Dechrau’r dathliadau: Y Loteri Genedlaethol yn 25 oed

Dechrau’r dathliadau: Y Loteri Genedlaethol yn 25 oed

David Mach’s new artwork, ‘United By Numbers: The National Lottery at 25’
Mae heddiw yn nodi dechrau chwe wythnos o ddathliadau ar gyfer penblwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 oed.

I danio’r dathliadau, mae darn newydd o gelfyddyd fodern gan yr arlunydd byd-enwog, David Mach RA, yn cael ei ddadorchuddio mewn lleoliad annhebygol. 

Mae cyfansoddiad Mach, United By Numbers: The National Lottery at 25, yn cael ei arddangos am un diwrnod yn ffenestr Booth & Howarth ar Mauldeth Road, Manceinion. Mae'r siop papurau newydd wedi bod yn gwerthu tocynnau'r Loteri Genedlaethol am 25 mlynedd.

David Mach’s new artwork, ‘United By Numbers: The National Lottery at 25’
Gwaith celf David Mach United By Numbers: The National Lottery at 25

 

Mae'r gwaith celf yn cynnwys cymysgedd o drysorau cenedlaethol enwog a llai adnabyddus gan gynnwys pobl, lleoedd, prosiectau ac eiconau sydd wedi bod yn rhan o bethau eithriadol a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol. 

O Fand Pres Morecambe, un o'r prosiectau cyntaf i dderbyn arian y Loteri Genedlaethol erioed, i Betty Webb,  a datryswr codau ail ryfel byd o Barc Bletchley, mae'r llinell drawiadol wedi'i gosod yng nghyd-destun lleoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol gan gynnwys Jodrell Bank a'r Giant's Causeway, a gyfansoddwyd yn arddull David Mach.

Mae un peth yn gyffredin i bob un o'r unigolion a'r lleoedd hyn: mae'r Loteri Genedlaethol wedi effeithio'n gadarnhaol ar bob un ohonynt dros y 25 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Betty Webb: "Mae'n fraint cael bod yn rhan o'r dathliad arbennig yma ac ymddangos yn y ddelwedd wych yma. Mae Parc Bletchley yn rhan allweddol o'n treftadaeth, ac mae'r Loteri Genedlaethol wedi helpu'n aruthrol i sicrhau bod modd ei fwynhau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dull yr artist

artist David Mach
Yr artist David Mach

 

Wrth fyfyrio ar yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei ddarn newydd, dywedodd David Mach: "Am y 25 mlynedd diwethaf, prin iawn yw'r rhan o'n bywyd diwylliannol, chwaraeon a chymunedol nad yw cyllid y Loteri Genedlaethol wedi dylanwadu'n gadarnhaol arni.

"Roeddwn i am helpu pobl i gael syniad o'r effaith yma gyda'r gwaith celf hwn drwy 25 o storïau, ac mae cael ei ddangos ar stryd fawr leol i unrhyw un ei weld yn addas."

Allwedd i’r ddelwedd

Key to David Mach’s new artwork, ‘United By Numbers: The National Lottery at 25’

 

