Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau

Bwriad Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau yw chwalu rhwystrau sy'n eithrio cymunedau difreintiedig rhag ymwneud â byd natur.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Rhagfyr 2022

Pwysig

Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau newydd. Archwiliwch ein cyllid sydd ar gael.

Trosolwg

Bwriad Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau yw chwalu rhwystrau sy'n eithrio cymunedau difreintiedig rhag ymwneud  â byd natur.

Nod y gronfa yw cynyddu'r gwaith o ymgysylltu sydd gan y cymunedau hyn gyda'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - rhaglen cronfa Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur 'ar garreg eich drws'.

Bydd sefydliadau a chymunedau sy'n cael eu hariannu yn cydweithio i:

  • cyd-gynhyrchu rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur y dyfodol - cyd-greu syniadau, cynlluniau a phrosiectau sy'n creu 'lle lleol i fyd natur'
  • cynyddu ymgysylltiad sydd gan y cymunedau hyn â natur yn eu hardal leol

Y gobaith yw y bydd yr arian hwn yn talu am rwydwaith o hwyluswyr neu gydlynwyr i helpu i gyflawni hyn.

Mae'r Gronfa Treftadaeth yn dosbarthu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ‒ Chwalu Rhwystrau ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r arian hwn yn bennaf ar gyfer:

  • mudiadau sy'n gweithio gyda chymunedau ethnig amrywiol, ffoaduriaid, Grwpiau cymunedol Sipsiwn, Roma a Theithwyr 
  • sefydliadau'n gweithio gyda chymunedau yn 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru
  • cyn derbyn grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, i'w helpu i symud ymlaen i'r cam nesaf o ddatblygu lleoedd ar gyfer natur yn eu cymuned.

Os yw eich cynnig yn dod o fewn y 70% o ardaloedd lleiaf difreintiedig efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais am gyllid, yn enwedig os bydd eich prosiect yn cynyddu cyfranogiad ystod ehangach o bobl mewn treftadaeth naturiol a/neu os oes gan y rhai yr effeithir arnynt gan y prosiect angen penodol.

Anfonwch e-bost atom gyda manylion byr, gan gynnwys cod post safle'r prosiect, fel y gallwn roi cyngor pellach i chi.

Cyllid sydd ar gael

Cynllun grant refeniw yn unig yw hwn. Rydym yn cynnig grantiau o £30,000 - £100,000 ar gyfer costau refeniw. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael yw £400,000.

Gweithio ar y cyd

Rydym am alluogi grwpiau i weithio ar y cyd â chyllid ac adnoddau sydd ar gael gan sefydliadau sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, ein hunain ac eraill. Mae ein rhaglenni ariannu yn cynnwys:

Terfynau amser ymgeisio

  • 31 Awst 2022: Dyddiad cau ymholiadau'r prosiect  
  • 28 Hydref 2022: Dyddiad cau ymgeisio 

Ariannu natur yw ein blaenoriaeth ar y cyd

Natur yw ein math hynaf o dreftadaeth. Nid yw gofalu am fyd natur a helpu pobl i ddeall a gwerthfawrogi ei bwysigrwydd erioed wedi bod yn fwy perthnasol.

Mae'r angen i gynorthwyo adferiad natur ar frys. Rydym hefyd yn gwybod bod effaith COVID-19 wedi atgyfnerthu anghyfartaledd mynediad, gyda llawer llai o geisiadau i'n cronfeydd natur presennol yn dod gan:

  • grwpiau difreintiedig
  • ardaloedd trefol gyda lefelau uchel o amddifadedd
  • ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan Gyngor Tref neu Gymuned

Dyna pam mae cael gwared ar rwystrau i gymryd rhan yn flaenoriaeth ariannu strategol i Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Treftadaeth.

Rhan o'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ehangach

Mae menter Chwalu Rhwystrau yn rhan o gronfa ehangach 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' Llywodraeth Cymru. Mae'r gronfa hon, sydd wedi'i thargedu at ardaloedd o amddifadedd trefol, wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur 'ar stepen eich drws'.

