Disgyblion ysgol yn cael blas ar natur yng nghoedwigoedd hynafol Caerdydd

Disgyblion ysgol yn cael blas ar natur yng nghoedwigoedd hynafol Caerdydd

A standing man talking to children sitting on the edge of woodland
Bu disgyblion o Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-Graig ar ymweliad i fforestydd Gwern-y-Bendy a Rhydypennau fel rhan o brosiect cadwraeth wedi ei ariannu gan y rhaglen Coetiroedd Cymunedol.

Cefndir y prosiect

Mae’r coetiroedd yng ngogledd ddwyrain Caerdydd yn gorchuddio 6.2 hectare o safle Cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien. Ers 2016, mae Dŵr Cymru wedi bod yn gyfrifol am y safle ac mae'r cwmni wrthi’n gweithio i adfer y safle a'i droi yn barth cadwraeth. 

Er nad yw’r safle ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd, y bwriad yn y pendraw yw ei agor fel hwb ar gyfer hamdden, iechyd a llesiant ar gyfer pobl lleol yn bennaf.

Bydd y grant Coetiroedd Cymunedol yn caniatau i wirfoddolwyr weithio ochr yn ochr gyda grwpiau cadwraeth er mwyn rheoli y fforestydd hynafol. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys cael gwared ar rywogaethau anfrodorol fel bod planhigion brodorol megis clychau’r gôg yn gallu ffynnu.

Yn ogystal, byddant yn mynd ati i adfer pwll pysgod hanesyddol er mwyn denu mwy o fywyd gwyllt i’r fforestydd a bydd llwybrau cerdded a llyndanffyrdd newydd hefyd yn gwneud y safle yn fwy hygyrch i’r cyhoedd. 

A reservoir Cronfa ddŵr Llys-faen

Dysgu yn yr awyr agored

Mae’r prosiect yn ymgysylltu gyda’r gymuned leol trwy weithgareddau addysgiadol a bu disgyblion blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-Graig yno yn ddiweddar. Dysgodd y plant am fywyd gwyllt y safle – gan gynnwys dyfrgwn, ystlumod, llwynogod a’r wyach gribog wych a chymryd rhan mewn gweithdy lles ac ymwybyddiaeth ofalgar.

Meddai Rachel Antoniazzi, Dirprwy Brifathrawes Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-Graig: “Mae ein clwb cadwraeth wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i greu adnoddau dysgu ar gyfer plant sydd yn ymweld â choetiroedd Gwern-y-Bendy a Rhydypennau. Roedd yn braf i’r disgyblion ymeld a’r safle a roedd pawb wedi mwynhau eu hunain a dysgu llawer."

Meddai Alun Shurmer. Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid ac Ymgysylltu: “Pleser mawr oedd croesawu y disgyblion i ein safle a rhoi cyfle iddynt gael profiad ymarferol o brosiectau sydd yn helpu i ddiogelu’r coetiroedd.

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli y disgyblion i fagu ddiddordeb yn y coetiroedd a chymryd rhan yn eu rheoli mewn modd cynaliadwy.”

 

A group of children in woodlandDisgyblion Blwyddyn 5 ar eu hymweliad

Barn y disgyblion

“Dwi wedi dysgu fod y coed yn cyfathrebu gyda’u gilydd a doeddwn i ddim y gwybod fod y lle yma’n bodoli. Mae’n le cyffrous iawn a mae ystlymod, llywnogod a dyfrgwn yma.” Oscar, 10 oed
 

Dyma sywladau rhaoi o'r disgyblion am yr ymweliad:

“Dwi wedi dysgu am rywogaethau newydd nad oeddwn yn gwybod amdanyn nhw o’r blaen a doeddai ddim yn gwybod fod y cronfeydd yn bodoli cyn heddiw.” Phoebe, 10 oed.

“Dwi wedi dysgu fod y coed yn cyfathrebu gyda’u gilydd a doeddwn i ddim y gwybod fod y lle yma’n bodoli. Mae’n le cyffrous iawn a mae ystlymod, llywnogod a dyfrgwn yma.” Oscar, 10 oed.

“Rwy’n hoffi fod y dŵr yn symud yn wahanol i’r môr a dwi wedi mwynhau dysgu am yr holl anifeiliad sydd yma.”    Amelia, 10 oed.

“Roeddwn i wedi synnu pa mor fawr oedd y cronfeydd a hefyd bod yna ddyfrgwn yn byw yma.” Immie, 10 oed.

Grantiau Coetiroedd Cymunedol

Rydym yn dosbarthu grantiau Coetiroedd Cymunedol fel rhan o raglen Coedwig Genedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru. Mae nawdd o £10,000 - £250,000 ar gael i gyrff nid er elw reoli neu greu coetiroedd newydd yng Nghymru. Mae'n rhaid i prosiectau sydd yn cael eu ariannu gan y cynllun hyrwyddo cyfranogiad cymunedol. 

Sut i wneud cais am grant Coetiroedd Cymunedol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...