Cynigion arbennig mewn safleoedd treftadaeth trawiadol ledled y DU

Cynigion arbennig mewn safleoedd treftadaeth trawiadol ledled y DU

Dau berson yn edrych drwy finocwlars mawr
Mae Canolfan Gwlyptir Espie Castell WWT yn cynnig mynediad 2-am-1. Credyd: Sam Stafford/WWT.
Mae cannoedd o leoliadau treftadaeth ledled y DU yn cynnig cynigion arbennig i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol – darganfyddwch rai o'n ffefrynnau.

Dweud #DiolchiChi

Bob wythnos mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30miliwn ar gyfer achosion da, gan newid bywydau pobl a chymunedau ar hyd a lled y wlad. Mae dros £45bn wedi'i godi ers 1994.

People in music venue facing towards artists on stage
Gig yn Band on the Wall, Manceinion

Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o drysorau treftadaeth y DU – o amgueddfeydd a neuaddau cerddoriaeth i oleudai a llynnoedd.

I ddweud #DiolchiChi fawr wrth chwaraewyr, bydd cannoedd o safleoedd a lleoliadau hanesyddol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn rhoi cynnig arbennig yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol, a gynhelir rhwng 19 a 27 Mawrth 2022.

Dangoswch docyn y Loteri Genedlaethol neu gerdyn carfu i ddatgloi cynigion cyffrous, gan gynnwys mynediad am ddim, mynediad y tu ôl i'r llenni neu daith arbennig.

Darganfyddwch rai o'n hoff bethau i'w gwneud yn ystod yr wythnos isod.

Pethau i'w gwneud

Archifau Suffolk

Darganfyddwch beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni ar daith arbennig o amgylch yr archif ar gyfer chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Darganfyddwch rai o'r trysorau yn ei chasgliad, sy'n dogfennu dros 900 mlynedd o hanes Suffolk.

Gwarchodfa natur RSPB Loch Leven

Wedi'i osod ar lan ddeheuol y loch, mae'r warchodfa'n ymdoddi â natur a bywyd gwyllt i'w darganfod. Llogwch becyn fforio am ddim i blant – sy'n erffaith ar gyfer anturiaethwyr bach newydd.

Child running in forest surrounded by purple flowers
Archwilio natur yn RSPB Loch Leven. Credyd: Helen Pugh (rspb-images.com).

Capel Brenhinol Fictoria, Southampton

Dringwch 109 o risiau ar daith tŵr am ddim a chanu un o dri chlychau Capel Gradd II* cyn mwynhau'r golygfeydd ysblennydd ar draws y Solent.

Goleudy Souter a'r Leas – Ymddiriedolaeth Genedlaethol, South Shields

Mae tirnod morwrol eiconig De Tyneside yn cynnig mynediad am ddim drwy gydol yr wythnos. Mwynhewch yr olygfa anhygoel ar ben y tŵr a thaith gerdded braf ar ben clogwyn.

Neuadd Aston, Birmingham

Large stately building
Neuadd Aston yn Birmingham

Archwiliwch dros 30 o ystafelloedd o'r plasty mawreddog hwn, gan gynnwys Siambr y Brenin Siarl, y Grisiau Mawr a'r Oriel Hir anhygoel. Gallwch hefyd goroni'r cyfan gyda thaith gerdded yng Ngardd Lady Holte. Mae 50% oddi ar y mynediad i Neuadd Aston ar gael drwy gydol yr wythnos.

Dance Base Scotland, Caeredin

Dance Base yw Canolfan Ddawns Genedlaethol yr Alban. Mae gan ei adeilad eiconig yng nghanol Grassmarket Caeredin ddosbarthiadau ar gyfer pob lefel, gan gynnwys dechreuwyr llwyr. Rhowch gynnig ar ddosbarth am £5 yn unig yn ystod yr Wythnos Agored.

