#TrysorauTreftadaeth – Cymerwch ran ar 14 Ionawr 2026
Ymunwch â ni ar 14 Ionawr 2026 ar gyfryngau cymdeithasol i ddathlu eich storïau, gwrthrychau, lleoedd, a phobl treftadaeth ysbrydoledig.
Y llynedd, cymerodd miloedd ran ac ysbrydolwyd miliynau – gadewch i ni wneud 2026 hyd yn oed yn well ac atgoffa pobl ym mhob man o'r dreftadaeth ar garreg eu drws.
Beth fydd eich trysor treftadaeth?
Gallai fod yn eitem gasgliad ysbrydoledig, yn barc hardd, yn daith gerdded y gaeaf, eich hoff amgueddfa neu stori o'ch ardal leol.
Efallai eich bod wedi mwynhau prosiect treftadaeth ar-lein anhygoel, neu efallai mai'r staff a'r gwirfoddolwyr yn eich lleoliad yw eich gwir drysorau treftadaeth.
Mae cymryd rhan yn ffordd wych o arddangos eich gwaith neu leoliad. Os ydych chi wedi cael eich ariannu, mae hefyd yn gyfle gwych i gydnabod eich grant a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth.
Sut i gymryd rhan
Rhannwch lun, defnyddiwch yr hashnod #TrysorauTreftadaeth a thagiwch ni – @HeritageFundUK – ar draws Instagram, Facebook ac unrhyw le arall rydych chi'n hoffi postio..
Rhywfaint o ysbrydoliaeth postio:
- #DiwrnodTrysorauTreftadaeth Hapus! I ddathlu gyda @HeritageFundCYM rydyn ni'n tynnu sylw at dlws treftadaeth (nodwch y lle/prosiect), gyda diolch i chwaraewyr y #LoteriGenedlaethol
- Rydyn ni'n ymuno â @HeritageFundCYM i ddathlu #TrysorauTreftadaeth! Heddiw rydyn ni'n arddangos y (nodwch y lle/prosiect) ysblennydd. (Nodwch ffaith am y lle/prosiect)
- Y Diwrnod #TrysorauTreftadaeth yma rydyn ni'n taflu goleuni ar [enw'r person], y mae ei waith gwych wedi bod yn hanfodol i'n prosiect treftadaeth - oll yn bosibl diolch i gefnogaeth gan #LoteriGenedlaethol @HeritageFundCYM
Ni allwn aros am weld eich postiadau.
I gael mwy o ysbrydoliaeth, bwrw golwg ar bostiadau #TrysorauTreftadaeth y llynedd ar Instagram.