Hero Image Caption
Outreach with a Porpoise

Pwrpas i brosiect llamhidyddion

Pwrpas i brosiect llamhidyddion

Porpoise

National Lottery Grants for Heritage – £10,000 to £250,000

Gwdig, Sîr Benfro
Sîr Benfro
Sea Trust CIC
£24600
Mae prosiect Outreach with a Porpoise wedi derbyn nawdd o £24,600 i godi ymwybyddiaeth o lamhidyddion harbwr a bywyd môr yn nê Sîr Benfro.

Mae’r People’s Porpoise Project yn rhaglen arloesol adnadod llamhidyddion, sydd wedi ei leoli yng nhref Gwdig ac yn cael ei redeg gan y cwmni budd cymundeol Sea Trust CIC. Mae’n casglu data am y boblogaeth o’r mamal morol yn lleol ac mae hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer reoli cadwraeth.

Cafodd y rhaglen nawdd o £24,600 trwy ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn sefydlu’r rhaglen addysgiadol a chodi ymwybyddiaeth Outreach with a Porpoise.  Bwriad y prosiect ydi ysbrydoli a chreu brwdfrydedd ymysg pobl leol am gadwraeth eu bywyd morol a’u hannog i wirfoddoli fel gwylwyr llamhidyddion.

Cefnogi bywyd morol a'r gymuned leol

A mae hwn wedi cael effaith bositif ar les a iechyd meddyliol nifer o bobl leol a fu’n dioddef o ynysu cymdeithasol yn ystod y pandemig a heb fod allu cysylltu gyda natur.  

Sea Trust team at an outreach event

Mae plant ysgol hefyd wedi cael cyfle i ddysgu am effaith andwyol plastig ar fywyd morol a bywyd natur mewn gweithdai yn cael eu rhedeg ar y cyd gyda Whale Workshop, lle y defnyddir modelau chwyddadwy maint llawn o forfilod, dolffiniaid a llamhidyddion.

Ac mae’r cyrsiau hyfforddiant achredig sydd yn cael eu rhedeg gan y prosiect wedi rhoi cyfle bobl leol gymryd eu camau cyntaf tuag at ddilyn gyrfaoedd gwaith cadwraeth.