Band on the Wall, Manceinion

Mae Band on the Wall yn gonglfaen i dirwedd gerddoriaeth a diwylliannol ffyniannus Manceinion, gyda hanes yn dyddio'n ôl ddwy ganrif. Maen nhw'n cynnig 20% oddi ar docynnau i'w gigs a'u digwyddiadau drwy gydol yr wythnos.

Canolfan Gwlyptir  Castell Espie WWT, Comber

Dyma gyfle i chi fod yn agos at fywyd gwyllt gwlypdir yng Nghanolfan Gwlyptir Castell Espie gyda chynnig tocyn 2-am-1. Dewch i weld golygfeydd godidog o Strangford Lough o'r Arsyllfa a darganfod poblogaeth fwyaf Gogledd Iwerddon o hwyaid a gwyddau o bob cwr o'r byd.

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Norwich

Cewch fynediad am ddim i Gastell Norwich 900 mlwydd oed ac archwilio ei gasgliadau rhyngwladol mewn archaeoleg, hanes naturiol, hanes catrodol a chelf gain, addurniadol a chyfoes.

Arddangosfa a Chanolfan Ddysgu'r Holocost, Huddersfield

Person standing in front of exhibition display
Cadw'r gorffennol yn Arddangosfa'r Holocost
a Chanolfan Ddysgu, Huddersfield

Bydd y ganolfan yn cyflwyno rhai o'i chasgliadau mwyaf prin ar gyfer chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Ewch draw i gwrdd â'r archifydd a darganfod beth mae'n ei olygu i ddiogelu treftadaeth yr Holocost.

Ymddiriedolaeth Penllergare, ger Abertawe

Dewch i ddarganfod hud Coedwig Cwm Penllergare ar daith gerdded heddychlon mewn coetir a mwynhau diod boeth am ddim yn y siop goffi sy'n cael ei rhedeg gan y gymuned. Mae gan yr ystâd Fictoraidd hon rywbeth i bawb sydd â chymysgedd o goetiroedd, gerddi, rhaeadr fawreddog a llynnoedd.

Stiwdio ac Amgueddfa Crochendy Leach, St Ives

Yn 2020, dathlodd Leach Pottery 100 mlynedd ers i'w sylfaenwyr, Bernard Leach a Shoji Hamada, sefydlu'r stiwdio hyfryd hon yng Nghernyw. Darganfyddwch fwy am ei hanes mentrus gyda mynediad am ddim i Amgueddfa Pottery Leach neu cymerwch ran mewn gweithdy am ddim.

Parc Gwledig Creggan, Doire-Derry

Archwiliwch fyd natur a threftadaeth ddiwydiannol ddiddorol ym Mharc Gwledig Creggan, lle gallwch gymryd golygfeydd a synau'r man gwyrdd unigryw hwn. Wedyn cynheswch gyda the neu goffi a chacen am ddim a mwynhewch y golygfeydd o falconi'r caffi.

Canolfan Gwlyptir Llanelli WWT

Two ducks touching beaks
Hwyaid yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli. Credyd: Adam
Phillips/WWT

Darganfyddwch bob math o adar a bywyd gwyllt bendigedig, gan gynnwys fflamingos lliwgar, ac i deuluoedd mae maes chwarae antur hefyd. Mae Canolfan Gwlyptir Llanelli yn cynnig tocynnau 2-am-1.

Amgueddfa Charles Dickens, Llundain

Ewch ar daith o amgylch y cartref a oedd unwaith yn perthyn i'r Charles Dickens ifanc ac uchelgeisiol. Mae Amgueddfa Charles Dickens yn cynnig mynediad am ddim o 23-25 Mawrth lle gallwch weld arteffactau personol gan un o awduron mwyaf enwog Prydain.

Sut i hawlio'ch cynnig

Ewch draw i'r atyniad gyda thocyn y Loteri Genedlaethol neu gerdyn crafu – yn bersonol neu ar-lein – i hawlio'r cynnig. Gwiriwch y rhestrau lleoliadau ar gyfer dyddiadau, amseroedd a thelerau ac amodau eraill.

Gweld yr holl gynigion

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...