Sut mae coronafeirws yn effeithio ar y sector treftadaeth

Sut mae coronafeirws yn effeithio ar y sector treftadaeth

Tom Walters
Dyma air gan ein Pennaeth Ymchwil, Data a Mewnwelediad i'r arolygon a helpodd i ni lywio ein hymateb i'r achos coronafeirws (COVID-19).

Mae'r argyfwng coronafeirws eisoes wedi cael effaith seismig ar ein bywydau.

Yn gyntaf oll i'r bobl y mae eu hiechyd – ac iechyd eu teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr – wedi cael eu heffeithio. Ac i unrhyw un sydd wedi teimlo pryder neu ofn neu anesmwythder cyffredinol am ein byd sy’n cau oherwydd cyngor y llywodraeth i aros gartref.

Daw’r ail effaith yn sgil ein sector ni fel rhan o'r economi ehangach – yn gryno, sut y gallwn oroesi'r argyfwng yma, a sicrhau bod ein hasedau a'n sefydliadau treftadaeth yn gallu ffynnu yn y dyfodol?

Yfory (dydd Mercher 1 Ebrill) byddwn yn rhyddhau manylion ein Cronfa Argyfwng Treftadaeth. Roedd yn ganlyniad i waith cyflym y tu ôl i'r llenni – a dau arolwg sydd wedi ein helpu i ddarganfod mwy am sut mae ymgeiswyr, grantïon a phobl ar draws y sector yn teimlo.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a ymatebodd i'r arolygon a rhoi o'ch amser i ddweud wrthym am yr effaith ar eich sefydliad.  Cawsom ymateb ysgubol ac mae eich adborth wedi chwarae rhan bwysig iawn yn nyluniad y Gronfa Argyfwng Treftadaeth.

Ein Arolwg o Sefydliadau Treftadaeth

Dechreuwyd casglu tystiolaeth anecdotaidd o'r effaith ar rai o'r sefydliadau rydym yn eu cefnogi wrth i'r mesurau ymbellhau cymdeithasol cychwynnol gael eu cyhoeddi.  Ond daeth yn amlwg yn gyflym fod angen i ni glywed gan fwy o'n ffrindiau a'n cydweithwyr yn y sector.  Un o'n hymatebion cyntaf i'r argyfwng felly oedd cychwyn ymchwil gyda grantïon a sefydliadau treftadaeth i ddeall yn iawn yr effaith yr oedd y feirws a'r mesurau cysylltiedig yn ei chael.

Agorodd yr arolwg ddydd Gwener 20 Mawrth a daeth i ben am 5pm ddydd Gwener 27 Mawrth. Ar 24 Mawrth, cyhoeddodd y Prif Weinidog Boris Johnson ei fod yn rhoi cyfyngiadau symud llym iawn ar boblogaeth y DU.

Anfonom yr arolwg at 1,424 o grantïon oedd wedi derbyn grant o dros £250,000 o fewn y 10 mlynedd diwethaf. Gwnaethom hefyd gyhoeddi'r ddolen ar ein gwefan a'i rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.

Cawsom 1,253 o atebion, ac o'r rheini dychwelodd 479 drwy e-bost. Daeth yr atebion o bob rhan o'r DU, traws-sector a maint y sefydliad. Diolch i bawb a gymerodd ran.

Cynhaliwyd yr ymchwil yn ystod cyfnod o newid cyflym a chawsom ymatebion drwy gydol yr wythnos. Mae hynny'n golygu bod y cyfyngiadau sydd yn eu lle a'r cymorth sydd ar gael wedi amrywio o bosibl i wahanol ymatebwyr.  Mae hyn yn rhywbeth i'w gadw mewn cof wrth i chi ddarllen y canfyddiadau, ond credwn fod yr ymatebion yn dal i roi cipolwg amhrisiadwy.    

Y canfyddiadau allweddol:

Mae effaith epidemig coronafeirws yn effeithio ar y DU gyfan. Gwelsom y cafodd 98% o sefydliadau eu heffeithio o fewn y tair wythnos gyntaf a disgwyliai'r 2% oedd yn weddill gael rhywfaint o effaith yn y dyfodol. Nid oedd gwahaniaethau arwyddocaol ar draws y wlad, nac ar draws y sector. 

Bydd yr effaith ariannol yn uchel:

  • Dywedodd 91% o'r ymatebwyr eu bod wedi gorfod canslo digwyddiadau
  • Mae 69% yn cael eu heffeithio gan golli refeniw
  • Nododd 82% o sefydliadau risg uchel neu gymedrol i'w hyfywedd hirdymor. Mae'r ffigur hwnnw'n codi i 90% ymysg sefydliadau elusennol, trydydd sector neu breifat.