Mae tri chynllun o fewn y rhaglen leol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur bresennol:

  1. Cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i Bartneriaethau Natur Lleol. Mae'r rhain yn cael eu harwain gan y 25 awdurdod lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol. Maen nhw'n darparu lleoedd lleol ar gyfer byd natur, mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol ar draws eu hawdurdodau.
  2. Grantiau cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – grantiau cyfalaf mynediad agored (gydag 15% o refeniw) a ddarperir gan y Gronfa Treftadaeth, sy'n agored i unrhyw sefydliad dielw.
  3. Pecynnau Cymunedol a ddarperir i grwpiau sy'n cynnwys yr holl ddeunyddiau ac arbenigedd sydd eu hangen i greu lle i fyd natur. Defnyddir y pecynnau sy'n cael eu talu ymlaen llaw i greu lleoedd tyfu cymunedol neu safleoedd peillwyr a gellir hyd yn oed gael eu lleoli ar arwynebau wedi'u gwneud gan ddyn. Nid oes angen cyfrif banc na chyfansoddiad ar ymgeiswyr, dim ond gwirfoddolwyr ac ymrwymiad i gynnal y lle i fyd natur am bum mlynedd

Bwriad y fenter newydd hon yw helpu'r grwpiau mwyaf ymylol i helpu i lunio rhaglen y dyfodol a chymryd y camau cyntaf tuag at greu lle i fyd natur.

  • cyllid grant ar gyfer prosiectau rhwng £30,000 a £100,000
  • hyd at 100% o gyllid
  • cyllid ar gyfer sefydliadau nid-er-elw (statudol a thrydydd sector) gyda chyfrif banc a chyfansoddiad
  • cyngor cyn ymgeisio drwy e-bost: natur@heritagefund.org.uk
  • 10 Awst 2022: Cynllun yn ailagor
  • 16/17 Awst 2022: Cadw lle yn y gweminar ar agor
  • 31 Awst 2022: Dyddiad cau ymholiadau'r prosiect
  • 28 Hydref 2022: Dyddiad cau ymgeisio
  • Canol Rhagfyr 2022: Ceisiadau grant yn cael eu penderfynu ac ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod
  • 28 Chwefror 2024: Prosiectau'n dod i ben

Mae'n rhaid i'ch prosiect arfaethedig fod gyda naill ai:

  • cymunedau ethnig amrywiol, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • grŵp ymylol (cymuned o ddiddordeb)

NEU

Mae'n rhaid i'ch prosiect gynnwys costau refeniw yn unig, er enghraifft:

  • staffio ac ar gostau
  • nwyddau
  • costau hyfforddi a chefnogi
  • ymgynghoriad cymunedol a digwyddiadau "blasu"
  • teithio

Cynigion prosiect

Rydym yn chwilio am gynigion ar gyfer:

Prosiectau a fydd yn cyd-greu rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn y dyfodol

Byddwn ni am i chi fod â chysylltiadau sefydledig â chymunedau ethnig amrywiol, ffoaduriaid, grwpiau cymunedol Sipsiwn, Roma a Theithwyr a chymunedau eraill sydd wedi'u heithrio a'u anfanteisio, nad ydynt yn defnyddio dulliau cyllido cyfredol.

Byddwch yn gweithio gyda'r grwpiau hynny i nodi rhwystrau rhag ymgysylltu â'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur bresennol a chyd-greu atebion, dileu rhwystrau a galluogi cymryd rhan.

Enghraifft o brosiect: Rydych chi'n sefydliad cymunedol sy'n gweithio i helpu pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol a/neu ffoaduriaid i wella eu hiechyd a'u llesiant mewn ardaloedd difreintiedig. Byddwch yn recriwtio hwylusydd i weithio gyda phobl yn y gymuned i nodi cyfleoedd, rhwystrau a phartneriaethau ac felly cyd-greu rhaglen y dyfodol.

