Tirweddau, parciau a natur

Tirweddau, parciau a natur

Pobl yn tirlunio yn yr Ardd Japaneaidd yn Cowden, yr Alban
Pobl yn tirlunio yn yr Ardd Japaneaidd yn Cowden, yr Alban. Credyd: Devlin Photo Ltd
Ni fu erioed mor hanfodol gofalu am fyd natur a helpu pobl i ddeall ei bwysigrwydd.

Ers 1994, rydym wedi dyfarnu £2biliwn i 4,700 o brosiectau tir, natur a bioamrywiaeth ar draws y DU.

Diogelu'r amgylchedd yw un o'n pedair egwyddor fuddsoddi Treftadaeth 2033.

Rydym yn blaenoriaethu prosiectau tirwedd a natur sy'n:

  • cefnogi adferiad byd natur
  • cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar fyd natur i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
  • ailgysylltu pobl â thirweddau, amgylcheddau morol a byd natur

Yr argyfwng hinsawdd

Mae gan y sector treftadaeth rôl bwysig i'w chwarae o ran gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr a thaclo newid yn yr hinsawdd. Darganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud i daclo’r argyfwng hinsawdd.

Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn

Rydym eisiau i bob math o brosiectau treftadaeth, mawr a bach:

  • gyfyngu ar unrhyw niwed posib i'r amgylchedd
  • cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn enwedig ar fyd natur

Darllen ein harweiniad cynaladwyedd amgylcheddol.

Sut i gael eich ariannu

Mwy o wybodaeth

Darganfod pa brosiectau a ariannwn, a'r hyn y gallech chi ei wneud gyda'n buddsoddiad i helpu amddiffyn ein byd naturiol.
 

Butterfly

Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n gwarchod ac yn gwella cynefinoedd ac yn diogelu rhywogaethau gwerthfawr y DU.

Romney Marsh

Disgwyliwn i brosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol a wynebir gan dirweddau a natur y DU.

Green roof of cafe

Mae parciau cyhoeddus yn wynebu gostyngiad difrifol mewn cyllid gan awdurdodau lleol. Dyma sut y gallwn helpu eich parciau a mannau gwyrdd trefol.

Mae'r DU yn fyd-enwog am ei chyfoeth o barciau a gerddi hanesyddol. Dyma sut y gall ein cyllid helpu i ofalu amdanynt.

Hedgehog drawing
An #IsolationCreation project

Straeon

Sut i fwynhau treftadaeth o'r cartref

Rydyn ni wedi llunio rhestr o weithgareddau wedi'u hysbrydoli gan dreftadaeth y gallwch chi eu gwneud o gartref – byddwn ni'n diweddaru'r rhestr, felly daliwch ati i chwilio am bethau newydd.
Cows in the fog at Avalon Marshes

Straeon

Cyhoeddi diwrnod #TrysorauTreftadaeth 2020

Wrth inni gyrraedd degawd newydd, rydym yn falch o edrych yn ôl ar y 25 mlynedd diwethaf o gefnogi treftadaeth. Edrychwn ymlaen hefyd at y dyfodol a sut y gallwn barhau i gefnogi a gwarchod ein treftadaeth mewn byd cyfoes. Ers 1994, rydym wedi cefnogi 44,000 o brosiectau ac wedi rhoi £8biliwn i