  1. The Kelpies: Dyluniwyd cerfluniau ceffylau mwyaf y byd ym Mharc Helix Falkirk gan Andy Scott. Mae Kelpies wedi cael cyllid gwerth £25miliwn gan y Loteri Genedlaethol.
  2. Katarina Johnson-Thompson a Dina Asher-Smith: enillwyr medalau aur i Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd, ac mae'r ddau wedi cael arian gan y Loteri Genedlaethol yn ystod eu gyrfaoedd.
  3. Courtney Cooper: Mae Cooper o glwb bocsio Monkstown yng Ngogledd Iwerddon, y mae ei #INYOURCORNER prosiect yn helpu i wella iechyd, lles a chyflogadwyedd pobl ifanc yn yr ardal. Mae prosiect InYourCorner wedi cael bron i £600,000 o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
  4. Y Fonesig Tanni Grey-Thompson: Derbyniodd un o'r athletwyr gorau mewn hanes ac enillydd 11 medal aur Paralympaidd arian y Loteri Genedlaethol yn ystod ei gyrfa.
  5. Prosiect Dementia Dogs: Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cefnogi'r Dementia Dogs Project, sy'n helpu'r rhai sy'n gofalu am anwyliaid gyda dementia yn y cyfnod cynnar drwy ddarparu cŵn cymorth yn yr Alban. Mae Cŵn Dementia wedi derbyn £314,000 o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
  6. The Hendrix Flat: Adferwyd fflat y gitarydd roc chwedlonol yn 23 Brook Street, Llundain diolch i £1.2 miliwn o gyllid gan y Loteri Genedlaethol yn 2014.
  7. James Nesbitt: Seren y ffilm Bloody Sunday, noddwr WAVE Trauma, Action Cancer, a chwmni Big Telly Company; a Changhellor Prifysgol Ulster – y cyfan wedi derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol.
  8. Syr Chris Hoy a Victoria Pendleton: Athletwyr Olympaidd a enillodd fedal aur, a arweiniodd eu gyrfaoedd yn Llundain 2012. Y gemau na fyddai wedi bod yn bosibl heb arian gan y Loteri Genedlaethol.
  9. Seindorf Arian Morecambe: Un o'r prosiectau cyntaf erioed i dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol. Sefydlwyd y band gan Bernard Vause ac mae’r band yn parhau i fod yn llwyddiannus. Derbyniodd Band Pres Morecambe £47,566 trwy'r Loteri Genedlaethol – ac maen nhw'n dal i chwarae gyda'r 24 o offerynnau pres a brynwyd ganddyn nhw gyda'r arian hwnnw.
  10. Syr Tim Smit: Sylfaenydd y prosiect poblogaidd Eden a The Big Lunch, a wnaed yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Prosiect Eden wedi cael £60m o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
  11. Giant’s Causeway: Buddsoddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol £3m mewn adeiladu canolfan ymwelwyr yn y Giant's Causeway, gan ddarparu golygfa brydferth o dirwedd Arfordir y Gogledd.  
  12. Ray a Barbara Wragg: Ar ôl ennill £7.6miliwn ar y Loteri Genedlaethol, mae Ray a Barbara Wragg yn rhai o'r enillwyr mwyaf hael ar ôl rhoi £5.5miliwn, yn bennaf i elusennau yn Sheffield.
  13. We’re Here Because We’re Here soldiers (hefyd ar y dde): Roedd We’re Here Because We’re Here, gan Jeremy Deller, yn un rhan yn unig o raglen ddiwylliannol ar raddfa fawr yn nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Buddsoddodd y Loteri Genedlaethol £15m dros bum mlynedd yn y rhaglen hon.
  14. Tracey Emin: Arddangoswyd gwaith celf Emin mewn orielau cenedlaethol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ledled y wlad, gan gynnwys Oriel Gelf Gyfoes Turner yn ei thref enedigol, Margate.
  15. Gurinder Chadha: Y cyfarwyddwr ffilm o Loegr a oedd y tu ôl i Bend it Like Beckham sy'n serennu Keira Knightley yw un o’r enghreifftiau o ffilmiau sydd wedi derbyn £945,000 o arian gan y Loteri Genedlaethol drwy'r BFI.
  16. Jodrell Bank: Gyda chymorth y Loteri Genedlaethol, mae'r First Light Project yn diogelu treftadaeth Bank Jodrell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, diolch i’r £12.1 m o'r arian gan y Loteri Genedlaethol.
  17. Edna Smith: Gwirfoddolwr am 15 mlynedd gydag elusen Home-Start, sydd wedi derbyn mwy na £1m o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol. Mae Edna wedi helpu cannoedd o deuluoedd i wella o iselder ôl-enedigol.
  18. Ewan McGregor: Actor a ymddangosodd yn T2: Trainspotting, un o'r cynyrchiadau cyntaf i elwa ar Gronfa Twf Cynhyrchiant Creative Scotland o £500,000, gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol.
  19. Rio Ferdinand: Pyndit a chyn-bêl-droediwr Lloegr, mae Sefydliad Rio Ferdinand, sy'n bodoli i helpu i fynd i'r afael â materion cymdeithasol, wedi derbyn £668,000 o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
  20. Suffragettes: Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cefnogi prosiectau ar hyd a lled y wlad yn archwilio hanes mudiad y swffragét, gan gynnwys y ffilm 2015, Suffragette (£1m); Y gwaith celf The Face of Suffrage a phrosiect Suffragettes yr East End.
  21. Idris Elba: Actor, awdur a chynhyrchydd arobryn. Gyda chymorth £1m o arian y Loteri Genedlaethol, cyfarwyddodd am y tro cyntaf yn 2018 gyda Yardie.
  22. Betty Webb: Mae Betty yn gyn-filwr 96 mlwydd oed o Barc Bletchley. Yn 2011, helpodd y Loteri Genedlaethol i adfer y cytiau a oedd yn pydru a lle'r oedd Betty a’r datryswyr codau eraill yn gweithio. Mae Parc Bletchley wedi derbyn £5m o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
  23. Stadiwm y Principality: Cyn Cwpan Rygbi'r Byd 1999, sicrhawyd £46m o arian y Loteri Genedlaethol i adeiladu’r stadiwm eiconig yng Nghaerdydd.
  24. Paul Sinton-Hewitt: Sefydlydd parkrun, mae'r pum cilometr wythnosol am ddim yn yn agored i bawb a fwynhawyd gan fwy na £2miliwn o bobl ledled y DU. Mae Parkrun wedi cael dros £3m o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
  25. Krystal Lowe: Dawnsiwr i Ballet Cymru, a dderbyniodd tua £930,000 o gyllid gan y Loteri Genedlaethol er mwyn eu galluogi i ehangu eu gwaith allgymorth gyda chymunedau lleol.

Mwy i ddod

Dros y chwe wythnos nesaf, o 14 Hydref – 6 Rhagfyr, bydd y Loteri Genedlaethol yn dadorchuddio amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau am ddim i'r DU gyfan eu mwynhau.

Dathlwch gyda ni y gwahaniaeth anhygoel y mae'r Loteri Genedlaethol wedi ei wneud drwy edrych yn fanylach ar sut y mae £8biliwn o gyllid ar gyfer treftadaeth wedi newid bywydau pobl ac wedi gwneud cymunedau yn lleoedd gwell i fyw ynddyn nhw.

25 mlynedd o ariannu treftadaeth

Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...