25 mlynedd: adfer ffyniant a balchder ym Mlaenafon

25 mlynedd: adfer ffyniant a balchder ym Mlaenafon

Three miners
Mewn cyfres newydd i ddathlu pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 oed, rydym yn archwilio sut mae ei buddsoddiad mewn treftadaeth wedi trawsnewid chwe lle ar draws y DU.

Blaenafon: cymuned ailenedig

Wedi’i leoli’n uchel ym mlaenau cwm Afon Lwyd yn ne Cymru, mae Blaenafon yn gymuned sydd wedi'i meithrin o wres, mwg a llwch y chwyldro diwydiannol.

Roedd ei waith haearn a'r pwll glo yn darparu cyflogaeth i'r rhan fwyaf o drigolion y dref tan 1980. Roedd siopau'r dref, eglwysi, capeli, ysgolion a neuadd y gweithwyr yn fwrlwm o weithgarwch ar un adeg.

Roedd gan 20,000 o bobl Blaenafon ymdeimlad dwfn o gymuned - yn falch o'r rôl a chwaraeodd y gornel fach yma o’r byd ar y llwyfan rhyngwladol, yn cyflenwi glo i bedwar ban y byd.

Ond erbyn troad yr 21ain ganrif, roedd y Blaenafon llewyrchus yma wedi llwyr diflannu. 

Cymued ar chwâl

Peidiodd y gwaith haearn â chynhyrchu yn 1904, a ddechreuodd arafu economi'r ardal. Fodd bynnag, yn dilyn cau'r Pwll Mawr yn 1980, collodd Blaenafon ei bwrpas a dechreuodd ddirywio'n gyflym.

Erbyn 2000, roedd tua 75 y cant o adeiladau’r dref wedi'u bordio, roedd ei phoblogaeth wedi mwy na haneru i 6,000, ac roedd ei hymdeimlad o gymuned ar chwâl.

Nid oedd llawer o obaith i ddyfodol y pwerdy un-tro hwn.

Treftadaeth: yn gatalydd ar gyfer newid

Roedd y flwyddyn 2000 yn drobwynt sylweddol i Flaenafon. Dynodwyd ei dirwedd ddiwydiannol gan UNESCO yn Safle Treftadaeth y Byd. Daeth hyn yn gatalydd ar gyfer newid mawr o ran y ffordd yr oedd y byd ehangach yn edrych ar Flaenafon ond hefyd ar ei drigolion lleol.

Daeth yn amlwg y gallai ei dyfodol nawr orwedd yn y gorffennol diwydiannol yr oedd ar un adeg yn edrych yn segur.

Buddsoddiad y Loteri Genedlaethol

Heddiw, mae Blaenafon yn mwynhau rhyw fath o ddadeni, ac mae £8.7 miliwn o fuddsoddiad y Loteri Genedlaethol yn nhreftadaeth y dref wedi chwarae rhan allweddol yn adfer ei ffyniant, ei hyder a’i falchder.

Mae siopau canol tref Blaenafon yn cael eu hadfywio gydag arian y Loteri Genedlaethol. Agorodd Capel Bethlehem, adeilad sylweddol yn y dref, ei ddrysau ym mis Medi yn dilyn adnewyddiad mawr, a bellach gellir ei ddefnyddio'n ehangach gan y gymuned.

Derbyniodd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, gyllid sylweddol yn 2002 ac mae heddiw yn atyniad mawr i dwristiaid yn yr ardal. Mae ymwelwyr yn teithio o bob cwr o Ewrop i gael profiad uniongyrchol o bwll glo sydd ar waith o hyd.  

Mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon wedi'i hadfer yn ysgol St. Peter's ac mae'n fan cychwyn ar gyfer archwilio tirwedd ddiwydiannol Blaenafon. Wedi'i ariannu drwy'r Loteri Genedlaethol, mae hefyd yn darparu cyfleusterau cymunedol hanfodol, gan gynnwys llyfrgell, caffi, cyfleusterau cynadledda o'r radd flaenaf a chanolfan groeso.

Darganfyddwch mwy am effaith 25 mlynedd o arian y Loteri Genedlaethol ar dreftadaeth y DU.

25 mlynedd o ariannu treftadaeth

Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.

 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...