Roedd yr effaith ar sefydliadau yn ein sector hefyd yn glir o'r ymatebion i'r arolwg:

  • Roedd 71% yn disgwyl y byddai'n rhaid iddynt gau i'r cyhoedd
  • Mae 55% yn cael eu heffeithio gan ddiffyg gwirfoddolwyr sydd ar gael
  • Mae 49% yn cael eu heffeithio gan absenoldeb staff
  • Mae 49% yn gweld gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr

Bydd yr hanner blwyddyn nesaf yn allweddol i barhad llawer o'n sefydliadau treftadaeth. Os yw'r sefyllfa bresennol yn parhau, dywedodd 37% o'r sefydliadau a ymatebodd wrthym na allant oroesi am ddim mwy na chwe mis, gydag 11% yn dweud na allant barhau am ddim mwy na dau fis.  

Dywedodd tua thraean o fudiadau elusennol/trydydd sector a thua thraean o grwpiau cymunedol a gwirfoddol na allent fodoli y tu hwnt i fis Gorffennaf.

Beth ddylen ni fod yn ei wneud?

Nid oedd llawer o'n hymatebwyr yn siŵr a oeddent yn gymwys i wneud cais am gymorth ehangach gan y llywodraeth, sy'n adlewyrchu'r ffaith mai megis dechrau y mae llawer o bolisïau, neu, yn wir, eu bod wedi’u cyhoeddi yn ystod y cyfnod yr oedd yr arolwg yn fyw.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr am gael mwy o hyblygrwydd ar gyfer prosiectau/grantiau presennol, roedd 58% eisiau cyllid adnewyddu oherwydd colli refeniw, ac roedd 52% am gael arian brys. 

Mae'r adborth yma wedi bod yn hollbwysig yn ystod y dyddiau diwethaf wrth i'r Gronfa Dreftadaeth wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o ymateb. 

Arolwg o gyrff bywyd gwyllt a chefn gwlad

Gwnaethom hefyd gomisiynu arolwg cyfochrog drwy Wildlife and Countryside Links, a gynhaliwyd rhwng 20 a 24 Mawrth, felly mae'r canlyniadau'n ymwneud â'r cyfnod cyn y cyhoeddiad 'aros gartref' gorfodol gan y Prif Weinidog. Anfonwyd yr arolwg at fwy na 100 o aelodau ledled y DU a daeth 60 o ymatebion yn ôl.

Roedd effaith yr argyfwng yr un fath ag yr oedd yn ein harolwg cyntaf – gyda 98% o'r sefydliadau yn cael eu heffeithio, a 2% yn disgwyl cael eu heffeithio.

Unwaith eto, disgwylir i'r effaith ariannol a threfniadol fod yn sylweddol:

  • Mae 61% yn cael eu heffeithio gan golli refeniw 
  • Mae 56% yn cael eu heffeithio gan absenoldeb staff 
  • Mae 58% yn cael eu heffeithio gan ddiffyg gwirfoddolwyr sydd ar gael 

Ein camau nesaf

Rydym wedi defnyddio'r ymatebion hyn i'n helpu i gyfeirio ein camau nesaf, y byddwn yn eu cyhoeddi yfory. Mae ein staff arbenigol yn gweithio gyda'i gilydd i helpu'r sector gymaint ag y gallwn, ac rydym yn siŵr eich bod chithau hefyd. Mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw bryderon.

Mae'r argyfwng yn dangos, er bod y sector treftadaeth yn ddygn ac yn cael ei redeg gan bobl angerddol a galluog – ei fod hefyd yn rhan o ecosystem bregus. Dangosodd yr ymchwil bod sefydliadau bach a mawr yn wynebu her sylweddol o'u blaenau.  

Nid i'n sector ni'n unig y mae'r bygythiad, ond i'r dreftadaeth fendigedig yr ydym yn gofalu amdani ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Rydym felly wedi defnyddio canfyddiadau'r ymchwil i deilwra ein cyllid argyfwng i'r sefydliadau sydd yn y perygl mwyaf.  

Byddwn yn awr hefyd yn dadansoddi canfyddiadau manwl yr arolwg gydag adrannau'r llywodraeth a'n partneriaid yn y sector er mwyn asesu'r opsiynau ar gyfer ymateb ar y cyd ehangach.  Yn olaf, dangosodd yr arolwg fod angen i ni helpu i sicrhau bod sefydliadau treftadaeth yn gallu gwneud defnydd llawn o fentrau sylweddol y Trysorlys a Chyllid a Thollau ei Mawrhydi a gyhoeddwyd eisoes.   

Diolch eto am gymryd yr amser i ymateb i'n galwad am dystiolaeth. 

Arwydd o obaith yw bod sefydliadau treftadaeth a'u staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr yn rhannu casgliadau a syniadau ar-lein o'u cartrefi.

Efallai ar ôl i'r cyfyngiadau ddod i ben, cawn gyfle i ddathlu a mwynhau unwaith eto popeth yr ydym wedi'i golli yn ystod y misoedd diwethaf.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...