Sut mae ein prosiectau'n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol

Sut mae ein prosiectau'n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol

Train travelling through countryside
Darganfyddwch brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy arferion cynaliadwyedd arloesol.

Mae ein byd naturiol dan fygythiad, ac mae'n gyfrifoldeb ar bawb i geisio ei ddiogelu – gan gynnwys y sector treftadaeth. Rydym eisoes wedi gweld effeithiau newid yn yr hinsawdd ar rai o'n treftadaeth annwyl yn y DU. 

Dyna pam yr ydym yn gofyn i bob prosiect a ariennir gennym ystyried sut y gallant wneud eu rhan i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Drwy wneud addasiadau wrth gynllunio a darparu prosiectau – ni waeth pa mor fawr neu fach – gall sefydliadau treftadaeth gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. 

Rydym wedi casglu rhai o'r enghreifftiau gorau o arferion cynaliadwyedd amgylcheddol arloesol i ddangos sut y gall prosiectau treftadaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

Mynwent Rectory Lane 

Dyfarnwyd £981,200 i Gyfeillion St Peter's yn 2017 am eu prosiect adfer mynwentydd drwy'r rhaglen Parciau i Bobl. Nod y prosiect hwn oedd trawsnewid mynwent Berkhamsted wedi'i hesgeuluso o "ofod marw" i le byw – lle y gallai'r gymuned gyfan ei ddefnyddio a'i fwynhau. 

Creodd y grantodd goridor bywyd gwyllt a oedd yn rhoi hwb i fywyd gwyllt lleol. Roeddent hefyd yn lleihau eu defnydd o ynni, yn defnyddio cyflenwyr cynaliadwy lleol ac yn hyrwyddo arferion cynaliadwy i'w hymwelwyr. 

Grave surrounded by daisies at Rectory Lane Cemetery
Bedd wedi'i amgylchynu gan lygaid y dydd ym Mynwent Rectory Lane

Trafnidiaeth Cymru 

Yn dilyn grant o £100,000, bydd Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid hyd at 22 o orsafoedd trên ledled Cymru er mwyn ceisio hybu bioamrywiaeth. 

Bydd yr arian o'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cefnogi gosod cychod gwenyn, tai adar, blychau ystlumod a llawer o gartrefi eraill ar gyfer bywyd gwyllt mewn llawer o orsafoedd trên y wlad. Bydd llawer hefyd yn cynnwys toeau gwyrdd, bwtiau dŵr a phlanhigfeydd, ynghyd â choed sydd newydd eu plannu. 

Volunteers planting flowers at a Welsh train station
Gwirfoddolwyr yn plannu blodau mewn gorsaf drenau yng Nghymru

Museum of Making 

Derbyniodd yr Amgueddfa Museum of Making £10.6miliwn i adnewyddu melin sidan 1721 yn Derby. Sicrhaodd yr amgueddfa eu bod yn ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol drwy gydol pob cam o'r prosiect mawr yma. 

Roedd rhai o'r newidiadau'n cynnwys rheoleiddio tymheredd cynaliadwy ar yr adeilad a gosod goleuadau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Roeddent hefyd yn lleihau'r gwaith o ddymchwel adeiladau presennol a deunyddiau wedi'u hailgylchu gan gynnwys 11,000 o friciau, a gafodd eu glanhau gan wirfoddolwyr a'u hailddefnyddio. 

Gosododd yr amgueddfa flychau nythu a blychau ystlumod ar gyfer bywyd gwyllt lleol ac annog ymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy. 

Inside the Museum of Making, Derby
Y tu mewn i'r Museum of Making, Derby

Cefnogi cynaliadwyedd

Os ydych yn cynllunio prosiect newydd ar gyfer eich sefydliad treftadaeth, meddyliwch sut y gallech ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol o'r cychwyn cyntaf. Rydym wedi casglu gwybodaeth, awgrymiadau ac enghreifftiau o brosiectau defnyddiol at ei gilydd i'ch helpu ar eich taith i gynaliadwyedd.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...