymuned LHDT+ wedi'i chwarae yn hanes y dref.

Mae'r grŵp yn casglu straeon am brofiadau pobl LHDT+ yn Llanelli, wedi'u recordio a'u rhannu fel erthyglau a ffilmiau ar-lein.

Yn ystod y prosiect hanes a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol, llwyfannodd y grŵp y digwyddiad LGBT+ treftadaeth cyntaf erioed yn Llanelli, gan glymu i mewn gyda Mis Hanes LHDT+ yn 2020. 

Mae'r prosiect yn caniatáu i'r grŵp adeiladu ar eu gwaith gyda Pride Cymru a Stonewall, a gwneud partneriaethau newydd gyda sefydliadau LGBT+ Cenedlaethol.

Yn ystod Mis Hanes LHDT+ 2021 mae nifer o ddigwyddiadau rhithwir wedi bod yn cael eu cynnal. Mae'r rhain yn cynnwys sgwrs am arddangosfa rithwir Pride Cymru Icons and Allies, canllaw ymarferol i ymchwilio i hanes LHDT+, a chyfle i gael coffi a chlonc er mwyn i bobl allu dysgu mwy am dreftadaeth LHDT+ y dref.

Nod cyffredinol y grŵp yw estyn allan yn ehangach i ddarganfod mwy o straeon a phrofiadau LHDT+ Llanelli fel y gellir eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.