Prosiectau i alluogi cymunedau sydd wedi'u heithrio a chymunedau difreintiedig i gael mynediad at gyllid

Rydym yn disgwyl i hyn gael ei gyflawni gan hwyluswyr sydd â'r arbenigedd a'r profiad o weithio gyda grwpiau penodol neu mewn cymunedau penodol.

Enghraifft o brosiect: Rydych yn gorff ymbarél ar gyfer sefydliadau sy'n berchen ar dir/adeiladau mewn ardaloedd difreintiedig. Byddwch yn recriwtio hwylusydd i weithio'n agos gyda grwpiau lleol i nodi cyfleoedd ar gyfer rhandiroedd cymunedol a gerddi bywyd gwyllt ar y tir. Byddwch yn gweithio gyda'r gymuned i gyd-greu prosiectau, gan arwain at geisiadau cyllid i unrhyw un o'r cynlluniau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Prosiectau i helpu derbynwyr blaenorol grantiau Lleoedd Lleol am Natur

Dylai'r prosiectau hyn helpu'r derbynwyr blaenorol hyn i gynnal eu hymgysylltiad â natur a datblygu cynigion ar gyfer cam nesaf eu taith.

Enghraifft o brosiect: Rydych chi'n gorff neu'n sefydliad sydd eisoes yn arbenigo mewn mentora a chefnogi grwpiau cymunedol i ddatblygu eu rhaglen o weithgareddau a/neu ddatblygu cynlluniau ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cynaliadwy sy'n cynnwys y gymuned.

Blaenoriaeth ar gyfer ariannu

Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer arian i gynigion sy'n:

  • ennyn diddordeb pobl a chymunedau o gymunedau ethnig amrywiol, ffoaduriaid, grwpiau cymunedol Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • ymgysylltu â phobl a chymunedau mewn ardaloedd trefol difreintiedig a pheri ardaloedd trefol (30% mwyaf difreintiedig)
  • yn cynnwys cynghorwyr hyfforddedig a phrofiadol sydd â chefndir cryf wrth weithio gyda chymunedau sydd ar yr ymylon, a'r rhai sydd ag arbenigedd wrth wella ac adfer natur

Cyflawni ein canlyniadau

Bydd yn rhaid i'ch cynnig gyflawni ein canlyniad gorfodol i 'ymgysylltu ag ystod ehangach o bobl mewn treftadaeth naturiol' ac o leiaf un canlyniad arall. Darllenwch fwy am ein canlyniadau a gweld y canllawiau atodol isod am fanylion.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth (fel carfan) gan ymgynghorwyr cofrestredig y Gronfa Treftadaeth. Byddant yn darparu cymorth mentora a chyngor wedi'i deilwra ar sail un i un/grŵp ar-lein i nodi cyfleoedd lle byddai grantiau gyda materion cyffredin yn elwa o ddysgu cyfoedion.

Yr hyn nad ydym yn chwilio amdano

Prosiectau natur neu gynigion i greu Lle i Fyd Natur. Os oes gennych brosiect o'r fath mewn golwg, edrychwch ar y meini prawf ar gyfer y Gronfa Cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur neu cysylltwch â natur@heritagefund.org.uk i ofyn am gyngor ar y ffordd orau ymlaen.

Mae'n bwysig eich bod chi'n meddwl sut bydd eich prosiect yn cwrdd â gofynion y cynllun grant yma. 

Mae'n rhaid i'ch prosiect:

  • gweithio gyda chymuned sy'n byw o fewn 30% o ardaloedd trefol/ar y gyrion mwyaf difreintiedig yng Nghymru AC sy'n cynyddu cyfraniad yn sylweddol at ystod ehangach o bobl mewn treftadaeth naturiol, gweithio gyda chymuned o ddiddordeb, yn enwedig cymunedau ethnig amrywiol, ffoaduriaid, Grwpiau cymunedol Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • NEU waith gyda chyfranogwyr blaenorol y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • cyd-greu rhaglen y dyfodol, gan gael gwared ar rwystrau i ymgysylltu
  • arwain at gynllun i greu lleoedd i fyd natur, wedi'u cynllunio a'u harwain gan gymunedau
  • galluogi cymryd rhan ar gyfer ystod ehangach o bobl: eu helpu i brofi a gwerthfawrogi natur, gan arwain at weithredu unigolion a chymunedol i ddiogelu a gwella natur
  • dangos manteision lluosog ychwanegol sy'n rhychwantu llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol

