Cymru
O'n harfordiroedd a'n cestyll, ein tirweddau, ein llenyddiaeth a'r iaith lafar hynaf yn Ewrop, mae gan Gymru dreftadaeth hynafol a chwedlonol. Mae'n dir o fryniau tonnog; adfeilion hanesyddol; a threftadaeth ddiwydiannol a welodd un tro lechi a glo Cymru yn cael eu hallforio ledled y byd.
Cyllid sydd ar gael
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o £3,000 hyd at filiynau o bunnoedd.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Cymru
Cynllun grant cyfalaf gyda'r bwriad o alluogi cymunedau yng Nghymru i adfer a gwella natur.
Coetiroedd Bach yng Nghymru
Cynllun grant gyda’r nod o greu Coetiroedd Bach, fel rhan o Goedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru.
Cysylltwch â ni
E-bost: cymru@heritagefund.org.uk
Rhif Ffôn: 029 2034 3413 (Dydd Llun i Gwener, 9.00am–5.00pm)
Rydym yn gwbl weithredol ac yn agored i fusnes, ond rydym yn cynnal llawer o'n gwaith o ddydd i ddydd o’n cartrefi.
Anfonwch unrhyw eitemau drwy e-bost at eich cyswllt neu drwy'r prif gyfeiriad: cymru@heritagefund.org.uk
Mae gennym dîm cwbl ddwyieithog yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf. Rydym yn croesawu galwadau ffôn (Opsiwn 1 i siarad ag aelod o staff yn Gymraeg), e-byst a llythyrau yn Gymraeg ac yn Saesneg a ni fydd defnyddio'r Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi ychwanegol wrth ymateb. I gael rhagor o wybodaeth am y Gymraeg ac i glywed mwy am ein cynnydd presennol wrth i ni ddiweddaru ein Cynllun Iaith Gymraeg presennol, ewch i'r dudalen yma.
Ymweld â ni a chael mynediad
Cyfeiriad: Clockwise Offices, Tŷ Brunel, 2 Ffordd Fitzalan, Caerdydd, CF24 0EB
Os ydych yn dymuno ymweld â ni wyneb yn wyneb, gyrrwch e-bost neu ffoniwch ni ymlaen llaw i drefnu apwyntiad.
Mae mynediad i'r adeilad ar bafin gwastad ac mae drysau cylchdroi a phweredig. Mae grisiau gyda chledrau llaw i fynedfa'r dderbynfa, ac mae lifft blatfform sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn hefyd. Lleolir y swyddfa, sy'n hygyrch, ar lawr y dderbynfa. Mae toiledau hygyrch yn yr adeilad a lifftiau i bob llawr.
Digwyddiadau sydd ar y gweill
Mae ein gweithdai ariannu a'n sesiynau cynghori rheolaidd yn gyfle gwych i gael gwybod am ein cyllid, cael awgrymiadau ar sut i wneud cais da a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill o'ch ardal.
Publications
Cymru: cyfarfod dirprwyedig Awst 2023
Publications
Penderfyniadau Pwyllgor Cymru Mehefin 2023
Publications
Cymru: cyfarfod dirprwyedig Gor 2023
Projects
Achub Coedwig Glaw Geltaidd yng Nghwm Elan
Caiff trigolion Sir Faesyfed well mynediad i ardal o goedwig law dymherus - cynefin hynod brin a fydd yn cael ei warchod a'i reoli'n well.
Projects
Datblygu Parc y Moch yn ganolfan weithgareddau awyr agored a lles
Mae coetir ger Bethesda yn Nyffryn Ogwen yn cael ei drawsnewid yn ofod awyr agored i bawb.
Publications
Cymru: cyfarfod dirprwyedig Mehefin 2023
Projects
Natur am Byth – Achub Rhywogaethau dan Fygythiad Cymru
Mae partneriaeth Natur am Byth yn dod â deg sefydliad cadwraeth blaenllaw at eu gilydd i ddiogelu ac achub 67 o rywogaethau mwyaf bregus Cymru.
Newyddion
Hwb i wiwerod coch sydd mewn perygl a beleod yng Ngogledd Cymru
Newyddion
Gallwch wneud cais nawr am grantiau hyd at £10 miliwn
Newyddion
Gwnewch gais nawr am grantiau o £70,000 i gefnogi sefydliadau adfywio treftadaeth adeiledig
Publications
Cymru: cyfarfod dirprwyedig Mai 2023
Newyddion