25 mlynedd: Lleisiau o Flaenafon

25 mlynedd: Lleisiau o Flaenafon

Blaenavon
Mae'r Loteri Genedlaethol wedi gwneud gwahaniaeth ysgubol i dreftadaeth bwysig trigiolion Blaenafon yn ne Cymru.

Ers mwy na chwarter canrif, mae'r Loteri Genedlaethol wedi bod yn gatalydd mawr i adfywhau ac adfywio cymunedau ledled y DU drwy dreftadaeth.

Buom yn ymweld â Blaenafon i weld sut y mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu’r dref ôl-ddiwydiannol i atgyfodi ac adfer ei hymdeimlad o falchder drwy fanteisio ar ei threftadaeth gyfoethog.

Stori’r glöwr

 

Mae Paul Green yn gyn-löwr sydd bellach yn rhan o'r tîm yn Big Pit, Amgueddfa Lofaol Genedlaethol ym Mlaenafon. Helpodd arian y Loteri Genedlaethol i sefydlu'r gloddfa, a gaeodd yn 1980, fel atyniad i ymwelwyr o'r radd flaenaf.

Mae Paul yn rhannu ei atgofion o'i amser yn gweithio yn y pyllau glo, pwysigrwydd y diwydiant ar y gymuned, a pham bod angen i genedlaethau'r dyfodol barhau i rannu’r straeon hynny.

"Dydw i ddim yn gwybod a allwch chi ddweud ei fod wedi'i fridio i chi, neu beth bynnag. Ond roedd yn ffordd o fyw. Roeddech chi’n cael eich magu ag ef."    

Stori’r proffesor pync

 

Mae'r Proffesor John Hunt yn gymharol newydd i Flaenafon, ond yn y flwyddyn ers iddo symud yno, mae’n teimlo’n hynod gartrefol.

Mae John yn aelod gweithgar o'r gymuned yng Nghapel Bethlehem. Yn dilyn buddsoddiad mawr gan y Loteri Genedlaethol, mae'r capel wedi cael ei adfer a'i weddnewid yn ganolbwynt cymunedol ffyniannus yng nghalon Blaenafon.

"Mae chwarae'r Loteri Genedlaethol yn golygu mwy na dim ond llenwi ychydig o dic ar ddarn o bapur yn y gobaith y gallech chi ennill rhywbeth. Rydych chi'n gwneud pethau gwych. Rydych chi'n helpu cymunedau i dyfu."

Y Llysgennad Ifanc

 

Mae Martha Meredith yn aelod gweithgar o'r hwb ym Mlaenafon, prosiect a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n archwilio treftadaeth amrywiol y dref. Mae hi'n rhannu pam ei bod yn caru Blaenafon a pham nawr, doedd hi ddim yn gallu dychmygu byw yn unrhyw le arall.

"Mae'r cysylltiad sydd gennym â'n gilydd... Dydw i ddim mwy na dau funud i ffwrdd oddi wrth rywun dwi'n ei garu... mae mwy i'n tref nag sydd i’w weld ar yr olwg gyntaf”

Dysgwch ragor am effaith 25 mlynedd o gyllid y Loteri Genedlaethol ar dreftadaeth y DU.

25 mlynedd o ariannu treftadaeth

Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...