Ieithoedd cymunedol

Mae'n rhaid i chi ystyried y defnydd o iaith(ieithoedd) cymunedol ym mhob agwedd ar eich gwaith a dweud wrthym sut y byddwch yn hybu a chefnogi defnyddwyr ieithoedd cymunedol (fel y bo'n briodol i'ch cais) sy'n adlewyrchu natur ieithyddol y gymuned benodol.

Bydd angen i chi ddangos sut y byddwch yn cynnig darpariaeth o'r fath yn eich cyllideb prosiect ac yn cynllunio. Dylech gynnwys y gyllideb ar gyfer cyfieithu/cyfieithwyr o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau'r prosiect o'r ffurflen gais.

Yr Iaith Gymraeg

Mae'n rhaid i chi ystyried yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith a dweud wrthym sut y byddwch yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.

Bydd angen i chi ddangos sut y byddwch yn cynnig darpariaeth ddwyieithog yng nghyllideb eich prosiect a'ch cynllun. Dylech gynnwys y gyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau'r prosiect o'r ffurflen gais. Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i wneud hyn, cysylltwch â'n tîm cymorth i'r Gymraeg: cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk

Cydnabyddiaeth

If your application is successful, you will need to acknowledge that this is a Welsh Government grant, which is managed by the Heritage Fund. Tell us how you plan to do this. Some resources will be available to successful applicants.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd angen cydnabod mai grant o Lywodraeth Cymru ydyw, sy'n cael ei reoli gan y Gronfa Treftadaeth. Dywedwch wrthym sut rydych chi'n bwriadu gwneud hyn. Bydd rhai adnoddau ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus.

  • costau staffio gan gynnwys cyflogau a chyfraniad i bensiynau ayyb
  • hyfforddeiaethau/prentisiaethau/secondiadau
  • adferiad cost lawn i'ch sefydliad
  • gweithgareddau ymgysylltu a digwyddiadau gyda'r gymuned
  • cyfieithwyr a chyfieithu i ieithoedd cymunedol perthnasol
  • gwybodaeth/hyfforddiant digwyddiadau i aelodau'r gymuned gan gynnwys sgiliau digidol, er enghraifft  creu fideos ar gyfer safleoedd mynediad agored fel YouTube
  • digwyddiadau blasu i alluogi cymunedau i brofi manteision byd natur
  • eitemau traul ar gyfer digwyddiadau fel hadau, planhigion plwg, compost di-fawn, menig, potiau bio diraddiol, offer bach. Mae'n rhaid i unrhyw blygiau neu hadau blodau gwyllt fod yn rhywogaethau brodorol.
  • ymweliadau â Lleoedd Lleol  ar gyfer Natur sy'n bodoli eisoes yn eich ardal chi er mwyn dangos beth sy'n bosibl a rhannu syniadau/arbenigedd â'r sector treftadaeth
  • treuliau gwirfoddolwyr yn cynnwys costau teithio, gofal plant, bwyd a diod
  • cynllunio prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur posib yn eich ardal chi

Beth na allwch wario'r arian arno

  • prynu unrhyw eitemau cyfalaf (er enghraifft gliniaduron a ffonau)
  • datblygu 'Lle Lleol ar gyfer Natur' mewn gwirionedd - rhaid gwneud hyn drwy naill ai drwy gynnig pecynnau Cadwch Gymru'n Daclus ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur neu drwy'r cynllun grantiau cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar wahân

Does dim ffurflen gais pwrpasol ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau. Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus ochr yn ochr â'n canllawiau rheolaidd ac atebwch holl gwestiynau yn ein ceisiadau grant canolig (£10,000–£100,000). Mae canllawiau atodol pellach ar ddiwedd y ddogfen hon.

