Blwyddyn fel Cyfarwyddwr Cymru: cyfyngiadau symud, Balchder a chynhwysiant

Blwyddyn fel Cyfarwyddwr Cymru: cyfyngiadau symud, Balchder a chynhwysiant

Portread o Andrew White Cyfarwyddwr Cymru
Dyma Andrew White yn myfyrio ar ei flwyddyn gyntaf fel Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, a'n hymrwymiad hollbwysig i gynhwysiant.

Yn gynnar ym mis Mawrth 2020, gadewais fy nghyfweliad ar gyfer y rôl fel Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yna, cefais alwad gan fy nghyn-gydweithwyr yn dweud wrthyf am fynd adref a gweithio gartref am y tro. 

Ychydig y gallwn fod wedi gwybod mai dyna fyddai'r diwrnod olaf i mi weithio mewn ystafell gydag unrhyw gydweithwyr am fwy na blwyddyn. Rwyf am gydnabod y galar, y boen, y pryder a'r trawma y mae llawer ohonom wedi'u profi mewn amgylchiadau mor annirnadwy. Rwyf am dalu teyrnged i'r cryfder, y gwytnwch a'r gefnogaeth rydw i wedi'u profi yn y Gronfa. Hefyd, i'r sefydliadau rydyn ni wedi gweithio gyda nhw dros y 12 mis diwethaf.

Bwrw ati'n syth

Gyda’r cyfyngiadau symud cyntaf yn dechrau, fe fwrwodd y Gronfa ati’n syth. Gwnaethom ganolbwyntio'n bennaf ar gefnogi anghenion y sector treftadaeth yn ystod camau cychwynnol y pandemig. Heddiw, mae adferiad y sector yn parhau i fod wrth wraidd ein grantiau.

Yng Nghymru, rwy'n arbennig o falch o'r tîm a'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni. Ynghyd â'n partneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwnaethom gyflwyno chwe rhaglen grant a dosbarthu mwy nag £18 miliwn i brosiectau treftadaeth ledled Cymru. Rwy’n gyffrous i ddechrau ymweld â rhai o’r prosiectau hynny wrth i gyfyngiadau leddfu, ac i gwrdd â rhai ohonoch wyneb yn wyneb am y tro cyntaf.

Ein hymrwymiad i dreftadaeth LGBT+

Pobl ifanc ym mhrosiect Dwylo ar Dreftadaeth
Pobl ifanc ym mhrosiect Dwylo ar Dreftadaeth

Mae mis Mehefin yn Fis Balchder i'r gymuned LGBT+ a chynghreiriaid ledled y byd. Mae treftadaeth LGBT+ a'r cyfraniad y mae pobl LGBT+ yn ei wneud i gymdeithas yn cael ei anwybyddu'n rhy aml o lawer; mae rhai hyd yn oed wedi ei ddisgrifio fel 'hanes cudd'.

Yn y Gronfa, rydym yn falch o gefnogi prosiectau sy'n dathlu treftadaeth LGBT+. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi dyfarnu dros £7.5m i brosiectau treftadaeth LGBT+ ledled y DU. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y sylfaen honno, a meithrin perthnasoedd cryfach â sefydliadau hanes, diwylliant a threftadaeth LGBT+ nawr ac i'r dyfodol.

Ymhlith y sefydliadau rydyn ni eisoes wedi'u cefnogi mae:

  • Dyfarnwyd £9,000 i Gefnogaeth LGBTQ+ Llanelli yn 2020, i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy'n rhannu treftadaeth cymuned LGBT+ y dref.
     
  • Dyfarnwyd £36,700 i Mardi Gras LGBT Caerdydd a Chymru ar draws sawl prosiect. Roedd hyn yn cynnwys ar gyfer Mis Hanes LGBT+ yn 2018, ac yn gynharach i archwilio ffigurau ysbrydoledig bobl LGBT+ mewn realiti a ffantasi.
     
  • Dyfarnwyd £875,000 i Amgueddfa Genedlaethol Cymru drwy ein rhaglen Kick the Dust yn 2017, i’r Prosiect Dwylo ar Dreftadaeth. Fe ddaethon nhw â phobl ifanc 16-25 oed ynghyd i archwilio casgliadau a datgelu straeon LGBT+ yn saith safle'r amgueddfa ledled Cymru.

Dod yn ariannwr mwy teg

Y llynedd, arweiniais adolygiad o'n gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI).

Fe wnaethon ni siarad a gwrando i ystod eang o'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys ein grantïon, undebau llafur a staff. Byddwn yn defnyddio'r hyn a ddysgon ni i:

  • cynyddu effaith gymdeithasol gadarnhaol treftadaeth ar gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • edrych ar ein dull o recriwtio aelodau i'n pwyllgorau a'n bwrdd

Bydd y canfyddiadau'n cael eu rhannu ynghyd â'n cynllun gweithredu yn ddiweddarach yn yr haf.

Ni fyddwn yn rhoi’r gorau iddi; byddwn yn cadw ein hymrwymiad i fod yn ariannwr treftadaeth mwy teg.

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Flag Balchder Cymru
Flag Balchder Cymru

Os oes gennych syniad am brosiect LGBT+, neu os ydych chi'n sefydliad sy'n gweithio gyda phobl LGBT+, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Rydyn ni eisiau i dreftadaeth adrodd straeon pawb a chynrychioli gorffennol pawb. Trwy sicrhau bod treftadaeth yn gynhwysol, rydym yn sicrhau nad yw profiad unrhyw un ar goll. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni hyn.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...