Chris Packham a Jamal Edwards yn dathlu 25 o ariannu natur

Chris Packham a Jamal Edwards yn dathlu 25 o ariannu natur

Chris Packham and Jamal Edwards crossing their fingers like the National Lottery logo
Mae’r arbenigwr bywyd gwyllt Chris Packham a sefydlydd SB.TV, Jamal Edwards MBE wedi dod ynghyd i ddathlu 25 mlynedd o fuddsoddiad y Loteri Genedlaethol mewn treftadaeth naturiol.

Ariannu cadwraeth ledled y DU

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae'r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £829miliwn i gadwraeth treftadaeth naturiol ledled y DU, er mwyn helpu i ddiogelu a gwarchod bywyd gwyllt.

Mae hyn yn cynnwys:

  • £548m ar brosiectau bioamrywiaeth

  • £227m yn cefnogi tirweddau pwysig a hanesyddol

  • mwy na 70,000 hectar o gaffael tir

Yn ogystal, gwariwyd dros £900m yn adfywio mwy na 900 o barciau cyhoeddus.

"Efallai, heb ei sylweddoli hyd yn oed, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu'n aruthrol at fywyd gwyllt, rhywogaethau a mannau gwyrdd cyfoethog y DU.”

- Chris Packham, arbenigwr bywyd gwyllt

Ymhlith llwyddiannau bywyd gwyllt nodedig mae adferiad adar y môr ar Ynysoedd Sili, gwiwerod coch yn dychwelyd yng Ngogledd Iwerddon ac ailgyflwyno Pili Pala brith yng nghoedwig Rockingham.

Diolch i gyllid gan y Loteri Genedlaethol, mae tair o brif elusennau bywyd gwyllt y DU - yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Coed Cadw a'r RSPB - wedi gallu cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gadw a diogelu natur.

Gwyliwch Chris Packham a Jamal Edwards yn adeiladu gwesty trychfilod yn nhiroedd gwlybion Woodberry a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn Llundain:

Trawsgrifiad fideo

 

Sut mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi helpu

Chris Packham, Jamal Edwards and others look inside bug hotel
Creu gwesty trychfilod yn nhiroedd gwlybion Woodberry]

 

Dywedodd Chris Packham, sy'n cael seibiant o wneud y breswylfa pryfed genwair:

“Fel Is-Lywydd yr RSPB, gwelaf drosof fy hun y fantais y mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn ei chael ar warchod cynefinoedd naturiol – nid yn unig drwy gefnogi adar ond hefyd drwy ddiogelu anifeiliaid a phryfed, creu parciau newydd a chynyddu gwyrddni trefol”

"Efallai, heb sylweddoli hyd yn oed, fod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu'n aruthrol at fywyd gwyllt, rhywogaethau a mannau gwyrdd cyfoethog y DU.”

Yn ogystal ag adfer ac agor mannau fel tiroedd gwlybion Woodberry, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi helpu i gefnogi anifeiliaid, pryfed, blodau a choed sydd mewn perygl. Mae rhywogaethau fel ystlumod, draenogod, siarcod basddwr, gwiwerod coch, martens pinwydd, llygod dŵr, grugieir a'r wenynen fawr felen wedi elwa.

“Mae pobl ifanc yn fwy ymwybodol nag erioed o'u heffaith ar y byd naturiol o'u cwmpas, gan gynnwys fy hun - felly yr wyf yn teimlo'n angerddol ynghylch troi hynny'n weithredu gwirioneddol." 

- Jamal Edwards MBE, sefydlydd SB.TV

Mae arian gan y Loteri Genedlaethol hefyd wedi helpu prosiectau i gadw rhai o'n mannau agored a'n harfordir pwysicaf ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys coetiroedd, gwlyptiroedd a dolydd, twyni tywod sydd mewn perygl, corsydd mawn dan fygythiad a chynefinoedd ucheldir sydd wedi erydu.

Dywedodd Jamal Edwards: "Mae pobl ifanc yn fwy ymwybodol nag erioed o'u heffaith ar y byd naturiol o'u hamgylch, gan gynnwys fi fy hun – felly rwy'n teimlo'n angerddol am droi hynny'n weithredu go iawn."

Chris Packham and Jamal Edwards
Chris Packham a Jamal Edwards 

 

"Rwyf wedi dysgu llawer gan Chris heddiw, ac o'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Coed Cadw a'r RSPB, am sut y gallwn greu newid ein hunain. Rwyf hefyd wedi rhyfeddu i ddarganfod faint o arian sy'n mynd i'r sefydliadau gwych hyn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol."

 "Wnes i erioed feddwl y gallai prynu tocyn Loteri Genedlaethol hefyd fynd tuag at arbed rhywogaeth neu helpu i warchod natur yn y DU."

10 cyngor a ffyrdd hawdd o gefnogi natur

Fodd bynnag, mae bywyd gwyllt yn wynebu pwysau cynyddol ac mae angen gwneud mwy eto.

Mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Coed Cadw a'r RSPB wedi ymuno â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i lansio 10 cyngor a ffyrdd hawdd i bobl o bob cefndir i chwarae eu rhan i gadw a chefnogi bywyd gwyllt.

25 mlynedd o ariannu treftadaeth

Dros y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fu'r cyllidwr grant penodedig mwyaf o ran treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...