Camau ymgeisio

  1. Ewch i'n porth ymgeisio a chofrestru cyfrif. Sylwch: fe wnaethom lansio porth cais newydd ym mis Mehefin 2021. Bydd angen i unrhyw un a gofrestrodd ar ein porth cyn y dyddiad hwnnw ailgofrestru.
  2. O'r ddewislen, dewiswch £10,000–£100,000.
  3. Llenwch a chyflwynwch Ffurflen Ymholiadau Prosiect, er mwyn i chi gael adborth gennym ar eich prosiect cyn i chi gwblhau eich cais llawn. 
  4. Rhowch enw i'ch prosiect sy'n dechrau gyda #Natur3
  5. Pan fyddwch yn barod, llenwch a chyflwynwch gais llawn. 

Sut i ateb cwestiynau ffurflen gais

Bydd angen i chi ddefnyddio'r canllawiau hyn ochr yn ochr â'r nodiadau cymorth sy'n ymddangos wrth i chi gwblhau'r ffurflen gais. 

Bloc cyntaf ar y ffurflen gais

Teitl y prosiect

Dechreuwch deitl eich prosiect gydag #NATUR3 i'n helpu i adnabod eich cais yn gywir. Er enghraifft: #NATUR3TownhillNatureHeroes. Mae terfyn o 15 gair.

Yr ail floc ar y ffurflen gais "Cais"

Cyngor a dderbyniwyd wrth gynllunio'r prosiect

Soniwch am yr holl gyngor a dderbyniwyd. Gallai hyn gynnwys gyngor gan Gydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol, sefydliadau cymunedol perthnasol eraill yn eich bro a Chronfa Treftadaeth

Dyddiad y daw'r prosiect i ben

Ni all y dyddiad gorffen fod hwyrach na Mawrth 31 2024 fan bellaf.

Disgrifiwch eich prosiect

Mae hon yn adran allweddol yn eich cais a dylai gynnwys gwybodaeth fel:

  • lefelau amddifadedd
  • ystodau oedran nodweddiadol
  • lefelau cyflogaeth
  • amrywiaeth ethnig
  • mynediad lleol i fannau gwyrdd ac ati. 

Dylech ddweud wrthym pam y byddai Lleoedd Lleol ar gyfer Natur o fudd i'r cymunedau hynny. 

Os yw eich prosiect yn ymwneud â chymuned ddaearyddol, dylech gynnwys sgôr cyffredinol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer cyfeiriad y prosiect.

Defnyddiwch y ddolen waelod ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, a nodwch god post y prosiect. Dewch o hyd i'r sgôr canran ar gyfer y mesur cyffredinol o amddifadedd yn eich cyfeiriad prosiect a nodwch y ganran hon yn eich disgrifiad prosiect. 

Os yw eich cynnig yn cynnwys cymuned o ddiddordeb sy'n rhychwantu gwahanol leoliadau, rhowch god post eich prif ganolfan prosiect a disgrifiwch y gymuned o ddiddordeb. 

Disgrifiwch a helpwch ni i ddeall: 

  • Yr hyn rydych chi'n ei gredu yw'r rhwystrau i gymryd rhan yn eich cymuned benodol.
  • Sut bydd unigolion a chymunedau'n cael eu cefnogi i gymryd rhan.  
  • Sut bydd y gwaith a gynigir yn gwneud gwahaniaeth diriaethol i unigolion, cymunedau a'r amgylchedd naturiol. 
  • Beth yw cyflwr presennol yr amgylchedd naturiol yn eich ardal (os yw'n berthnasol) 
  • Pa newidiadau a allai fod yn bwysig i'ch cymuned a sut y byddwch chi'n effeithio ar ymgysylltu go iawn ac ystyrlon â'r gymuned. 
  • Sut byddwch yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau at y dyfodol yn cael eu 'perchnogi' a'u darparu ar gyfer y gymuned, gan y gymuned. 
  • Beth fyddwch chi'n gwario'r cyllid arno (yn gyffredinol). Mae lle ychwanegol ar gyfer cyllideb lawn yn ddiweddarach yn y ffurflen gais.  
  • Sut byddwch chi'n cynnwys yr iaith Gymraeg a/neu ieithoedd cymunedol o fewn eich prosiect.
Pa wahaniaeth fydd eich prosiect yn ei wneud?

