Mali Gupta-Archer

Mali Gupta-Archer
Role
Arweinydd Treftadaeth y Dyfodol i Gymru
Mae Mali Dinesh Gupta-Archer yn fyfyriwr hanes sy'n canolbwyntio ar fudiadau gwrth-drefedigaethol.

Tyfodd Mali i fyny yn clywed straeon o'i hen-hen ewythr, Dinesh Gupta, chwyldroadwr ym Mudiad Annibyniaeth India. Arweiniodd y straeon hyn at ddiddordeb mawr Mali mewn mudiadau rhyddid gwleidyddol. Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu ei draethawd hir ar gyfer gradd Meistr Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, gan alw ar archif deuluol, gan gynnwys llythyrau carchar Dinesh Gupta.

Mae Mali yn gweld treftadaeth sy'n ennyn diddordeb cymunedau lleol ac yn annog adrodd straeon fel ffurf o gofio sy'n arbennig o ystyrlon. Mae hefyd yn gyffrous am y broses o ddad-wladychu hanes drwy wahodd lleisiau newydd i'r blaen, fel gwrthbwys i naratifau amlwg.

Ei hoff brosiect diweddar oedd South Asian Britain: Connecting Histories, yr ysgrifennodd gofnod ar ei gyfer ar Kristnalal Datta, meddyg o Dde Asia yn gweithio yng Nghwm Rhondda ddechrau'r 1900au ar ei gyfer. Mae hefyd wedi cynnal ymchwil ar gyfer Canllaw Archifau Morganwg i Ffynonellau ar gyfer Astudio Hanes Lleiafrifoedd Ethnig ac ar hyn o bryd mae'n gwirfoddoli gyda Heritage and Cultural Exchange i gatalogio eu casgliadau ar Fae Teigr. Yn fwyaf diweddar, bu’n gweithredu fel ffrind beirniadol, gan ymgynghori ag Amgueddfa Horniman ar gyfer eu harddangosfa, Meeting Mohini.