Cofrestrwch eich prosiect ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2027
Ers gêm gyntaf y Loteri Genedlaethol ym 1994, £53 biliwn wedi'i godi ar gyfer achosion da ym meysydd treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon, ffilm a chymuned.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na 690,000 o brosiectau fel un chi wedi cael eu hariannu. Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn diolch i'r chwaraewyr am eu cefnogaeth wrth wneud eich prosiect yn bosibl.
Beth yw Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol?
Cynhelir Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol rhwng dydd Sadwrn 13 a dydd Sul 21 Mawrth 2027. Gall unrhyw un sy'n ymweld â lleoliad neu brosiect a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol gyda thocyn Loteri Genedlaethol, Gêm Instant Win neu gerdyn crafu (ffisegol neu ddigidol) fanteisio ar gynnig 'diolch' arbennig.
Sut fath o beth yw'r cynnig arbennig?
O fynediad am ddim a theithiau y tu ôl i'r llenni i rodd i ddweud diolch neu baned o de, mae yna gynifer o ffyrdd o ddweud diolchi chi yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol.
Yn flaenorol, mae cynigion poblogaidd wedi cynnwys:
- mynediad am ddim i Barc Cerfluniau Swydd Efrog
- mynediad am ddim i gannoedd o leoliadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- taith dywysedig am ddim y tu mewn i'r Kelpies eiconig yn The Helix, Falkirk
- gostyngiad 50% oddi ar fynediad i Gastell a Gerddi Hillsborough yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon
- mynediad 2-am-1 i theatrau 4D yn Amgueddfa'r RAF
- teithiau am ddim o Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru
- taith dywysedig am ddim yn RSPB Ynys Lawd, Caergybi
Pam y dylech gymryd rhan?
Gallwch ddweud 'diolch' wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am yr ariannu y mae eich sefydliad wedi'i dderbyn a chydnabod eich grant. Eich cyfle chi ydyw i ddangos pa wahaniaeth mae'r cymorth hwnnw wedi'i wneud mewn ffordd glir ac uniongyrchol.
Mae hefyd yn gyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith rydych chi'n ei wneud. Bydd llawer o amlygrwydd cyhoeddus yn cael ei roi i'r wythnos, gan gynnwys ymgyrch gyffrous yn y cyfryngau, hysbysebion a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn olaf, mae’n gyfle gwych i groesawu cynulleidfaoedd newydd. Y llynedd fe wnaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol adbrynu mwy na 125,000 o gynigion a dywedodd lleoliadau fod yr Wythnos Agored wedi eu helpu i ddenu cynulleidfa ehangach a mwy amrywiol.
Yn 2026, dywedodd 99% o'r prosiectau a gwblhaodd arolwg cyfranogwyr y Loteri Genedlaethol y byddent yn cymryd rhan eto ac y byddent yn argymell cymryd rhan i eraill.
Cymerwch ran
Drwy gofrestru'n gynnar, gallwch gymryd mwy o ran yn yr ymgyrch hyrwyddo. Cofrestrwch eich cynnig erbyn 31 Rhagfyr 2026.