Dywedwch wrthym sut rydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn newid agweddau unigol a chymunedol a dulliau o ymdrin â bywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol. Cyfeiriwch yn ôl at y meini prawf grant yn ôl y gofyn.

Beth sy'n digwydd ar ôl i'r prosiect ddod i ben?

Dylech gynnwys gwybodaeth am sut y gallech gynllunio i symud ymlaen ac effaith newid yn y dyfodol. Nodwch a oes gennych unrhyw gynlluniau i ddatblygu cais grant cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur neu wneud cais i unrhyw gyllidwyr eraill.

Pam mae angen i'r prosiect ddigwydd nawr?

Mae'r gronfa yma'n gystadleuol. Bydd angen i chi esbonio'r ffactorau ysgogol wrth wneud y cais hwn. Beth yw'r gymuned neu'r lleoliad sy'n gwneud hyn y peth iawn i'w wneud nawr? 

Er enghraifft, a oes pwysau datblygu penodol ar weddill darnau o ofod agored yn yr ardal? A yw'r gymuned wedi bod yn awyddus i wella eu hamgylchedd lleol ond heb ddigon o wybodaeth na sgiliau ar sut i symud ymlaen? 

Ydy'r dreftadaeth yn denu ymwelwyr?

Ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau yn y rhaglen hon yr ateb yr ydym yn disgwyl ei weld yw "Na". Ni fydd cwestiynau dilynol yn berthnasol ac ni fydd ateb "Na" yn niweidio eich cais beth bynnag.

Sut fyddwch chi'n cydnabod eich grant

Bydd angen i chi gydnabod hefyd mai grant gan Lywodraeth Cymru yw hwn a defnyddio eu logo ac unrhyw ddeunyddiau brandio eraill a ddaw ar gael. Mae hefyd angen i chi gydnabod y Gronfa Treftadaeth.

Cofiwch gynnwys manylion sut rydych yn bwriadu cydnabod y grantiau hyn mewn fformatau printiedig a digidol, gwefannau, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd cymunedol perthnasol. Gall unrhyw gostau sy'n ymwneud â chyfieithu gael eu cynnwys yn eich cyllideb. 

A yw'r prosiect hwn yn cynnwys caffaeliad?

Atebwch "Na". Ni allwn ariannu caffaeliadau drwy'r rhaglen hon.

Mewn risg

Darllenwch y nodyn ar hyn fel "A yw natur (cynefinoedd a rhywogaethau) yn eich ardal leol mewn perygl?". Byddem yn disgwyl i'r ateb hwn fod yn "Ydy"

A fydd y prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf?

Atebwch "Na". Cronfa refeniw yn unig yw hon ac ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith cyfalaf.

Dylid ateb cwestiynau pellach ar gyfalaf fel "Na" neu "Ddim yn berthnasol". Os oes angen cyllid cyfalaf arnoch efallai y byddwch yn dymuno edrych ar y meini prawf grantiau ar gyfer y Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. 

Dynodi treftadaeth

Gadewch yr adran hon yn wag

Canlyniadau prosiect

Dylai eich prosiect gyflawni'r canlyniad gorfodol 'bydd ystod ehangach o bobl yn rhan o dreftadaeth' ac o leiaf un canlyniad arall:

