Gwnewch gais am wobr Cyflawniad Cynaladwyedd Rhagorol 2027

Gwnewch gais am wobr Cyflawniad Cynaladwyedd Rhagorol 2027

Person yn sefyll gyda blwch o lysiau a dyfwyd yng ngardd yr archifau
Enillydd ar y cyd 2026: Hannah, Swyddog Prosiect Archifau Swydd Gaerloyw, gyda llysiau wedi'u cynaeafu o'r ardd gymunedol. Credyd: Archifau Swydd Gaerloyw.
Rydym yn falch o noddi gwobr cynaladwyedd y gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth, gan ddathlu prosiectau ac arddangosfeydd rhagorol sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae'r sector treftadaeth yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i daclo newid yn yr hinsawdd a diogelu ein byd naturiol. Rydym yn chwilio am brosiectau neu arddangosfeydd amgylcheddol gynaliadwy sy'n helpu i gyflawni hyn.

Gellir gwneud cais am y wobr, a elwid gynt yn Brosiect Cynaliadwy y Flwyddyn, am ddim ac mae ar agor tan 29 Ionawr 2027.

Mae’r gwaith hwn yn fwy perthnasol nag erioed, ac ni allwn aros am ddathlu'r prosiectau cynaladwyedd cyffrous y mae'r sector wedi'u cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf.

Alistair Brown, Pennaeth Polisi Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Mae’r wobr yn helpu i daflu goleuni ar ddulliau creadigol a all hefyd ysbrydoli eraill i ymgorffori cynaladwyedd wrth wraidd yr hyn a wnânt.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Mae’r gwobrau’n agored i bob amgueddfa, oriel ac archifdy, yn ogystal â sefydliadau treftadaeth ddigidol, ddiwylliannol, naturiol ac adeiledig, ac atyniadau i ymwelwyr.

Rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais fod wedi’u lleoli yn y DU a rhaid bod y prosiect neu'r arddangosfa wedi cael eu cyflwyno yn 2026.

Beth mae'r wobr yn ei gydnabod?

Mae'r wobr yn canmol prosiectau neu arddangosfeydd amgylcheddol gynaliadwy rhagorol sy'n dangos arfer gorau wrth reoli neu gyfathrebu effeithiau amgylcheddol.

Efallai bod cynigion wedi defnyddio, er enghraifft, mesurau effeithlonrwydd ynni, cynlluniau teithio gwyrdd i ymwelwyr neu ymagweddau unigryw at ennyn diddordeb cynulleidfaoedd yn yr argyfwng hinsawdd. Dylech hefyd nodi unrhyw fanteision economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol ehangach i'r sefydliad neu'r gymuned sydd wedi deillio o 'feddwl yn gynaliadwy’.  

Bydd hyd at ddau enillydd

  1. Un sydd wedi defnyddio dulliau syml, fforddiadwy a hawdd eu trosglwyddo.
  2. Un sydd â chynaladwyedd amgylcheddol yn ganolog iddo.

Mynnwch ysbrydoliaeth drwy edrych ar rai o'n henillwyr blaenorol gan gynnwys Palas Lambeth ac Archifau Swydd Gaerloyw yn 2026 a Stourbridge Glass Museum a Railworld Wildlife Haven yn 2025.

Dyddiadau allweddol

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 29 Ionawr 2027
  • Cyhoeddi'r rhestr fer: canol mis Mawrth 2027
  • Cyhoeddi'r enillwyr mewn seremoni wobrwyo: 12 Mai 2027

Cefnogi adferiad byd natur a'r amgylchedd

Meddai Alistair Brown, Pennaeth Polisi Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rydym yn hynod o falch o noddi'r wobr hon, sy'n ymwneud ag arddangos y prosiectau amgylcheddol gorau yn y sector treftadaeth ac annog eraill i weithredu.

"Mae’r enillwyr blaenorol wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld eich ceisiadau eleni. Mae'r gwaith hwn yn fwy perthnasol nag erioed, ac ni allwn aros am ddathlu'r prosiectau cynaladwyedd cyffrous y mae'r sector wedi'u darparu dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Ewch i wefan y gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.

Rhedeg prosiect amgylcheddol gynaliadwy

Cael gwybod beth rydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn a darganfod rhai awgrymiadau ar sut i fod yn amgylcheddol gynaliadwy:

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...