25 mlynedd o gariad y Loteri Genedlaethol i'r awyr agored yn y DU

25 mlynedd o gariad y Loteri Genedlaethol i'r awyr agored yn y DU

Rowing at Fell Foot
Mae 25 o anturiaethau awyr agored anhygoel wedi’u cynnwys mewn canllaw newydd i ddathlu pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 oed. I ble fyddwch chi’n mynd?

Ers 1994, mae mwy na £550miliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i fuddsoddi mewn mwy na 9,220 o brosiectau natur, gan sicrhau bod lleoedd gwyllt arbennig y DU yn cael eu diogelu, eu bod yn llawn bywyd ac yn agored i bobl ledled y wlad.

“Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu cymaint at dirweddau rhyfeddol ac amrywiol y DU."

-Helen Skelton, cyflwynwraig Countryfile

Canllaw Awyr Agored newydd sbon

Mae Canllaw y Loteri Genedlaethol i 25 o Anturiaethau Awyr Agored Anhygoel wedi cael ei ryddhau heddiw i ddathlu'r 25 mlynedd o gariad tuag at yr awyr agored ysblennydd yma yn y DU.

People walking along Loch Lomond
Loch Lomond, Yr Alban

 

Mae'n amlygu amrywiaeth o weithgareddau awyr agored mewn 25 o leoliadau ysblennydd, o arfordiroedd garw a llwybrau mynyddig i warchodfeydd natur, parciau a choedwigoedd ysblennydd.

Gyda'i gilydd, mae'r prosiectau yn y canllaw wedi derbyn mwy na £59miliwn o fuddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol.

“Dim ond crafu’r wyneb rydym ni gyda’r 25 lle yma i ymweld – rydym wedi ariannu miloedd o brosiectau sy'n gwarchod ein tirweddau, ein parciau a'n mannau gwyrdd"

- Drew Bennellick, Pennaeth Tirweddau a Natur ar gyfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Darganfod eich antur nesaf

Yn ddiweddar, dringodd cyflwynydd Countryfile, Helen Skelton, i gopa Ben Nevis, copa uchaf yn y DU ac un o'r lleoliadau yn y canllaw:

Trawsgrifiad fideo

Dywedodd: "Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu cymaint at dirweddau rhyfeddol ac amrywiol y DU."

"Rwy'n gefnogwr mawr i bobl sy'n profi'r awyr agored drostynt eu hunain. Gobeithio y bydd Canllaw y Loteri Genedlaethol i 25 o Anturiaethau Awyr Agored Anhygoel yn ysbrydoli pobl i ddarganfod eu antur nesaf."

Gofalu am ein tirweddau gwerthfawr

Meddai Drew Bennellick, Pennaeth Tirweddau a Natur Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae gofalu am ein tirweddau ac ailgysylltu pobl â byd natur wedi bod yn bwysicach nag erioed."

Cycling on Bay Cycle Way
Bay Cycle Way, Bae Morecambe, Swydd Gaerhirfryn

 

"Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae arian y Loteri Genedlaethol wedi cael effaith anhygoel ar ein treftadaeth naturiol ac wedi agor cymaint o gyfleoedd i bobl gael mynediad i'r awyr agored."

"Dim ond crafu’r wyneb rydym ni gyda’r 25 lle yma i ymweld – rydym wedi ariannu miloedd o brosiectau sy'n gwarchod ein tirweddau, ein parciau a'n mannau gwyrdd ac yn helpu pobl i fwynhau'r awyr agored – gyda'r holl fanteision o ran iechyd a llesiant."

Pori drwy’r canllaw

Mae Canllaw y Loteri Genedlaethol i 25 o Anturiaethau Awyr Agored Anhygoel ar gael yn www.nationallotterygreatoutdoors25.co.uk.

People walking in forest
Coedwig Hainault, Llundain

 

25 mlynedd o ariannu treftadaeth

Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fu'r cyllidwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8biliwn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...