  • Bydd amrywiaeth ehangach o bobl yn rhan o dreftadaeth. Sylwer am y grantiau hyn rydym yn golygu 'sy'n ymwneud â'n tirweddau a'n natur'. Dylech ddweud wrthym sut y byddwch yn gweithio gyda chymunedau ethnig amrywiol, ffoaduriaid, grwpiau cymunedol Sipsiwn, Roma a Theithwyr a/neu gymunedau sydd wedi'u heithrio a chymunedau difreintiedig mewn ardaloedd difreintiedig, nad ydynt yn cyrchu arian Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar hyn o bryd i nodi rhwystrau a chyd-greu atebion  
  • Treftadaeth (Natur/Tirwedd) yn cael ei adnabod a gwell esboniad drostynt
  • Bydd pobl wedi dysgu am dreftadaeth (tirwedd a natur), gan arwain at newid syniadau a gweithredu 
  • Bydd treftadaeth mewn cyflwr gwell. Sylwch nad ydym yn disgwyl gweld gwelliant uniongyrchol o fewn amserlen y prosiect ond dylai prosiectau sy'n cael eu hariannu alluogi'r canlyniad hwn i'w gyflawni yn y dyfodol. 
  • Am gymorth technegol neu gymorth gyda hygyrchedd, cysylltwch â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid drwy e-bost: enquire@heritagefund.org.uk.
  • I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â hygyrchedd ein ffurflen gais i fynegi diddordeb, edrychwch ar ein Datganiad Hygyrchedd.
  • Ar gyfer ymholiadau penodol am y rhaglen, cysylltwch â natur@heritagefund.org.uk.
  • Mae canllaw Derbyn grant o £10,000 i £100,000: yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud os ydych chi'n llwyddiannus ac mae gennych fwy o fanylion am ein gofynion. Nodwch y bydd y rhain yn newid fymryn ar gyfer y rhaglen hon.
  • Telerau safonol y grant £10,000 i £100,000: yn amlinellu telerau ein grantiau. Nodwch y bydd y rhain yn newid fymryn ar gyfer y rhaglen hon.
  • Canllawiau arferion da: cyngor ar amrywiaeth o bynciau i'ch helpu i gyflawni prosiect o ansawdd uchel.
  • Canllawiau natur a thirweddau: help i ddylunio a chyflwyno prosiectau.
  • Templed Cynllun Prosiect: mae'n rhaid i bob cais gyflwyno cynllun prosiect. Argymhellir y templed ar gyfer £100,000-£250,000 ar gyfer pob prosiect Chwalu Rhwystrau dros £100,000, ond efallai y byddwch yn creu eich dewis eich hun os byddai'n well gennych.

Data

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut bydd eich data yn cael eu prosesu dan y rhaglen grant hon, darllenwch ein polisi preifatrwydd.

Rydym yn deall y gallech gael eich siomi â phenderfyniad. Does dim hawl apelio nac ail-wneud cais am Leoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau. Gallwn ond adolygu ein penderfyniad os gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol ynglŷn â'r ffordd yr ydym wedi delio gyda'ch cais.

Mae gennym broses gwyno dau gam ar gyfer y gronfa hon. Dim ond os gallwch ddangos hynny y byddwn yn gallu ystyried ac ymchwilio i'r gwyn:

  • ni wnaethom ddilyn y gweithdrefnau cyhoeddedig ar gyfer asesu eich cais
  • rydym wedi camddeall rhan sylweddol o'ch cais
  • ni wnaethom gymryd sylw o wybodaeth berthnasol

Mae'n rhaid gwneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn penderfyniad eich cais. Mae'n rhaid i chi anfon eich cwyn at: enquire@heritagefund.org.uk. Ein nod yw cydnabod eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith.

Bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu i ddechrau gan un o'n Cyfarwyddwyr Gwlad ac Ardal, sy'n annibynnol o argymhelliad a phaneli penderfynu ar gyfer y gronfa hon.

Ein nod yw cyfleu penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith o'r adeg y gwnaethoch gyflwyno eich cwyn.

Am gymorth, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 020 7591 6044 neu e-bostiwch enquire@heritagefund.org.uk.

Newidiadau i'r canllaw yma

Byddwn yn adolygu'r canllawiau hyn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth y defnyddiwr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau yn ôl y gofyn. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.