Cymru: penderfyniadau dirprwyedig mis Tachwedd 2025
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
Remembering the Soldiers of Blaenavon
Ymgeisydd: Grŵp Treftadaeth Blaenafon
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect deuddeg mis i goffáu milwyr a gollodd eu bywydau ar blac newydd ar senotaff Blaenafon ac argraffu llyfr am eu bywydau.
Penderfyniad: Gwrthod
The Leadership Excellence Hub & The Re-integration Hub of Parc Dewi Sant
Ymgeisydd: EMPATHYWORKS COMMUNITY INTEREST COMPANY
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect tair blynedd sydd â'r nod o greu canolfan rhagoriaeth ailintegreiddio ac arweinyddiaeth o fewn Adeilad 8 ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin. Dyma hen Noddfa Caerfyrddin sydd bellach yn ganolfan fusnes.
Penderfyniad: Gwrthod
Beyond Modern Britain 2025
Ymgeisydd: BAME ONLINE COMMUNITY TELEVISION
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect dwy flynedd arfaethedig i addysgu cymuned BAME Abertawe am dreftadaeth a diwylliant Prydain trwy ymweld â safleoedd hanesyddol.
Penderfyniad: Gwrthod
Bloom and Learn – developing our school garden
Ymgeisydd: Ysgol Gynradd Tŷ'n y Wern
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect 9 mis i ddatblygu gardd ysgol gynradd sydd heb ei defnyddio'n ddigonol, drwy: blannu planhigion, blodau a llwyni brodorol; sefydlu cartrefi i anifeiliaid fel tai draenog; creu cuddfan adar a man dysgu; ac adeiladu llwybr hygyrch.
Penderfyniad: Gwrthod
Rooted in Coal, Written in Ink
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect blwyddyn i ddod â chreadigrwydd chwarae gemau a threftadaeth Cwm Rhondda ynghyd.
Ymgeisydd: The Ink & Coal Collective
Penderfyniad: Gwrthod
We Love Cwmcelyn
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect arfaethedig 16 mis sydd â'r nod o gynyddu gweithgarwch ac ymgysylltiad, a deall a diogelu bioamrywiaeth a threftadaeth Pyllau Cwmcelyn a'r mannau gwyrdd cyfagos yn well.
Penderfyniad: Gwrthod
100 Welsh Women: A Living Archive of Wales' Changemakers
Ymgeisydd: Women's Equality Network (WEN) Wales
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect arfaethedig 23 mis i ailddychmygu ac adfywio'r Fenter 100+ o Fenywod Cymru.
Penderfyniad: Gwrthod
Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn Y Mor 50th Celebrations
Ymgeisydd: Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn Y Môr
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect arfaethedig dros gyfnod o ddeng mis sy'n chwilio am gefnogaeth i ddathlu pen-blwydd Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn Y Môr yn 50 oed.
Penderfyniad: Gwrthod