Mae ein buddsoddiad o £3.7 miliwn yn helpu Rheilffordd Tal-y-llyn i warchod treftadaeth drafnidiaeth drysoredig

Mae ein buddsoddiad o £3.7 miliwn yn helpu Rheilffordd Tal-y-llyn i warchod treftadaeth drafnidiaeth drysoredig

Mae locomotif ager yn tynnu i mewn i orsaf wedi'i hamgylchynu gan gennin pedr gyda'r gyrrwr yn pwyso allan o ddrws yr injan
Un o locomotifau Tal-y-llyn. Credyd: Luke Ryan.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd rheilffordd eiconig Gogledd Cymru yn parhau i ysbrydoli a chysylltu pobl am genedlaethau i ddod.

Bydd ariannu gwerth £3,697,911 yn rhoi hwb trawsnewidiol i Reilffordd Tal-y-llyn, sydd wedi bod yn atyniad treftadaeth hoff annwyl ers 75 mlynedd ac yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru UNESCO.

Wedi'i hadeiladu'n wreiddiol ym 1864 i wasanaethu chwarel lechi Bryneglwys, cafodd ei hachub gan wirfoddolwyr ym 1951 fel rheilffordd gadwraethol gyntaf y byd.

Ymhlith gwirfoddolwyr nodedig y rheilffordd roedd y Parch. Wilbert Awdry, awdur straeon Tomos y Tanc. Cymerodd Awdry ysbrydoliaeth ar gyfer Rheilffordd ffuglennol Skarloey o Dal-y-llyn a seiliodd sawl cymeriad ar ei locomotifau gwreiddiol.

Cyfleusterau gwell

Gyda'n cefnogaeth ni, bydd Rheilffordd Tal-y-llyn yn parhau i gryfhau cymunedau lleol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu a gwirfoddoli

Ffotograff wedi'i roi mewn lliw o'r 1950au yn dangos torf yn ymgynnull o amgylch trên ager
Y rheilffordd ym 1951. Credyd: Casgliad Tal-y-llyn, wedi'i rhoi mewn lliw gan Tom Marshall (PhotograFix).

Bydd y prosiect yn adnewyddu gorsafoedd hanesyddol ac yn eu hail-ddychmygu fel profiadau i ymwelwyr sy'n dathlu straeon lleol.

Bydd llety newydd i wirfoddolwyr yn creu mannau croesawgar i gefnogi rhaglen wirfoddolwyr sy'n tyfu a phrentisiaethau peirianneg.

Bydd hyb cymunedol yn cynnig dehongliad dwyieithog a chyfleusterau hygyrch i ysgolion a grwpiau lleol a bydd uwchraddiadau peirianneg mawr, gan gynnwys gofodau gweithdy estynedig a chyfleusterau gwaith coed gwell er mwyn cynnal a chadw'r cerbydau drwy gydol y flwyddyn.

Trysor treftadaeth

Mae cyhoeddiad heddiw yn cael ei wneud ar yr un pryd â'r Diwrnod Trysorau Treftadaeth, ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy'n arddangos yr ystod amrywiol o brosiectau treftadaeth ar draws y DU sy'n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Meddai Andrew White, cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Ar Ddiwrnod Trysorau Treftadaeth rydym yn falch o gyhoeddi ein cefnogaeth ariannu ddiweddaraf o bron i £3.7m ar gyfer Rheilffordd Tal-y-llyn.

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd yr ariannu hwn yn helpu sicrhau dyfodol rheilffordd gadwraethol gyntaf y byd, gan amddiffyn ei threftadaeth ddiwydiannol nodedig a’r mudiad gwirfoddolwyr a arloesodd gadwraeth rheilffyrdd.

Mae tri o bobl yn sefyll o flaen trên ager gyda stamp cydnabyddiaeth y Gronfa Treftadaeth ar y blaen
Rheilffordd Tal-y-llyn. Credyd: Nathan Spence, 2026.

“Bydd y buddsoddiad yn gwella gorsafoedd a gweithdai hanesyddol, yn cefnogi gwirfoddolwyr a phrentisiaid ac yn creu mannau croesawgar i gymunedau lleol gysylltu â’u treftadaeth.

“Wrth i reilffordd Tal-y-llyn agosáu at ei phen-blwydd yn 75 oed yn 2026, rydym wrth ein bodd i helpu sicrhau bod y rheilffordd hoff annwyl yma yn parhau i ysbrydoli a chael ei mwynhau am genedlaethau i ddod.”

Rydym yn ariannu treftadaeth ddiwydiannol

Ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £630 miliwn i fwy na 1,600 o brosiectau diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth ar draws y DU.

Mynnwch olwg ar fwy o'r prosiectau treftadaeth ddiwydiannol rydym wedi'u cefnogi, o reilffyrdd a llongau i gamlesi a melinau. 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...