Ymunwch â ni i wneud eich #AddunedByd yr wythnos hon

Ymunwch â ni i wneud eich #AddunedByd yr wythnos hon

Young girl holding an oyster
The CROMACH oyster restoration project. Photo: Lochvision
O ail-gylchu i ddiffodd eich sgrîn gyda’r nos i ddefnyddio compost di-fawn, mae pob addewid yn bwysig ac yn gwneud gwahaniaeth.

O heddiw (dydd Llun 19 Ebrill) tan ddydd Gwener,  mae'r Loteri Genedlaethol yn ein hannog i rannu #AddewidByd ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymrwymo i achub y blaned. 

Mae'r ymgyrch sydd yn cael ei arwain i ni gan y naturiaethwr, ymgyrchydd amgylcheddol a chyflwynwr teledu Chris Packham yn edrych ar sut y gallom gydweithio i achub yr amglychedd. 

"Maen rhaid i ni newid ein ymddygiad heddiw os yr ydym am wneud y dyfodol yn le gwyrddach a gwell ar gyfer cenhedloedd i ddod”

Chris Packham, naturiaethwr, ymgyrchydd amgylcheddol a chyflwynydd teledu

Ers 2011, mae'r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi mwy na £2.2 biliwn mewn mentrau gwyrdd diolch i arian sydd wedi cael ei godi gan chwaraewyr. Mae'r prosiectau rhain wedi cynnwys grwpiau cymunedol sydd yn gwarchod cynefinoedd naturiol a gwaith celf sydd yn addysgu pobl ifanc am newid hinsawdd. 

Meddai Chris Packham: “Mae'r Loteri Genedlaethol wedi darparu swm anferthol o nawdd i ariannu prosiectau cymunedol i fynd i'r afael a newid hinsawdd ar lefel leol. Maen rhaid i ni newid ein ymddygiad heddiw os yr ydym am wneud y dyfodol yn le gwyrddach a gwell ar gyfer cenhedloedd i ddod."

Family birdwatching
Gwarchodfa Natur Minsmere 

Amser i newid ein harferion

Rydym yn galw arnoch i rannu ei #AddunedByd wrth i waith ymchwil newydd ddangos bod 7 o bob 10 ohonom yn teimlo nad ydym yn gwnedu digon i warchod yr amgylchedd. 

Mae'r pandemig a sgil effeithiau y cloi mawr wedi gwneud y sefyllfa yn waeth gyda 73% o'r rheini y'i cwesitynwyd yn adrodd eu bod nhw'n defnyddio mwy o drydan wrth wylio mwy o deledu a denyddio chyfrifiaduron a mae 34% yn dweud eu bod nhw'n defnyddio mwy o wresogi yn ystod y dydd nac erioed o'r blaen.

Ond mae'r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod nifer ohonom yn bwriadu newid ein arferion pan ddoith y clo mawr i ben ac y bydd hyn o les i'r amgylchedd. Mae 40% ohonom yn dweud ein bod am gerdded  yn fwy aml a mae 27% ohonom yn addo teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru car a chymryd gwyliau yn lleol. 

Ein haddewid

Dyma ein Rheolwr Newid Hinsawdd, Jo Robinson-Cheale, yn trafod ein #AddunedByd a’r ysbrydoliaeth rydym yn ei gael gan y prosiectau rydym yn gweithio gyda nhw: 

Sut i ymuno a gwneud gwahaniaeth

Os rydych chi'n gorff neu brosiect sydd wedi ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol gawllch chi gymryd rhan drwy wneud addewid ar y cyfryngau cymdeithasol:

  • Rhannwnch addweid unigol megis cymryd potel ddŵr y gellir ei hail lenwi gyda chi fel nad oes angen i chi brynu potel blastig.

Neu

  • Rhannwch addewid ar ran eich sefydliad megis defnyddio bin compost ar gyfer eich gwastraff bwyd. 

Cofiwch:

Cub Scouts helping out with the Golden Eagles project
Sgowtiaid yn helpu gyda'r prosiect Eryrod Aur 

Ein ymrwymiad i'r amgylchedd 

Credwn fod gan y sector dreftadaeth rôl bwysig i’w chwarae wrth leiau allyriadau carbon a thaclo newid hinsawdd. Rydym wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth trwy ein ariannu a rhannu adnoddau ac arferion da.

Dyma pam mae rhaid i bob corff rydym yn ei ariannu ddangos eu hymrwymiad i gynnwys cynaliadwedd tymor hir yn eu cynlluniau.

Dyma ragor o wybodaeth am ein adnoddau amgylcheddol, gwaith ymchwil a'r prosiectau rydym yn eu cefnogi.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...